Digwyddiadau

Cynhadledd annibynnol ar ffermio a bwyd cynaliadwy   

Cynhelir CGFFfC #4 ar 23-25 Tachwedd 2022 yn Llanbed, Ceredigion  

Sefydlwyd y Gynhadledd Gwir Fwyd a Ffermio Cymru i archwilio bwyd a ffermio cynaliadwy, gan ddod â ffermwyr, busnesau bwyd eraill, amgylcheddwyr a phobl sy’n ymwneud ag iechyd y cyhoedd, addysg bwyd, sofraniaeth bwyd a chyfiawnder cymdeithasol ynghyd.

Ei nod yw agor sgyrsiau a chymryd camau cadarnhaol ynghylch dyfodol bwyd yn ein gwlad, gan fapio system fwyd gynaliadwy ar gyfer yr 21ain ganrif i Gymru a sut y gallem ddechrau ei hadeiladu.

Ysbrydolwyd y gan yr  Oxford Real Farming Conference, cynhaliwyd y Gynhadledd cyntaf yn Aberystwyth yn 2019. Yn 2020 a 2021, cynhalwyd digwyddiadau rhithiol yn sgil Covid-19. Gallwch weld yr holl recordiadau ar y wefan hon.

Eleni fodd bynnag rydym yn edrych ymlaen at gyfarfod mewn person ar gampws Llambed y Drindod Dewi Sant, ar 23-25 Tachwedd 2022. Gan gydweithio gyda  phrosiect arloesol Canolfan Tir Glas, sydd wrthi yn creu perthynas newydd rhwng y Brifysgol, y gymuned, a’r sectorau bwyd a ffermio, byddwn yn archwilio sut y gellir gwireddu gweledigaeth newydd ar gyfer bwyd a chymdeithas trwy weithredu’n lleol.

Diolch i chi am eich cefnogaeth! Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yn nes ymlaen yn y flwyddyn.

Am ragor o wybodaeth CGFFfC 2022 WRFFC – CGFFfC / WRFFC