Newyddion

Nod y digwyddiad: Arddangos ystod o gyfleoedd sydd ar gael i dirfeddianwyr preifat (a darpar dirfeddianwyr) i annog a hwyluso mwy o gyfranogiad gan eraill a chynhyrchu ar eu tir.
 

Ydych chi’n dirfeddiannwr preifat sy’n chwilio am gyfleoedd i alluogi mwy o bobl i gael mynediad a defnyddio eich tir ar gyfer cynhyrchu bwyd? Ydych chi’n ansicr ynglŷn â sut y gallai’r manteision amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol bentyrru yn erbyn y risgiau a’r ymdrech o agor eich lle? Ydych chi’n edrych i arallgyfeirio’ch gweithgaredd er mwyn rheoli eich risgiau’n well?  

Byddwn yn defnyddio enghreifftiau bywyd go iawn i arddangos ystod o fodelau gwahanol i ymgysylltu â chymuned a allai weithio i’ch safle. Byddwn yn ystyried amrywiaeth o gymunedau gwahanol gan gynnwys ysgolion, ffermwyr newydd ddyfodiaid, pobl o gefndir penodol neu ag angen diffiniedig, neu yn syml unrhyw un sy’n byw yn lleol.  

Byddwn ni’n cynnig syniadau a chysylltiadau â sefydliadau a all eich helpu i adnabod a chysylltu â’ch cymuned a datblygu achos busnes dros eich syniad. Byddwn ni’n ystyried beth allai fod angen ei roi ar waith i reoli’r berthynas rhwng tirfeddiannwr a chymuned. Byddwn yn eich cyflwyno i’r Gwasanaeth Cynghori ar Dir Cymunedol a all gynnig cymorth ynghylch trwyddedau, prydlesi a phryderon cynllunio eraill. 

Ar ôl y cyflwyniadau, bydd amser i drafod eich sefyllfa benodol gyda chynrychiolwyr a siaradwyr eraill. 

CLICK HERE TO REGISTER / CLICIWCH YMA I GOFRESTRU