Digwyddiadau

‘Canolfan Tir Glas yn cydweithio gyda Chyngor Sir Ceredigion yn yr Eisteddfod yn Nhregaron’

Cafodd Cydlynydd Canolfan Tir Glas wahoddiad i drefnu rhaglen o arddangosfeydd coginio gan gogyddion o Geredigion a chynhyrchwyr Bwyd a Diod o’r Sir er mwyn rhoi llwyfan i’r ystod eang o gynnyrch da ar gael yng Ngheredigion. Roedd Pentre’ Ceredigion yn lleoliad perffaith i gynnwys gwagle ar gyfer hyn, gyda silffoedd arddangos, er mwyn cynnwys canran bach o fwyd a diod sydd ar gael yn y Rhanbarth.

Roedd y rhaglen yn dechrau ar Sadwrn 30 o Orffennaf gyda Gareth Ward, sydd yn Gogydd Seren Michelin o Ynyshir a wnaeth arddangos rhai o’r seigiau sydd ar ei fwydlen. Roedd yn weddol amlwg o’r gefnogaeth ac ymateb yr ymwelwyr i’r Eisteddfod bod y digwyddiad yma yn mynd i fod yn boblogaidd.

Dilynwyd hyn ar y Sul gydag arddangosfa a thrafodaeth o gwmpas Grawn Cymreig, a dynnodd sylw at yr angen i ailsefydlu’r Hen Gymro bendigedig fel ffynhonnell o wenith, sydd wedi ei hen anghofio. Yn y sesiwn gyntaf am 11 bu Andrew a Liz Neagle o ANUNA yng Nghapel Dewi, ac Ann Parry o’r Felin Ganol yn Llanrhystud yn arwain y sesiwn gydag Andrew yn arddangos sut mae’n cynhyrchu ei sur does. Dilynwyd hyn gan sesiwn ddiweddarach am 2.30 a oedd ar ffurf trafodaeth am dyfu gwenith, gydag aelodau o’r gynulleidfa yn cyfrannu at y sgwrs. Amlygodd ffermwr lleol a chynhyrchydd yr Hen Gymro John Evans y materion yn ymwneud â chynaeafu a storio a arweiniodd at rai sylwadau diddorol. Mae’r sesiwn hon wedi ysgogi ac amlygu’r angen am sgyrsiau a thrafodaethau pellach y mae CTG yn gobeithio eu datblygu’n fuan.

O’r dydd Llun 1af Awst i’r dydd Sadwrn 6ed Awst, roedd y sesiynau’n canolbwyntio ar dref wahanol bob dydd. Dechrau ar y dydd Llun am 11 gydag Aberaeron ac arddangosfa coginio gan David Simms un o Gogyddion yr Harbwrfeistr, a gefnogwyd gan y Rheolwr Cyffredinol Dai Morgan. Bu’r Cynghorydd Clive Davies yn helpu David i baratoi pryd o gimwch ar gyfer yr ymwelwyr. Yn y sesiwn 2.30 clywodd yr ymwelwyr am Winllan Llaethliw wrth i’r perchnogion Siw a Richard Evans, rannu eu taith o ddatblygu gwinllan ger Aberaeron. Roedd hyn yn cynnwys samplu amrywiaeth o winoedd a gynhyrchwyd yn Llaethliw.

Roedd sesiwn y bore ddydd Mawrth wedi ei glustnodi i Aberteifi gyda chyflwyniad gan Catrin yn olrhain sut roedd hi ac Osian sy’n berchen ar gwmni CRWST wedi sefydlu’r busnes yn Aberteifi. Cynhyrchwyd un o’r seigiau o fwydlen CRWST yn ystod y sesiwn, gyda chymorth yr Arweinydd, y Cynghorydd Bryan Davies. Yn y prynhawn cyflwynodd Huw Morgan o Goleg Ceredigion a dau o’i fyfyrwyr ifanc, sef Caitlin Parry a Sapphire Francis, arddangosfa coginio oedd yn dangos y sgiliau gwych sy’n cael eu dysgu yn y Coleg Arlwyo.

