Digwyddiadau

Helpwch ni i lunio Canolfan Busnes a Menter ar gyfer Llambed.

Wrth i ni ddechrau blwyddyn academaidd newydd mae datblygiadau Tir Glas yn prysuro. Mae’r tîm yn Llambed bellach yn gweithio ar sefydlu Canolfan Busnes a Menter, gyda nodau penodol i gefnogi, galluogi ac annog menter wledig yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru

Gofynnwn am eich help yn hynny o beth, fel trigolion a pherchnogion busnes yn yr ardal. Hoffem yn fawr glywed am eich anghenion a sut y gallai’r Ganolfan eich helpu i ddatblygu digwyddiadau, ymchwil, cefnogaeth, cyrsiau byr a chymwysterau.

Er mwyn sicrhau bod y Ganolfan Busnes a Menter yn gwasanaethu anghenion y gymuned orau, rydym wedi lansio arolwg i ofyn i fusnesau pa hyfforddiant, cefnogaeth a chyfleodd y byddent yn elwa ohonynt, er mwyn i ni allu dechrau datblygu gweithgareddau addas ar y campws.

Er mwyn rhannu eich barn, cwblhewch yr arolwg gan ddefnyddio’r ddolen hon https://www.surveymonkey.co.uk/r/Tir_Glas  Ni ddylai gymryd gormod o amser i’w gwblhau. A fyddech cystal â’i rannu ag eraill yn yr ardal er mwyn ein bod yn derbyn cymaint o safbwyntiau a phosibl?

Os hoffech siarad ag aelod o’r tîm am y Ganolfan Busnes a Menter a sut y gallai weithio gyda chi a’ch busnes, gallwch gysylltu â nhw ar   enterprise@uwtsd.ac.uk