Sut i gynhyrchu paneli ffrâm bren uwch ar gyfer adeiladau perfformiad uchel
8/6/22
Hyfforddiant arddangos ynghylch defnyddio technegau ffrâm bren panel caeedig perfformiad uchel a chwistrellu inswleiddiad naturiol
Gwybodaeth am y digwyddiad Mae maes adeiladu ffrâm bren yn datblygu’n gyflym. Gwelir bod safonau perfformiad ynni sy’n codi’n gyson yn sbarduno arloesi cyflym o ran dychmygu a chyflawni adeiladau ffrâm bren. Enghraifft o hyn yw’r newid o ddefnyddio paneli agored i ddull adeiladu paneli caeedig â thoriad thermol sydd â gofynion anoddach eu meistroli. Ar ben hynny, mae ystyriaethau o ran ecoleg, iechyd ac adnoddau yn golygu bod y symudiad oddi wrth gynhyrchion petrocemegol tuag at ddatrysiadau mwy naturiol sy’n defnyddio adnoddau mewn modd effeithlon yn cyflymu. Bydd y digwyddiad hyfforddiant arddangos hwn yn cyflwyno’r cyfranogwyr i dechnegau ffrâm bren panel caeedig perfformiad uchel a gynhyrchir i fodloni safon heriol Passivhaus ac yn cynnwys chwistrellu inswleiddiad naturiol.
Cynulleidfa: Gweithwyr datblygu tai proffesiynol, penseiri, contractwyr, gweithgynhyrchwyr ffrâm bren, myfyrwyr
Siaradwyr: James Moxey (Woodknowledge Wales), Jasper Meade (PYC)
Fformat: Digwyddiad cyfunol sy’n cynnig cyfranogiad wyneb yn wyneb ac ar-lein (trwy Zoom).
- Tocynnau ar-lein: 100 o leoedd (11am-12.30pm)
- Tocynnau wyneb yn wyneb: 20 o leoedd (11am-15.30pm)
RHAGLEN
Rhan 1 Theori (wyneb yn wyneb ac ar-lein)
11.00 Uwch-ddylunio paneli
11.30 Chwistrellu Inswleiddiad Cellwlos
12.00 Sesiwn holi ac ateb
12.30 Diwedd
Rhan 2 Gwaith Ymarferol (wyneb yn wyneb yn unig)
13.30 Gweithdy Ymarferol: Uwch-weithgynhyrchu fframiau pren, gan gynnwys dylunio, gosod, tapio a chwistrellu inswleiddiad naturiol.
15.30 – Diwedd
COFRESTRU
Mae mynediad am ddim i’r digwyddiad hwn ond mae’n rhaid cofrestru trwy Eventbrite YMA.
Sut i greu adeiladau sy’n gweithio: technegau ar gyfer mesur perfformiad adeilad
17/6/22
Camau ymarferol ar gyfer mesur sut mae adeiladau’n perfformio yn y byd go iawn y gall darparwyr tai a’u timau dylunio eu mabwysiadu
Gwybodaeth am y digwyddiad
Mae oes ynni rhad ar ben. Er mwyn rhoi sylw i ‘gynhesrwydd fforddiadwy’ yn ogystal â’n goblygiadau o ran y newid yn yr hinsawdd, mae arnom angen defnyddio llawer llai o ynni a symud ar yr un pryd i ddulliau ynni adnewyddadwy.
Sut y mae darparu deunyddiau adeiladu perfformiad uchel, symud yn gyflym at ynni adnewyddadwy a gwneud hynny’n iawn? Un cam hanfodol ar y daith hon yw mesur a deall sut y mae ein hadeiladau’n perfformio yn y byd go iawn. Mae Gwerthuso Perfformiad Adeiladau (BPE) yn prysur ddod yn nodwedd ganolog o greu adeiladau gwell sy’n gweithio. Bydd y digwyddiad hwn yn arddangos dulliau ymarferol o fesur sut y mae ein cartrefi a’n hadeiladau yn perfformio yn y byd go iawn y gall darparwyr tai a’u timau adeiladu eu deall a’u mabwysiadu. Bydd y technegau monitro BPE a ddefnyddir yn ystod y gweithdy hwn yn cynnwys:
- Prawf Pwls (Aerglosedd)
- SmartHTC (colli gwres o’r adeilad cyfan)
- Platiau Llif Gwres (gwerthoedd-u)
Cynulleidfa: Gweithwyr datblygu tai proffesiynol, penseiri, syrfewyr, myfyrwyr
Fformat: Digwyddiad wyneb yn wyneb – mwyafswm o 20 o leoedd
Siaradwyr: Richard Jack (BTS) a Diana Waldron (Woodknowledge Wales)
RHAGLEN
Rhan 1 Theori:
Theori, Astudiaethau Achos a sesiwn Holi ac Ateb ar amrywiol dechnegau BPE
Rhan 2 Gwaith Ymarferol:
Arddangosiad a chyfle ymarferol i ddefnyddio’r cyfarpar mewn adeiladau sy’n destun profion yn y byd go iawn.
Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o Trawsnewid Menter Pren | Transforming Timber Enterprise – cyfres o ddigwyddiadau sy’n darparu ysbrydoliaeth, gwybodaeth a sgiliau ar gyfer amgylchedd adeiledig di-garbon.
Mae trawsnewid i fyd di-garbon yn creu cyfleoedd newydd a chyffrous i ddatblygu busnesau a sgiliau. Nod y gyfres hon o ddigwyddiadau a arweinir gan arbenigwyr yw ysbrydoli sefydliadau yn gyffredinol, a phobl ifanc yn benodol, i ddod i ddeall mwy am y cyfleoedd sy’n codi yn sgil y trawsnewid cyflym i amgylchedd adeiledig di-garbon, a’u coleddu. Mae’r digwyddiadau arddangos hyn yn cwmpasu agweddau hanfodol ar adeiladu newydd ac ôl-osod, ac yn canolbwyntio ar ddod i ddeall mwy am y defnydd o gynhyrchion pren a’r coedwigoedd sy’n eu cynhyrchu.
Sut i gynllunio a chyflawni Gwerthusiad o Berfformiad Adeilad ar gyfer ôl-osod
21/6/22
Her gwerthuso perfformiad adeiladau yn dilyn ôl-osod, o’r arolwg cychwynnol i fodelu datrysiadau, rhoi mesurau ar waith a rheoli’r ased yn y dyfodol
Gwybodaeth am y digwyddiad
Er mwyn cyflawni ein targedau lleihau carbon, mae’n rhaid canolbwyntio ar y tai sydd eisoes wedi’u hadeiladu yn ogystal â’r rhai sy’n cael eu hadeiladu yn awr.
Mae’r tai sydd eisoes yn bodoli yn fath arbennig o her oherwydd y ffordd y cawsant eu hadeiladu, y deunyddiau a ddefnyddiwyd i’w hadeiladu a sut mae hynny’n cyfyngu ar y posibiliadau ôl-osod. Mae angen i ni ddysgu sut i gymhwyso technegau ac offer gwerthuso perfformiad adeiladau (BPE) os ydym am fanteisio i’r eithaf ar y posibiliadau hyn.
Bydd y weminar hon yn rhoi sylw i her benodol BPE ar gyfer ôl-osod â phren, o’r arolwg cychwynnol er mwyn deall y cyfleoedd i inswleiddio, awyru a gwresogi, i fodelu datrysiadau, rhoi mesurau ar waith a rheoli’r asedau yn y dyfodol – fel bod yr ôl-osod yn gwella ac yn cynnal perfformiad yr adeilad. Bydd y weminar yn cynnwys cyfraniadau ar fesur perfformiad presennol adeiladau, modelu a dylunio ymyriadau, a sut i ddelio â lleithder – un o’r meysydd risg pennaf mewn ôl-osod.
Cynulleidfa: Gweithwyr datblygu tai a rheoli asedau proffesiynol, penseiri, syrfewyr, myfyrwyr
Fformat: Ar-lein (trwy Zoom)
Siaradwyr: Richard Jack (Build Test Solutions), Valentina Marincioni (UCL) i’w gadarnhau, Hannah Jones (Greengauge), Diana Waldron (Woodknowledge Wales)
RHAGLEN
10.00 Cyflwyniad – WKW (Diana)
10.10 Camau ymarferol BPE ar gyfer prosiectau ôl-osod: Mesur “cyn” ac “ar ôl” yr ymyriadau: Astudiaethau achos – BTS (Richard Jack)
10.35 Heriau ymarferol a thechnegol ôl-osod: Cynnal arolwg o’r adeilad ac astudiaethau achos efelychu – Greengauge (Hannah Jones)
11.00 Risgiau Lleithder mewn gwaith ôl-osod: Canolbwyntio ar ddefnyddio Pren – UCL (Valentina Marincioni) – I’w gadarnhau
11.15 Sesiwn holi ac ateb
11.30 – Diwedd
Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o Trawsnewid Menter Pren | Transforming Timber Enterprise – cyfres o ddigwyddiadau sy’n darparu ysbrydoliaeth, gwybodaeth a sgiliau ar gyfer amgylchedd adeiledig di-garbon.