Gareth Richards fu’n diddanu’r ymwelwyr yn ystod y ddwy sesiwn ddydd Mercher pan oedd Llanbedr Pont Steffan yn dref dan sylw. Ymunodd Tom Conti Lewis â Gareth yn y gegin a roddodd samplau o Hufen Iâ Conti i’r gynulleidfa. Gwnaeth Elliw o Laeth Gwarffynnon sôn am eu bar llaeth a llaeth poteli gwydr cyn bod Meinir Evans a sefydlodd ei busnes ar-lein yn ystod Covid i werthu Hathren Brownies yn rhannu ei phrofiadau a samplau o’r brownies i bawb.

Y dref o dan sylw ddydd Iau oedd Aberystwyth a phwy well i wneud hynny na Nathan Davies o SY23. Heidiodd yr ymwelwyr i’r adeilad ar gyfer ei arddangosiad am 11.30 wrth i Nathan arddangos Cig Oen Cymru a chynnyrch lleol arall y mae’n ei ddefnyddio yn ei fwyty Seren Michelin. Cyflwynwyd a chefnogwyd Nathan gan Sara Beechey sy’n rheoli Marchnad Ffermwyr Aberystwyth ar ran y Cyngor.

Roedd sesiwn fore Gwener yn cynnwys prosiect gardd gymunedol Llandysul Yr Ardd gydag amrywiaeth o seigiau’n cael eu coginio gan ddefnyddio cynnyrch o’r Ardd. Cyflwynwyd y sesiwn hon gan Hazel a’i chefnogi gan Llinos Hallgarth o Cered. Mae Llinos wedi bod yn cefnogi prosiect Yr Ardd a arweinir gan y gymuned fel rhan o’i rôl yn gweithio i Cered, menter Iaith Ceredigion. Gwahoddwyd In the Welsh Wind i ymuno â’r sesiwn wrth i Dan sôn am yr amrywiaeth o gynnyrch sydd ar gael gan In the Welsh Wind. Neilltuwyd sesiwn y prynhawn i Gaws Teifi a Da Mhile o Fferm Glynhynod, Llandysul. Soniodd Robert o Glynhynod am y Caws a chynnyrch eraill wrth bod Selsig Morgannwg yn cael eu coginio gan ddefnyddio caws Teifi sydd yn cynnwys gwymon.

Gan fod dydd Sadwrn i roi sylw i Dregaron, roedd Coffi a Bara yn mynd i siarad am eu busnes, ond yn anffodus roedd yr wythnos brysur wedi amharu ar hynny, ac felly nid oedd hyn yn bosibl. Fodd bynnag, llwyddodd ymwelwyr i brynu’r amrywiaeth hyfryd o croissants, sydd i’w gweld yn eu caffi yn y dref, yn un o’r cabanau a sefydlwyd gan Gyngor Sir Ceredigion i fusnesau Ceredigion ei ddefnyddio i werthu eitemau yn ystod yr Eisteddfod. Caewyd y sesiynau ar y dydd Sadwrn gyda’r Bechgyn yn sôn am sur does mewn cyswllt iechyd. Cafwyd cyflwyniad diddorol iawn gan Robert a’i bartner sy’n cynhyrchu bara ar gyfer marchnad dydd Gwener yn Llandysul. Cafodd yr ymwelwyr flas ar y bara a weinir gyda chaws Hafod wedi’i doddi a Mêl gan Fêl ap Griff.

Roedd y rhaglen wythnos yn gyfle gwych i rannu newyddion am Ganolfan Tir Glas mewn perthynas â bwyd a ffermio cynaliadwy. Roedd yma gyfle gwych i roi llwyfan i gymaint o gynhyrchwyr bwyd a diod y Sir.