Mae Tir Glas yn falch iawn o gael cefnogi Gŵyl Fwyd Llambed sydd yn cael ei chynnal ar y campws yn Llambed.
Bydd y Gornel Goginio eleni yn cynnwys cyfres o arddangosfeydd cyffrous gyda’r cogydd enwog Nathan Davies o SY23 yn cychwyn y gweithgareddau am 10 y bore.
Am ddiweddariad a mwy o wybodaeth am y stondinwyr – dilynwch dudalen Gweplyfr Gŵyl Fwyd Llambed (1) Gŵyl Fwyd Llanbed : Lampeter Food Fest | Lampeter | Facebook
Cornel Coginio
10:00 – Nathan Davies SY23 – ac yn arwyddo ei lyfr
11.00 – Cystadleuaeth Cogydd Ifanc – Ennillydd rownd derfynol Ceredigion
12:00 – Gareth Johns – Llysgennad Slow Food Cymru
13:00 – Coleg Ceredigion – Huw Morgan a myfyrwyr presennol
14:00 – Tir Glas –Simon Wright a gwesteion
15:00 – Alex Cook – Coginio Treftadaeth, o Ddiwylliant i Adfywio
16:00 – Gareth Richards – Cegin Gareth