Mae trawsnewid i fyd di-garbon yn creu cyfleoedd newydd a chyffrous i ddatblygu busnesau a sgiliau. Nod y gyfres hon o ddigwyddiadau a arweinir gan arbenigwyr yw ysbrydoli sefydliadau yn gyffredinol, a phobl ifanc yn benodol, i ddod i ddeall mwy am y cyfleoedd sy’n codi yn sgil y trawsnewid cyflym i amgylchedd adeiledig di-garbon, a’u coleddu. Mae’r digwyddiadau arddangos yn cwmpasu agweddau hanfodol ar adeiladu newydd ac ôl-osod, ac yn canolbwyntio ar ddod i ddeall mwy am y defnydd o gynhyrchion pren a’r coedwigoedd sy’n eu cynhyrchu.
Sut i gynhyrchu’r pren y bydd ei angen ar Gymru ddi-garbon mewn modd cynaliadwy
23/6/22
Taith gerdded ryngweithiol mewn coedwig gan edrych ar sut y gall coedwigoedd Cymru ddarparu, mewn modd cynaliadwy, y pren y bydd ei angen ar ein cymdeithas ddi-garbon yn y dyfodol
Gwybodaeth am y digwyddiad
“Pren yw’r unig uwch-ddeunydd diwydiannol y gallwn ddefnyddio mwy ohono a lleihau’r newid yn yr hinsawdd ar yr un pryd” – Gweinidog Cymru dros y Newid yn yr Hinsawdd, Julie James AS.
Mae’n swnio’n syml, ond eto mae’n heriol. Heddiw, mae’r rhan fwyaf o’r pren adeiladu a ddefnyddiwn wedi’i fewnforio. Mae ailgoedwigo Cymru â chyfran o rywogaethau sy’n cynhyrchu pren yn waith cymhleth nad yw pobl yn deall digon amdano.
Bydd y digwyddiad unigryw hwn yn fodd i chi ddod i ddeall coedwigaeth Cymru yn y gorffennol, y presennol a’r dyfodol, a sut y gall coedwigoedd Cymru gynhyrchu’r adnoddau pren y bydd eu hangen arnom ar gyfer ein cymdeithas ddi-garbon yn y dyfodol, a hynny mewn modd cynaliadwy. Mae’r diwrnod yn cynnwys taith gerdded ryngweithiol mewn coedwig lle gallwch ddysgu oddi wrth arbenigwyr sydd â diddordeb angerddol gydol oes mewn tyfu coed a phrosesu pren.
Lleoliad: Coed y Brenin, Ganllwyd, Dolgellau LL40 2HZ
Cynulleidfa: Gweithwyr datblygu tai proffesiynol, penseiri, myfyrwyr
Fformat: Digwyddiad wyneb yn wyneb – mwyafswm o 25 o leoedd
Siaradwyr: Chris Jones (Arbenigwr Coedwigaeth WKW) a Dainis Dauksta (Gwyddonydd ac Arbenigwr Prosesu Pren)
RHAGLEN
- Taith Gerdded Dywysedig yn y Goedwig
- Sesiwn theori, a holi ac ateb
Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o Trawsnewid Menter Pren | Transforming Timber Enterprise – cyfres o ddigwyddiadau sy’n darparu ysbrydoliaeth, gwybodaeth a sgiliau ar gyfer amgylchedd adeiledig di-garbon.
Mae trawsnewid i fyd di-garbon yn creu cyfleoedd newydd a chyffrous i ddatblygu busnesau a sgiliau. Nod y gyfres hon o ddigwyddiadau a arweinir gan arbenigwyr yw ysbrydoli sefydliadau yn gyffredinol, a phobl ifanc yn benodol, i ddod i ddeall mwy am y cyfleoedd sy’n codi yn sgil y trawsnewid cyflym i amgylchedd adeiledig di-garbon, a’u coleddu. Mae’r digwyddiadau arddangos hyn yn cwmpasu agweddau hanfodol ar adeiladu newydd ac ôl-osod, ac yn canolbwyntio ar ddod i ddeall mwy am y defnydd o gynhyrchion pren a’r coedwigoedd sy’n eu cynhyrchu.
