Buddion
Mae’r weledigaeth a amlinellir ar y wefan hon yn un feiddgar ac uchelgeisiol. Cred y Brifysgol fod modd ei defnyddio i sbarduno adfywiad economaidd a chymdeithasol yn Llambed gan gyfrannu at hyfywedd y dref yn yr hir-dymor.
Os yw’r weledigaeth i ddwyn ffrwyth, bydd gofyn i’r Brifysgol sefydlu partneriaeth strategol â sawl partner yng Ngheredigion a thu hwnt. Bydd y bartneriaeth â’r Cyngor Sir yn greiddiol a bydd gofyn i’r hyn a gynigir alinio’n agos â’i blaenoriaethau strategol ar gyfer y degawd nesaf a thu hwnt. Yn yr un modd, bydd angen cefnogaeth lwyraf Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru ar y Ganolfan, gan sicrhau bod ei nodau a’i hamcanion yn gweddu i rai o flaenoriaethau’r rhanbarth cyfan. O sefydlu’r partneriaethau hyn a thrwy gydweithio strategol rhyngddynt, gallai Canolfan Tir Glas fod yn ddatblygiad arwyddocaol i’r Brifysgol a thref Llambed fel ei gilydd yn ystod y degawd nesaf.
Nodir islaw y math o fuddion y gellid eu disgwyl o wireddu’r weledigaeth:
- cynnig ateb hir-dymor i ddatblygiad economaidd Llambed a’r cyffiniau;
- creu tua 75 o swyddi newydd o ansawdd mewn mannau gwahanol yn nhref Llambed;
- effeithio’n gadarnhaol ar gyflogaeth mewn mannau eraill yn y dref;
- codi proffil Llambed fel canolfan fwyd ranbarthol;
- addysgu holl blant y sir ynghylch cyfoeth naturiol yr ardal a phwysigrwydd ei gwarchod ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol;
- sefydlu system fwyd newydd ar gyfer Ceredigion lle bydd ffermydd a busnesau lleol ar eu hennill;
- codi ymwybyddiaeth pobl o effeithiau newid hinsawdd a’r modd y gellir ymateb iddynt trwy fabwysiadu dulliau amgen o fyw a gweithio;
- denu mwy o lawer o ymwelwyr i’r dref gan hybu’r economi leol;
- cefnogi busnesau lleol sy’n ymwneud â’r diwydiannau bwyd a lletygarwch;
- cryfhau’r berthynas rhwng y dref a’r Brifysgol;
- sefydlu perthynas waith rhwng y Brifysgol a Chanolfan Bwyd Cymru yn Horeb;
- cynnig ystod o gymwysterau addysgol penodol yng Ngheredigion am y tro cyntaf gan sicrhau llwybrau dilyniant perthnasol o addysg bellach i addysg uwch;
- darparu addysg a hyfforddiant lleol ar gyfer y rheini sy’n dymuno aros yng Ngheredigion;
- sefydlu rhwydweithiau perthnasol lle bydd modd i fusnesau gefnogi ei gilydd;
- sefydlu ffocws clir ar gyfer marchnata a hyrwyddo tref Llambed a’r ardal i’r dyfodol;
- hyrwyddo micro-fusnesau newydd o fewn y diwydiant bwyd;
- sicrhau buddsoddiad pellach yng Ngŵyl Fwyd Llambed;
- sicrhau nawdd a chefnogaeth amgen i ddigwyddiadau cymunedol gan Aldi;
- sbarduno gweithgarwch economaidd pellach yn y dref a’r cyffiniau yn ymwneud â’r diwydiant bwyd a lletygarwch;
- denu sylw cenedlaethol i Lambed ynghyd â chyllid allanol ar gyfer prosiectau eraill yn gysylltiedig â’r diwydiant bwyd o fewn cyd-destun gwledig;
- sbarduno datblygiadau eraill yn y dref a allasai gynnwys ffocws ar chwaraeon, iechyd, lles a ffitrwydd.