Nodau ac Amcanion

Nodau

  1. Gwella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Llambed a’r cyffiniau.
  2. Cyfrannu’n adeiladol at ail-ddychmygu a chyd-greu Cymru’r dyfodol.

 

Amcanion

Economaidd

  1. Cryfhau seilwaith economi’r dref a’r ardal gyfagos gan greu swyddi o’r newydd yn y sectorau bwyd a lletygarwch yn benodol.
  2. Datblygu Llambed yn gyrchfan ar gyfer ymwelwyr a, thrwy hynny, gefnogi cynnig twristaidd o safon ryngwladol yng Ngheredigion.
  3. Sicehau bod y ddarpariaeth sgiliau a phorfiadau dysgu yn cyd-fynd ag anghenion economaidd busnesau lleol. 
  4. Gwella ansawdd ac amrywiaeth y cyfleon gwaith fel y gellir cadw talentau lleol yn yr ardal yn ogystal â denu teuluoedd yn ôl i weithio i Geredigion.
  5. Meithrin agweddau mwy mentrus ymhlith perchenogion busnes yr ardal a’u hannog i fabwysiadu ffyrdd newydd o feddwl.
  6. Cynyddu nifer myfyrwyr addysg bellach ac addysg uwch y rhanbarth.

 

Cymdeithasol

  1. Sefydlu Llambed yn ganolfan o bwys ar gyfer hyrwyddo cymunedau iach a chynaliadwy o fewn cyd-destun gwledig;
  2. Sefydlu rhwydweithiau lleol/ledled y wlad yn enw’r Ganolfan a fydd yn hyrwyddo cydweithio a chydweithredu ym meysydd bwyd cynaliadwy, twristiaeth  a mentergarwch cynaliadwy.
  3. Sefydlu ‘bwyd’ fel brand ar gyfer datblygu tref Llambed i’r dyfodol.
  4. Sefydlu mentrau cymunedol e.e. cyfleuster hyfforddiai bwyd yng nghanol y dref a rhandiroedd ar y campws a Phontfaen a fyddai’n cefnogi cynhwysiant cymdeithasol.
  5. Grymuso’r gymuned leol i gymryd perchenogaeth o’r weledigaeth ac i gyfrannu at ei datblygiad dros gyfnod o amser.
  6. Cynyddu nifer yr ymwelwyr â’r dref trwy gydol y flwyddyn;

 

Amgylcheddol

  1. Codi ymwybyddiaeth o fewn y gymuned a thu hwnt o effaith newid hinsawdd. 
  2. Cynnig amrywiaeth o gyrsiau ym maes cynaliadwyedd gyda phwyslais ar ffyrdd mwyd cydnerth, cytûn a chynaliadwy o fwy ac o weithio. 
  3. Ehangu cyfleon ym maes twristiaeth gynaliadwy;
  4. Gweithio gydag ysgolion a cholegau lleol i godi ymwybyddiaeth disgyblion a myfyrwyr ynghylch ystod o faterion perthnasol yn ymwneud â chynaliadwyedd ac adfywio cymunedol.
  5. Cefnogi’r ffordd y mae Llambed a’r cyffiniau yn cefnogi bwriadau Llywodraeth Cymru wrth wireddu amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Diwylliannol

  1. Cefnogi’r Gymraeg fel iaith gymunedol lle caiff gyfle i ddatblygu a ffynnu;
  2. Dathlu ffordd o fyw’r Gymru wledig, ei threftadaeth a’i diwylliant.