Mae menter Dosbarthu Bwyd Cymunedol Cymru, dan arweiniad PLANED, yn falch o lansio ei Hwb Bwyd cyntaf yng Ngheredigion ar Gampws Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Llambed, ar y cyd â Chanolfan Tir Glas. Mae’r prosiect yn hwyluso gwirfoddolwyr i gysylltu â chynhyrchwyr a chyflenwyr bwyd i gael mynediad hawdd at fwyd iachus a gwerth gwych. Mae’r Fenter yn gweithio gyda Ffrwythau a Llysiau’r Chwe Gwlad yng nghanol y dref i ddarparu ffrwythau a llysiau am gost cyfanwerthu i’r brifysgol a chymunedau’r dref.
Lansiwyd yr hwb fwyd yn swyddogol ar 16 Gorffennaf ar gampws y Brifysgol a bydd yn cael ei gynnal bob dydd Gwener rhwng 2.30-5pm i bobl ddod draw i gasglu eu ffrwythau a’u llysiau neu i archebu ymlaen llaw ar gyfer yr wythnos ganlynol. Bydd yr hwb bwyd cymunedol yn Llambed yn cynnig ffrwythau a llysiau ffres fel man cychwyn gyda’r bwriad o ddatblygu’r dewis o gynnyrch yn y dyfodol.
Dywedodd Hazel Thomas, cydlynydd Canolfan Tir Glas, “Mae CTG yn hapus i gefnogi’r fenter bwysig hon sy’n cael ei chyflwyno gan PLANED ar draws Gorllewin Cymru. Bydd hyn yn cynnig cyfle i fyfyrwyr ac aelodau’r gymuned brynu bwyd ffres ac iach fforddiadwy. Rydym yn mawr obeithio y bydd y gymuned yn manteisio ar hyn, yn enwedig gan ein bod yn gweithio gyda busnes lleol, Ffrwythau a Llysiau’r Chwe Gwlad, sydd wedi cytuno i gefnogi’r fenter.”
Mae DBCC yn hynod o falch bod y prosiect yn cael ei lansio yng Ngheredigion gyda Laura o’r tîm yn dweud wrthym fod ‘y lansiad yn wych, gyda llawer o archebion wedi’u gosod, llawer o ddiddordeb ac rydym mor ddiolchgar i’r Chwe Gwlad am weithio gyda ni i helpu i lansio’r prosiect ar y campws. Hoffem ddiolch i wirfoddolwyr am helpu i lansio’r hwb ac i bawb a ymunodd â ni.”
Dan arweiniad PLANED, mae’r prosiect hwn wedi derbyn cyllid drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru
Am ragor o wybodaeth ewch at https://www.communityfood.wales/