Mynychodd Y Drindod Dewi Sant Sioe Llambed ar ddydd Sadwrn 2 Gorffennaf, i hyrwyddo Canolfan Tir Glas a Sefydliad Arfer Cynaliadwy, Arloesi, Ymchwil a Menter Inspire. Roedd hwn yn gyfle i’r cyhoedd alw draw a chwrdd â’r aelodau staff, a oedd yn hapus i roi’r diweddariadau am ddatblygiadau menter Canolfan Tir Glas, yn ogystal â chynnwys datblygiadau Aldi a Chanolfan Datblygu Perfformiad Adeiladau a Phren Cymreig CWIC. Yn ogystal, cyfarfu’r cyhoedd a thîm Inspire.
Roeddem yn rhannu’r stondin gyda Peniarth, rhan o adain fasnachol Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant sy’n rhan o’r Ganolfan Gwasanaethau Cymraeg. Mae Peniarth wedi datblygu i fod yn un o brif gyhoeddwyr llyfrau ac adnoddau addysgol yng Nghymru. Maent yn cynhyrchu a darparu adnoddau a gwasanaethau dwyieithog arloesol ar gyfer y sector addysg sydd yn ysbrydoli’r dysgwr i ffynnu ar bob cam, a sicrhau dyfodol llwyddiannus a chyffrous. Mae’r dysgwr yn ganolog i’w gwaith o ddydd i ddydd wrth gynllunio, datblygu, dylunio a chyhoeddi.
Cadeirydd Siambr Fasnach Llambed – Heulwen Beattie, Llywydd y Sioe – Gwen Jones, Maer y Dref – Cynghorydd Helen Thomas, Cadeirydd Clonc – Dylan Lewis a Rheolwr Partneriaethau a Datblygu Masnachol – Inspire, Y Drindod Dewi Sant – Hywel Davies
Roedd y tîm yn falch o weld cymaint o bobl yn dangos diddordeb yn y datblygiadau newydd ar gampws Llambed ac yn edrych ymlaen at fynychu Sioe Frenhinol Cymru lle byddant yn rhannu’r datblygiadau diweddar gyda’r ymwelwyr yno.