Croeso i Dudalen Blog Canolfan Tir Glas
Ymunwch â ni bob mis am erthygl blog gan gyfranwyr gwadd. Rydym yn cychwyn gyda blog mis Ionawr wrth Patrick Holden o Fferm Bwlchwernen Fawr ac sydd yn Brif Weithredwr yr Ymddiriedolaeth Bwyd Cynaliadwy.
Rwy’n falch iawn o fod wedi cael y cyfle hwn i groesawu lansiad Canolfan Tir Glas, menter o arwyddocâd hanesyddol go iawn ar themâu harmoni a chynaliadwyedd. Ei bwriad craidd yw datblygu’r Brifysgol yn Llambed fel llwyfan, gan fanteisio ar y gronfa o ddiwylliant ac arbenigedd yng nghefn gwlad gorllewin Cymru, a thrwy wneud hynny, arwain y ffordd fel y gall nifer o sefydliadau academaidd eraill ledled y byd integreiddio eu cenhadaeth addysgol gydag arfer gorau ar lawr gwlad.
Gallaf weld cyfleoedd enfawr i ddatblygu’r berthynas hon gan ddefnyddio fy fferm fy hun fel un o’r cyfnodau addysgol. Ar fferm Bwlchwernen Fawr, tua 7 milltir o Lambed, rydyn ni wedi bod yn ffermio llaeth ac yn gwneud caws cynaliadwy ac organig ers bron i 50 mlynedd, ac o ganlyniad, rydyn ni wedi meithrin sgiliau a phrofiadau y teimlwn bellach mai ein cyfrifoldeb ni yw eu rhannu yn ehangach o fewn y gymuned ffermio bresennol ac ar gyfer pobl ifanc sy’n ceisio cael gyrfa mewn amaethyddiaeth gynaliadwy a systemau bwyd. Felly edrychwn ymlaen at allu cynnal nifer o ddigwyddiadau sy’n ymwneud â’r themâu hyn a chydweithio’n agos â’r Brifysgol yn ystod y blynyddoedd i ddod.
Rwyf hefyd yn gwisgo het arall fel sylfaenydd a phrif weithredwr yr Ymddiriedolaeth Bwyd Cynaliadwy, a’i chenhadaeth yw gweithio’n rhyngwladol i gyflymu’r broses o drosglwyddo i systemau ffermio a bwyd mwy cynaliadwy a gwydn. Yn y cyswllt hwn, er gwaethaf y derbyniad cyffredinol, fwy neu lai, bod angen dybryd i’n systemau bwyd a ffermio gael eu trawsnewid i fynd i’r afael â bygythiadau niferus newid hinsawdd, colli bioamrywiaeth, iechyd cyhoeddus gwael ac ansicrwydd bwyd cynyddol, nid yw’r newid yn digwydd ar y raddfa sydd ei hangen i gynnal ein planed mewn cyflwr a fydd yn sicrhau lles cenedlaethau’r dyfodol. Yn ystod y blynyddoedd nesaf bydd ein gwaith yn canolbwyntio ar ddatgloi’r rhwystrau hyn i newid. Mae rhai ohonynt yn heriau y gall llywodraethau a gwneuthurwyr polisi yn unig fynd i’r afael â nhw drwy ailgyfeirio cymorthdaliadau ar ôl Brexit, gan gynnwys diwygio rheoleiddiol a chymhwyso’r egwyddor mai’r llygrwr sy’n talu, a fydd, gyda’i gilydd, yn gwella’r amgylchedd economaidd ar gyfer ffermio a chynhyrchu bwyd yn gynaliadwy.
Ochr yn ochr â hyn, mae hefyd angen buddsoddi mewn addysg, gan gynnwys sicrhau bod y cyhoedd yn fwy gwybodus am natur y systemau ffermio a fydd yn disodli’r rhai sydd gennym ar hyn o bryd a sut y gallant ail-alinio eu deiet i gefnogi cynhyrchwyr cynaliadwy yn y farchnad. Ochr yn ochr â’r gwaith hwn, fel y soniais yn gynharach, credwn fod angen creu rhwydwaith cenedlaethol o ‘ffermydd disglair’ a all wasanaethu fel adnodd addysgol i ail-sgilio ffermwyr ac fel llwyfan i ddigwyddiadau diwylliannol ac addysgol eraill.
Yn yr holl feysydd hyn, credwn fod gwaith yr Ymddiriedolaeth Bwyd Cynaliadwy yn gwbl gydnaws ac yn ategu datblygiad Canolfan Tir Glas yn y dyfodol, ac rydyn ni’n falch iawn o ystyried ein hunain yn bartner yn y gwaith pwysig hwn.

Patrick Holden Prif Weithredwr E-bost: patrick@sustainablefoodtrust.org Gwe: sustainablefoodtrust.org cofrestrwch i’n cylchlythyr yma