Newyddion

Mae myfyrwyr St. Vincent a’r Grenadines yn y Caribî yma yn Llambed ar ysgoloriaeth israddedig tair blynedd. Mae tri deg saith o fyfyrwyr yn dilyn cyrsiau gradd sy’n amrywio o Ddatblygiadau Rhyngwladol, Addysg Blynyddoedd Cynnar, Iechyd a Maeth i Beirianneg Sifil a Mesur Meintiau.

Mae gan y brifysgol yn Llambed gysylltiad ag ynys St. Vincent trwy un o’i chymwynaswyr, Thomas Phillips, a edd â phlanhigfa yno o’r enw Parc Camden. Byddai llawer o hynafiaid y myfyrwyr sydd yma heddiw wedi bod yn gaethweision ar stad Phillips.

Tra eu bod yma yng Nghymru mae’r myfyrwyr yn awyddus i ddysgu am ddiwylliant a threftadaeth Gymreig Llambed tra hefyd yn rhannu eu diwylliant a’u hetifediaeth eu hunain gyda ni. Gyda hyn mewn golwg hoffent eich gwahodd i ddathlu eu Diwrnod Annibyniaeth ar 27 Hydref mewn cinio ffurfiol yn ystafell fwyta Lloyd Thomas. Y gobaith yw y bydd y cysylltiad rhwn Llambed a St. Vincent yn parhau hyd yn oed ar ôl i’r ysgoloriaethau ddod i ben. Am fwy o wybodaeth neu i archebu lle yn y cynio e-bostiwch: h.slack@uwtsd.ac.uk

Dyma’r rysáit a goginiodd Shyann a Divya yng Nghŵyl Fwyd Llambed ddydd Sadwrn Gorffennaf 23ain

Y Toes:

Mewn powlen fawr, cyfunwch 2 bwys o flawd, llwy fwrdd a hanner o furum sych, pum llwy fwrdd o siwgr, llwy bwrdd o olew a phinsiad o halen. Ychwanegwch ddŵr cynnes nes bod toes medal yn ffurfio. Ni ddylai’r toes fod yn wlyb. Gorchuddiwch y gymysgedd a gadewch i’r toes godi am tua 30 munud.

Ffrio’r cacennau:

Gorchuddiwch waelod padell ffrio fawr gydag olew ar wres canolig. Pan fydd yr olew yn boeth, tynnwch ddarn o’r toes i ffurfio cacen. Rholiwch y toes yn eich llaw tan fod pêl fach yn cael ei ffurfio. Gwasgwch y bel o does i lawr yn y canol tan yn fflat cyn ychwanegu at yr olew twym a’i ffrio. Pan fydd yr hanner gwaelod wedi coginio yn frown euraidd, trowch ef a gadewch i’r hanner arall ffrio yn yr un modd. Pan gyflawnir lliw brown euraidd ar y ddwy ochr, tynnwch o’r ffrwmpen. Gadwch y cacennau i eistedd am ychydig funudau i oeri, yna gweinwch.

Pysgod Halen:

– 1 kg o bysgod halen / penfras (mwy os dymunir coginio mwy)

– 2 pupur coch (cymysgwch liwiau ar gyfer rysáit lliwgar)

– 1 winwnsyn mawr (2 os yn fach)

– 1 ciwcymbr

– 2 tomato

– Olew llysiau

– Sos coch

Dull

– Berwch y penfras am 10 munud. Ar ôl 10 munud o ferwi arllwyswch y dŵr i ffwrdd cyn ychwanegu dŵr ffres a’i ddychwelyd i ferwi eto am 10 munud.

– Tra bod y penfras yn coginio, dechreuwch baratoi’r llysiau. Torrwch y pupur coch, y tomatos a’r winwnsyn. Torrwch y ciwcymbr (ddim yn rhyd denau, ddim yn rhy fawr) a chadw yn ddarnau’r un maint a’r tomatos.

– Ar ôl ail ferwi’r penfras, draeniwch y dŵr a defnyddiwch fforc i rwygo’r penfras yn ddarnau bach, gwnewch yn siŵr eich bod wedi tynnu allan a thaflu i ffwrdd unrhyw esgyrn o’r penfras.

Nawr bod yr holl gynhwysion yn barod mae’n amser i goginio.

– Rhowch ¼ cwpan o’ch olew i sosban maint canolog cyn dechrau coginio’r winwns, pupur coch (a melyn) nes iddynt feddalu a dechrau troi lliw.

Unwaith bydd y winwns a’r pupur wedi tro lliw ychwanegwch eich penfras, y tomatos a’r ciwcymbr i’r gymysgedd. Gwnewch yn siŵr i droi’r gymysgedd rhag llosgi.

Ychwanegwch ¼ cwpan o ddŵr ac ychwanegwch 1 owns o sos coch i’r gymysgedd.

Gadewch y cyfan i fudferwi am 10 munud. Tynnwch y sosban o’r gwres unwaith bydd y gymysgedd wedi amsugno’r dŵr ac i weld yn weddol drwchus.

Gweinwch gyda’r cacennau bach a mwynhewch eich cacennau Penfras Halen San Vincent Caribïaidd