Newyddion

Byddwch yn cofio ein bod wedi bod yn ddigon ffodus i ddatblygu Gwenynfa ar y Campws, gyda chymorth a chefnogaeth y gwenynwr arbenigol Peter Jenkins, (Mel ap Griff) a heddiw ni wedi derbyn ein swp cyntaf o Fêl Tir Glas. Bydd y mêl ar gael i’w brynu cyn bo hir a byddwn yn diweddaru’r post hwn gyda manylion am ble i ddod o hyd i’r cynnyrch.

Mae CTG yn ddiolchgar i Peter Jenkins am reoli’r Wenynfa ac am ei ymroddiad i sicrhau bod hyn yn cael ei wneud gan ddefnyddio dulliau cadw gwenyn cynaliadwy, tra’n cadw’r gwenyn brodorol Cymreig.