Academi Bwyd Cyfoes Cymru
Er y caiff Academi Bwyd Cyfoes Cymru ei chartrefu yn adeilad y Willows ar y campws yn y tymor byr, y gobaith yw y caiff cais y Brifysgol a Chyngor Sir Ceredigion i Fargen Dwf Canolbarth Cymru ei gymeradwyo fel y gellir bwrw ati i sefydlu’r Academi mewn adeilad eiconig ar y campws maes o law.
Bydd Academi Bwyd Cyfoes Cymru yn:
- cynnig cyrsiau israddedig, ôl-raddedig a chyrsiau byrion sy’n datblygu dealltwriaeth o faterion allweddol ein hoes mewn perthynas â bwyd ac ymatebion creadigol iddynt – yn benodol; newid hinsawdd, bioamrywiaeth, deiet ac iechyd, ffyniant yr economi leol/cymunedol a diogelwch/sofraniaeth bwyd;
- gweithredu fel canolfan addysg bwyd yn y rhanbarth, drwy ddarparu fforwm strategol gyda sefydliadau partner i gynorthwyo gyda’r broses o gyfeirio a chydlynu pob agwedd ar hyfforddiant bwyd yn y rhanbarth;
cadarnhau partneriaeth strategol rhwng Addysg Uwch ac Addysg Bellach yn y rhanbarth lle mae’r Academi yn cynnig dealltwriaeth ddamcaniaethol ar lefel Addysg uwch i ategu addysg ymarferol ar lefel Addysg Bellach ac Addysg Bellach yn cynnig addysg ymarferol i ychwanegu at ddysgu cymhwysol ar lefel Addysg Uwch;
- defnyddio’r profiad ymarferol sylweddol a’r cyfalaf deallusol a ffisegol sy’n bodoli yn y rhanbarth o ran bwyd cynaliadwy ac atgynhyrchiol yng nghyd-destun ffermio a thyfu, cynhyrchu eilaidd a lletygarwch;
- sefydlu “banc gwybodaeth” ar gyfer bwyd a ffermio – trysorfa ymchwil ac ysgrifennu am fwyd sy’n gyfoes ac yn datblygu’n barhaus yn ogystal â chasglu gwybodaeth am brosiectau a mentrau bwyd gyda phwyslais penodol ar ddarlun cynhwysfawr a chyfoes o weithgarwch yng Nghymru;
- datblygu cyfleusterau i’w defnyddio gan y gymuned, ysgolion, asiantaethau trydydd sector a phartneriaid o fewn y diwydiant mewn perthynas â mentrau bwyd cyfoes fel yr amlinellir uchod a gweithredu fel ffocws i gydlynu a chydweithio ar bob agwedd ar y sytem fwyd;
- ymateb i gyfleoedd am ymchwil academaidd parhaus ar draws y gadwyn fwyd o ran maeth/iechyd, effaith hinsawdd, bioamrywiaeth ayb;
- addysgu a chynorthwyo addysg bwyd mewn ysgolion a gweithredu’r cwricwlwm newydd gan roi sylw penodol i rôl Y Drindod Dewi Sant mewn addysg athrawon;
- cyflawni buddion go iawn i dref Llambed a Cheredigion o ran gweithgaredd economaidd a ffyniant cymunedol;
- wrth gyflawni’r uchod, sefydlu’r Acadmi fel arweinydd yn y maes sy’n ganolog i ddatblygiad polisi yng Nghymru a’r DU a’r gallu i addysgu a rhyngweithio â mentrau ar lefel ryngwladol.