Tir Glas
Gweledigaeth Newydd i Lambed
Sgroliwch i lawr ar gyfer Newyddion a Postiadau Blog
Mae’r Drindod Dewi Sant yn cynnig gweledigaeth uchelgeisiol a beiddgar ar gyfer Llambed a’r cyffiniau. Y mae’n gynllun hir-dymor sy’n ddibynnol, i raddau helaeth, ar gefnogaeth leol a chenedlaethol.
Fel sefydliad craidd, mae’r Brifysgol yn cydnabod bod ganddi rôl ganolog i’w chwarae yn y broses o adfywio tref Llambed yn y cyfnod ôl-Covid. Gwêl y Brifysgol ei hun yn gatalydd ar gyfer newid.
Drwy gydweithio â Chyngor y Dref, Cynor Sir Ceredigion, y gymuned fusnes leol a phartneriaid allweddol eraill, mae’r Brifysgol yn hyderus y gellir creu a gweithredu gweledigaeth integredig ar gyfer y dref yn ystod y blynyddoedd nesaf.
Rhaid i ni ail feddwl am ddyfodol ein hamgylchedd a mynd i’r afael â newid hinsawdd a dirwyio amgylcheddol gydag uchelgais ac ar frys.
Rhaid i ni sicrhau bod ein ‘normal newydd’ yn un gwell, yn enwedig i genedlaethau’r dyfodol.
Mae cynnig y Brifysgol yn seiliedig ar hwyluso a chyflymu twf economaidd yn Llambed a’r cyffiniau. Mae cryfhau dycnwch economaidd yn ganolog i’r weledigaeth a hynny, yn fwy na heb, trwy fanteisio ar yr ystod o asedau naturiol sy’n bodoli’n lleol.
Mae’r Brifysgol am weld Llambed yn ffynnu.
Mae am weld y gymuned leol yn cael ei bywiogi a’i grymuso i ddatblygu dyfodol cynaliadwy. Mae am weld y dref yn manteisio ar asedau naturiol ei hamgylchedd, ei threftadaeth ddiwylliannol a’i gwytnwch fel cymuned fel y gall ddablygu ei hunanhyder gyda chyfeiriad clir ar gyfer y dyfodol. Mewn cyfnod o heriau di-ri, mae angen bod yn fentrus ac yn feiddgar. Mae angen bod yn arloesol ac yn greadigol. Mae angen codi dyheadau’r rhai sy’n byw yn yr ardal; mae angen bodloni chwilfrydedd y rhai sy’n ymweld â’r dref.
Mae’r Brifysgol yn dymuno gweithio gyda’r gymuned er lles y gymuned. Mae cyfle i ni gydweithio’n agos – drwy ddefnyddio adnoddau lleol ac adeiladu ar gryfderau sy’n bodoli’n barod – er mwyn gwneud gwahaniaeth i Lambed a’r cyffiniau ac er mwyn sicrhau dyfodol cynaliadwy hirdymor i’r dref.