DigwyddiadauApiary

Yn dilyn trafodaeth gyda Chlwstwr Mêl Cymru, rydym yn hapus i gyhoeddi bod Canolfan Tir Glas wedi datblygu partneriaeth gyda chynhyrchwr mêl lleol sydd wedi sefydlu gwenynfa ar y Campws. Gwnaethpwyd hyn yn dilyn asesiad risg a chefnogaeth lwyraf yr Unedau Datblygu Eiddo ac Ystadau.

Mae hyn yn ddechrau arbennig i ddatblygu nifer o brosiectau cynaliadwy fel rhan o weledigaeth Canolfan Tir Glas ar Gampws Llambed.

Y gobaith yw y bydd gyda ni Fêl Tir Glas erbyn 2022 fel cynnyrch arbennig i’w werthu gan gynhyrchwr lleol wrth i ni ddathlu daucanmlwyddiant y Brifysgol.

Mêl ap Griff, the company that is responsible for the apiary, is looking forward to working with Canolfan Tir Glas and the University in the future.