Digwyddiadau

Patrick Holden yw un o arloeswyr mudiad bwyd cynaliadwy modern ac yn ystod ei gyfnod yn Gyfarwyddwr Cymdeithas y Pridd rhwng 1995 a 2010, chwaraeodd ran allweddol yn datblygu marchnad organig y DU. Bu Patrick yn ymwneud yn agos â datblgyu safonau, ac roedd ei ymgysylltu eang â’r cyhoedd drwy ymgyrchoedd dilynol ar y cyfryngau yn allweddol i sicrhau ymddiriedaeth y cyhoedd yn y cynhyrchion a ddeilliai o amaethyddiaeth gynaliadwy.

Cyn ymuno â Chymdeithas y Pridd, ef oedd sylfaenydd a chadeirydd Ffermwyr Organig Prydain, a ddatblyggodd sail cynhyrchu’r mudiad bwyd organig cyn uno â Chymdeithas y Pridd yn 1995

Hyfforddodd mewn ffermio Biodynamig yng Ngholeg Emerson, Swydd Sussec, ac yn 1973 sefydlodd fferm laeth organig gymysg, a’r daliad hwn bellach yw’r hynaf o’r fath yng Nhgymru/ Mae ei fferm 145 erw, Bwlchywernen Fawr, uwchlaw pentref Llanbybi, ryw bum milltir i’r gogledd o Lanbedr Pont Steffan, yn cynhyrchu caws tebyg i cheddar â llaeth amrwd 75 o wartheg godro Ayrshire.

Yn 2010 gadawodd Cymdeithas y Pridd i ymgymryd â her newydd – yr angen i ddatblygu strategaethau ar gyfer systemau bwyd cynaliadwy. Mae’r sefydliad elusennol dilynol, yr Ymddiriedolaeth Bwyd Cynaliadawy, yn gweithio i sicthau system bwyd a ffermio well, er lles y bobl a’r blaned.

‘Rydym ni wedi bod yn disbyddu mantolen natur ers can mlynedd,’ dywedodd Patrick un tro, gan ychwanegu, ‘Nawr mae’n rhaid i ni ei hadfer,’ ,Mae ychydig yn fwy optimistaidd am y dyfodol erbyn hyn gydag ymchwydd newydd o ddiddordeb gan y cyhoedd mewn cynaladwyedd, y mae’n ei ddisgrifio fel ‘egni newydd’.

Roedd gwaith ac ysbrydoliaeth Patrick yn allweddol wrth i Brifysgol Cymry Y Drindon Dewi Sant sefydlu Canolfan Tir Glas as Gampws Llanbedr Pont Steffan. Mae hwn yn ddatblygiad sy’n canolbwyntio ar gynaladwyedd a gwydnwch fydd yn cynnig darparieth academaidd newydd mewn arweinyddiaeth bwyd, cynhyrchu bwyd cynaliadwy ac adfywio gwledig fel rhan o Academi Bwyd Cyfoes Cymru.

Ers symud i Gymru yn y 1970au, mae Patrick Holden wedi bod yn asiant newid, gan gysegru ei fywyd i newid ffermio er gwell. Derbyniodd CBE am wasanaethau i ffermio organig yn 2005 ac mae’n gwbl briodol fod ei brifysgol leol, Priysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, hefyd yn manteisio ar y cyfle i’w anrhydeddu a dathlu ei arweinyddiaeth gref a’i ymdrechion diflino drwy’r blynyddoedd.