Sut i ôl-osod waliau yn fewnol ag inswleiddiad naturiol
6/7/22
Digwyddiad yn cyflwyno sut i ddefnyddio inswleiddiad naturiol fel ateb i inswleiddio waliau yn fewnol
Gwybodaeth am y digwyddiad
Mae oddeutu 28.5 miliwn o gartrefi yn y Deyrnas Unedig, sy’n cynnwys y tai hynaf yn Ewrop. Mae 5% o dai’r Deyrnas Unedig yng Nghymru a’r rhain yn eu tro yw’r rhai hynaf yn y Deyrnas Unedig, gyda 32% o’r adeiladau wedi’u codi cyn 1919 ac felly â waliau solet yn bennaf. Nid yw waliau oddeutu 50% o’r 1.35 miliwn o dai yng Nghymru wedi’u hinswleiddio. Rhaid i hyn newid. Ond mae inswleiddio waliau solet yn fewnol mewn modd sy’n amddiffyn iechyd y meddianwyr a’r adeilad yn gymhleth. Diben y digwyddiad hwn yw cyflwyno sut i ddefnyddio inswleiddiad naturiol fel ateb i inswleiddio waliau yn fewnol.
Cynulleidfa: Gweithwyr datblygu tai a rheoli asedau proffesiynol, penseiri, contractwyr, myfyrwyr
Fformat: Ar-lein (trwy Zoom)
Siaradwyr: Nick Heath (NDM Heath Ltd), Martin Twamley (Steico), Chris Brookman (Back to Earth)
RHAGLEN
10.00 Beth yw heriau inswleiddio waliau yn fewnol? – Nick Heath, NDM Heath Ltd
10.30 Sut y mae inswleiddiad naturiol yn helpu? – Martin Twamley, Steico
11.00 Sut i’w osod? – Chris Brookman, Back to Earth
11.20 Sesiwn holi ac ateb
11.30 – Diwedd
Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o Trawsnewid Menter Pren | Transforming Timber Enterprise – cyfres o ddigwyddiadau sy’n darparu ysbrydoliaeth, gwybodaeth a sgiliau ar gyfer amgylchedd adeiledig di-garbon.
Mae trawsnewid i fyd di-garbon yn creu cyfleoedd newydd a chyffrous i ddatblygu busnesau a sgiliau. Nod y gyfres hon o ddigwyddiadau a arweinir gan arbenigwyr yw ysbrydoli sefydliadau yn gyffredinol, a phobl ifanc yn benodol, i ddod i ddeall mwy am y cyfleoedd sy’n codi yn sgil y trawsnewid cyflym i amgylchedd adeiledig di-garbon, a’u coleddu. Mae’r digwyddiadau arddangos hyn yn cwmpasu agweddau hanfodol ar adeiladu newydd ac ôl-osod, ac yn canolbwyntio ar ddod i ddeall mwy am y defnydd o gynhyrchion pren a’r coedwigoedd sy’n eu cynhyrchu.
Sut i ôl-osod waliau yn allanol ag inswleiddiad naturiol
31/7/22
Digwyddiad yn cyflwyno sut i ddefnyddio inswleiddiad naturiol fel ateb i inswleiddio waliau yn allanol.
Gwybodaeth am y digwyddiad
Yn y Deyrnas Unedig, mae 28.5m o dai, a rhai o’r tai hynaf yn Ewrop. Mae 1.35m o dai neu 5% o dai’r Deyrnas Unedig yng Nghymru ac adeiladwyd bron traean y rhain cyn 1919. Adeiladau wal solet yw’r rhan fwyaf ohonynt ac nid yw waliau bron eu hanner wedi’u hinswleiddio.
Rhaid i hyn newid. Ond mae inswleiddio waliau solet yn allanol mewn modd sy’n amddiffyn iechyd y meddianwyr a’r adeilad yn gymhleth. Diben y digwyddiad hwn yw cyflwyno sut i ddefnyddio inswleiddiad naturiol fel ateb i inswleiddio waliau yn allanol.
Cynulleidfa: Gweithwyr datblygu tai a rheoli asedau proffesiynol, penseiri, contractwyr, myfyrwyr
Fformat: Ar-lein (via Zoom)
Siaradwyr: Nick Heath (NDM Heath Ltd), Mark Lynn (Thermafleece), Simon Ayres (Lime Green)
RHAGLEN
10.00 Beth yw heriau inswleiddio waliau yn fewnol? – Nick Heath (NDM Heath Ltd)
10.30 Sut mae inswleiddiad naturiol yn helpu? – Mark Lynn, Thermafleece a Chadeirydd Natural Fibre Insulation Group
11.00 Sut i’w osod? – Simon Ayres, Lime Green