Newyddion

Mae CTG yn ddiolchgar i Esther Weller – Cadeirydd Cymdeithas Llambed am y blog hwn: Bydd Esther yn agor Gŵyl Fwyd Llambed yn swyddogol ar ddydd Sadwrn 23 Gorffennaf am 12.30 ynghyd â Mr Leno Conti.

Mae Cymdeithas Llambed yn falch o gefnogi menter Tir Glas. Yn ogystal â gweithredu fel ffocws i gyn-fyfyrwyr, mae Cymdeithas Llambed yn bodoli i gefnogi Campws y Brifysgol yn Llambed. Mae holl raddedigion a staff Llambed yn aelodau awtomatig o Gymdeithas Llambed ac rydym yn falch o gefnogi’r campws pryd bynnag y gallwn. Mae’r Brifysgol wedi gweld llawer o newidiadau yn ei 200 mlynedd o hanes, a mentrau, fel prosiect Tir Glas, fydd yn sicrhau ei goroesiad a’i thwf dros y ddau gan mlynedd nesaf.

Mae’n rhaid i fyw’n gynaliadwy fod yn flaenoriaeth i ni, ac mae y tirwedd lleol, y natur wledig a’r gymuned weithgar yn golygu bod Llanbedr Pont Steffan mewn sefyllfa dda i arwain y ffordd yn y maes hwn. Mae amrywiaeth ein cyn-fyfyrwyr yn adlewyrchu natur amrywiol Llanbedr Pont Steffan a’r cyffiniau – bryniau tonnog, cymunedau bywiog, arfordir Gorllewin Cymru dafliad carreg i ffwrdd, i gyd yn cyfrannu at wneud amgylchedd arbennig iawn – un sy’n cael ei garu’n fawr gan bob un ohonom.

Mae Cymdeithas Llambed newydd gyhoeddi ei phrosiect blaenllaw i nodi’r dancanmlwyddiant ‘Wyth Degawd o Leisiau Llambed.’ Gyda 200 mlynedd o brofiadau myfyrwyr, sylweddolom fod nifer o straeon ac atgofion yr oedd angen eu cadw a’u cofnodi. Mae’r cyfraniadau wedi bod yr un mor amrywiol â hanes y Brifysgol yn Llanbedr Pont Steffan ei hun. Ac eto mae’r un teimlad ac emosiwn yn disgleirio trwy pob cyfraniad: y teimlad o gariad, parch ac ymlyniad twymgalon at Lambed, yn ei holl ffurfiau – CDS, CPDS, PCLL ac yn ddiweddarach, Y Drindod Dewi Sant.

Mae ein haduniad blynyddol yn ddigwyddiad allweddol bob blwyddyn. Wedi seibiant o ddwy flynedd, byddwn yn cyfarfod yn Llanbedr Pont Steffan rhwng 22 a 26 Gorffennaf 2022 ac rydym yn teimlo’n gyffrous i ddychwelyd i’r campws. Mae llawer o bethau wedi’u cynllunio ar gyfer y flwyddyn arbenning hon o ddathlu, ac  rydym yn falch o groesawu i’r aduniad, Syr Mark Harford, gor-gor ŵyr John Scandrett Harford, a gyflwynodd rhodd o dir ym 1820 er mwyn sefydlu Coleg Dewi Sant ddwy flynedd yn ddiweddarach.

Mae cwlwm anhygoel rhwng cyn-fyfyrwyr Llambed. Rydym yn gefnogwyr brwd o’r campws ac rydym am ei weld yn ffynnu. Fel corff cyn-fyfyrwyr, mae gennym lawer iawn o sgiliau a phrofiad rhyngom. Gobeithiwn y gallwn gefnogi prosiect Tir Glas i weithio’n gynaliadwy drwy rannu’r wybodaeth a’r profiad hwn i genedlaethau’r dyfodol o fyfyrwyr yn Llanbedr Pont Steffan, trwy brosiect Tir Glas ac yn ehangach ar draws y Brifysgol.

Gyda chymorth