Buddion

Mae’r weledigaeth a amlinellir ar y wefan hon yn un feiddgar ac uchelgeisiol. Cred y Brifysgol fod modd ei defnyddio i sbarduno adfywiad economaidd a chymdeithasol yn Llambed gan gyfrannu at hyfywedd y dref yn yr hir-dymor.

Os yw’r weledigaeth i ddwyn ffrwyth, bydd gofyn i’r Brifysgol sefydlu partneriaeth strategol â sawl partner yng Ngheredigion a thu hwnt. Bydd y bartneriaeth â’r Cyngor Sir yn greiddiol a bydd gofyn i’r hyn a gynigir alinio’n agos â’i blaenoriaethau strategol ar gyfer y degawd nesaf a thu hwnt. Yn yr un modd, bydd angen cefnogaeth lwyraf Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru ar y Ganolfan, gan sicrhau bod ei nodau a’i hamcanion yn gweddu i rai o flaenoriaethau’r rhanbarth cyfan. O sefydlu’r partneriaethau hyn a thrwy gydweithio strategol rhyngddynt, gallai Canolfan Tir Glas fod yn ddatblygiad arwyddocaol i’r Brifysgol a thref Llambed fel ei gilydd yn ystod y degawd nesaf.

Nodir islaw y math o fuddion y gellid eu disgwyl o wireddu’r weledigaeth:

  1. cynnig ateb hir-dymor i ddatblygiad economaidd Llambed a’r cyffiniau;
  2. creu tua 75 o swyddi newydd o ansawdd mewn mannau gwahanol yn nhref Llambed;
  3. effeithio’n gadarnhaol ar gyflogaeth mewn mannau eraill yn y dref;
  4. codi proffil Llambed fel canolfan fwyd ranbarthol;
  5. addysgu holl blant y sir ynghylch cyfoeth naturiol yr ardal a phwysigrwydd ei gwarchod ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol;
  6. sefydlu system fwyd newydd ar gyfer Ceredigion lle bydd ffermydd a busnesau lleol ar eu hennill;
  7. codi ymwybyddiaeth pobl o effeithiau newid hinsawdd a’r modd y gellir ymateb iddynt trwy fabwysiadu dulliau amgen o fyw a gweithio;
  8. denu mwy o lawer o ymwelwyr i’r dref gan hybu’r economi leol;
  9. cefnogi busnesau lleol sy’n ymwneud â’r diwydiannau bwyd a lletygarwch;
  10. cryfhau’r berthynas rhwng y dref a’r Brifysgol;
  11. sefydlu perthynas waith rhwng y Brifysgol a Chanolfan Bwyd Cymru yn Horeb;
  12. cynnig ystod o gymwysterau addysgol penodol yng Ngheredigion am y tro cyntaf gan sicrhau llwybrau dilyniant perthnasol o addysg bellach i addysg uwch;
  13. darparu addysg a hyfforddiant lleol ar gyfer y rheini sy’n dymuno aros yng Ngheredigion;
  14. sefydlu rhwydweithiau perthnasol lle bydd modd i fusnesau gefnogi ei gilydd;
  15. sefydlu ffocws clir ar gyfer marchnata a hyrwyddo tref Llambed a’r ardal i’r dyfodol;
  16. hyrwyddo micro-fusnesau newydd o fewn y diwydiant bwyd;
  17. sicrhau buddsoddiad pellach yng Ngŵyl Fwyd Llambed;
  18. sicrhau nawdd a chefnogaeth amgen i ddigwyddiadau cymunedol gan Aldi;
  19. sbarduno gweithgarwch economaidd pellach yn y dref a’r cyffiniau yn ymwneud â’r diwydiant bwyd a lletygarwch;
  20. denu sylw cenedlaethol i Lambed ynghyd â chyllid allanol ar gyfer prosiectau eraill yn gysylltiedig â’r diwydiant bwyd o fewn cyd-destun gwledig;
  21. sbarduno datblygiadau eraill yn y dref a allasai gynnwys ffocws ar chwaraeon, iechyd, lles a ffitrwydd.