NewyddionTrawsnewid Menter Pren

Dyfodol pren yng Nghymru

Mae’n wych bod datgarboneiddio ac adferiad gwyrdd wrth wraidd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Llywodraeth Cymru (2015). Ond beth y mae hyn yn ei olygu yn ymarferol?

Y diwydiant adeiladu yw un o gyflogwyr mwyaf Cymru, ac mae’n darparu dros 100,000 o swyddi, ond, yn anffodus, mae hefyd yn un o’n llygrwyr mwyaf. Dyna pam y mae ein cenhadaeth yng Nghanolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru (CWIC) i uwchsgilio’r sector i ddod yn ddiwydiant Sero-net yn bwysicach nag erioed.

A ninnau’n bartneriaid allweddol yn y prosiect Ôl-osod er mwyn Optimeiddio a ariennir gan Lywodraeth Cymru, ac ymgyrchoedd addysgol Sero-net eraill, rydym yn ymrwymedig i sicrhau bod dyfodol disglair yn wynebu sgiliau gwyrdd ac addysg werdd yng Nghymru.

Ein huchelgais yw sicrhau bod defnyddiau cynaliadwy yn wirioneddol amlwg ym maes adeiladu yng Nghymru, a byddwn yn cefnogi Cymru Carbon Isel trwy sicrhau bod adeiladau preswyl a masnachol, fel ei gilydd, yn llawer mwy effeithlon o ran eu defnydd o ynni a charbon, ynghyd ag ategu’r ecosystem sgiliau a gwybodaeth sy’n ofynnol i gyflawni’r allbynnau hyn.

Cais llwyddiannus am gyllid

Ym mis Ebrill, mewn partneriaeth â WoodKnowledge Wales dyfarnwyd cyllid i Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant gan Cronfa Adfywio Cymunedol y DU i ddarparu adroddiad dichonoldeb a chynllun busnes ac iddynt y nod o sefydlu Canolfan Datblygu Pren Cymru, a fyddai’n cynnwys cynlluniau ar gyfer y cyfleuster cyntaf yng Nghymru i ganolbwyntio ar bren. Pren yw ein hunig ddefnydd adeiladu adnewyddadwy sydd ar gael yn eang, ac yn hynny o beth mae ganddo rôl bwysig yn y gwaith o ddatblygu dulliau adeiladu carbon isel newydd.

Bydd ein Canolfan Datblygu Pren, a leolir yn Llanbedr Pont Steffan yn y Canolbarth, yn rhoi cyfle i gyd-ddylunio/ddatblygu cynnyrch ac arloesi gwasanaethau, ynghyd ag i ddechrau mentrau a busnesau newydd, camau a fydd yn arwain at swyddi newydd a gwell sgiliau ar gyfer y rhanbarth a Chymru. Mae WoodKnowledge Wales (WKW) yn dîm o arbenigwyr o ystod o ddisgyblaethau a sectorau, megis penseiri, peirianwyr, ymchwilwyr, gweithwyr proffesiynol ym maes tai, gwyddonwyr coed a melinwyr coed. Gyda’n gilydd, rydym yn ymrwymedig i ysgogi newid trwy gydweithio ledled y byd academaidd, diwydiant a pholisi.

Yn ei gynllun cyfredol, mae Cyngor Sir Ceredigion wedi nodi ‘hybu’r economi’ yn brif flaenoriaeth. Mae Strategaeth Economaidd newydd y Cyngor Sir yn amlinellu’r modd y mae’n bwriadu cyflawni hyn ac yn amlygu’r berthynas agos rhwng ffyniant economaidd ac asedau naturiol y sir.

Mae ein gweithgarwch yn rhan allweddol o Canolfan Tir Glas, sef gweledigaeth strategol Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant i gyfrannu at y gwaith o adfywio tref Llanbedr Pont Steffan, ac mae’r fenter hon yn gatalydd allweddol ar gyfer ystod o ddatblygiadau cysylltiedig ledled yr ardal.

Yr hyn yr ydym yn ei gynnig

Cafwyd rhan ganolog ein cyllid i ddatblygu cyrsiau a digwyddiadau a fyddai’n arbenigo mewn pren o Gymru, gweithgynhyrchu, ac adeiladwaith/ôl-osod carbon isel. Bydd y rhain yn cael eu darparu yn ystod misoedd Mehefin a Gorffennaf 2022 gan arbenigwyr yn y diwydiant a’n hacademyddion blaenllaw.

Mae rhaglen y diwgyddiadau ar gyfer gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant, masnachwyr, myfyrwyr, neu hyd yn oed y rhai sy’n ystyried newid gyrfa, ac mae’n cynnwys gwybodaeth sy’n amrywio o weithgynhyrchu paneli yn unol ag amserlen uwch ar gyfer adeiladau uchel eu perfformiad, i ddefnyddio technegau i fesur effaith adeiladau, i gynnal gwerthusiadau o berfformiad adeiladau yn achos ôl-osod, ac i’r ffordd o gynhyrchu’r pren y mae arnom ei angen i sicrhau Cymru ddi-garbon mewn modd cynaliadwy.

Byddant yn rhan o gynigion i ymgorffori ein dysgu ymhellach mewn cyrsiau newydd a chyrsiau cyfredol a gynigir ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.Bydd y sesiynau gweithdy a gynllunnir ar gyfer y Ganolfan Datblygu Pren hefyd yn cefnogi cymwysterau newydd ym maes addysg bellach ac addysg uwch, a hynny mewn partneriaeth â Coleg Sir Gar a Coleg Ceredigion.