Hwb Mentergarwch Gwledig
Bydd yr Hwb Mentergarwch Gwledig yn rhan allweddol o’r eco-system y bwriedir ei ddatblygu yn enw Canolfan Tir Glas. Caiff ei sefydlu er mwyn cefnogi gweledigaeth ehangach y rhanbarth i ddatblygu economi cryf a chydnerth a fydd yn galluogi busnesau i ymsefydlu, i dyfu ac i ffynnu yn y pen draw.
Bydd yr hwb mewn sefyllfa i ddarparu cyngor a chefnogaeth ymarferol i fusnesau lleol fel eu bod yn datblygu’n endidau deinamig a mentrus gan fanteisio ar hyfforddiant a fyddai wedi’i deilwrio yw’w hanghenion penodol.
Er bydd rhywfaint o bwyslais ar gefnogi busnesau i ddod yn fwy cynaliadwy, bydd yr Hwb yn gallu cynorthwyo unrhyw fusnes lleol sy’n awyddus i dyfu a datblugu dros gyfnod o amser.
Bydd y prif bwyslais ar greu busnesau newydd sbon, cefnogi busnesau sy’n bodoli’n barod, annog a chefnogi’r rheini sy’n gweithio o fewn y diwydiant amaethyddol i arallgyfeirio ac i geisio annog busnesau’r ardal i fabwysiadu dulliau eraill o feddwl a gweithredu. Bydd arloesi a chreadigrwydd yn themâu cyson ar draw yr holl wasanaethau sy’n cael eu cynnig.
Bydd yr Hwb hefyd mewn sefyllfa i roi cyngor i raddedigion ar sefydlu eu busnesau eu hunain ac i ganfod marchnadoedd a chynnyrch newydd a fyddai’n cyfoethogi’r diwydiannau bwyd, twristiaeth, amaethyddiaeth a choedwigaeth yn benodol.
Bwriedir hefyd sefydlu ystafelloedd seminar a gofodau lle cynhelir gweithdai a chyrsiau hyfforddi’n rheolaidd. Neilltuir hefyd ddwy swyddfa fechan ar gyfer busnesau a fyddai’n dymuno ymsefydlu o fewn yr Hwb.