Canolfan Cydnerthedd a Harmoni Cymru

Bydd Canolfan Cydnerthedd a Harmoni Cymru yn chwarae rhan flaenllaw o fewn Canolfan Tir Glas, gan ganolbwyntio ar ystod o feysydd sy’n ymwneud â lleddfu ac addasu i effeithiau newid hinsawdd.  

Bydd pwyslais penodol ar gyflwyno cydnerthedd ym meysydd lles cymunedol, y gymuned, bwyd ac amaethyddiaeth, adeiladau ac ôl-osod, ynny a defnydd ynni.

Fel rhan hanfodol o hyn rhoddir sylw parhaus i’r ffordd y gall y dref a’r rhanbarth gefnogi’n ymarferol brif egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Bydd gan y ganolfan swyddogaeth bwysig hefyd i gynghori’r Brifysgol ar gyflwyno ei darpariaeth academaidd drwy lens cynaliadwyedd a bydd hefyd yn weithredol wrth ddarparu hyfforddiant achrededig ym maes cydnerthedd ar gyfer holl ddarpar athrawon y sefydliad.

Bydd y Ganolfan yn cael ei hystyried yn endid arloesol wrth iddi gynnig hyfforddiant ac arweiniad ar  ddulliau mwy cydnerth, cytûn a chynaliadwy o fyw ac o weithio.

Bydd y modiwl craidd – Cynllunio ar gyfer Cydnerthedd – wrth wraidd y  cwricwlwm eang a ddarperir, gyda ffocws clir ar systemau bwyd adfywiol, garddwriaeth ac amaethyddiaeth, cynhyrchu bwyd, cydnerthedd cymunedol, ynni a defnydd ynni.

Caiff y ganolfan ei lleoli yn adeilad Willows ar gampws y Brifysgol, lle bydd staff a myfyrwyr yn gally defnyddio ystafelloedd seminar, llyfrgell fach, ystafelloedd cyfarfod, swyddfeydd a lolfa.

Mae’r Ganolfan hon wedi ei datblygu yn sgil partneriaeth glos  rhwng y Brifysgol, Hwb Ymaddasu Llambed, yr Athrofa Harmoni, Coleg Ceredigion a Choleg Sir Gâr.

Agorodd y Ganolfan gyda digwyddiad lansio ddydd Gwener 19 Tachwedd 2021.     

 .

Lansio’r Ganolfan

Mae’r cysylltiad agos rhwng gweledigaeth y Brifysgol a’i hamgylchedd gwledig, a sefydlwyd gan ei sylfaenwyr cynnar, wedi parhau hyd heddiw. Roedd sylfaenydd Coleg Dewi Sant Llambed, yr Esgob Thomas Burgess, Esgob Tŷ Ddewi a hefyd Esgob Salisbury, yn aelod sefydlol o Gymdeithas Amaethyddol Odiham, yn ei esgobaeth yn Lloegr. Roedd ganddo empathi mawr tuag at yr amgylchedd gwledig, diddordeb dwys a dealltwriaeth agos o amaethyddiaeth a phwysigrwydd diwygio amaethyddol, ynghyd â phwysigrwydd hynny i’r gymuned. Yn Llambed, roedd gan yr Esgob Burgess barch aruthrol tuag at iaith a diwylliant Cymru, a dyfnhau dysgu a gwybodaeth alwedigaethol i bawb.   Bydd y cefndir hwn yn ganolog i’r modd yr ymatebwn i heriau’r presennol. Mae’r un gwerthoedd wrth wraidd cenhadaeth y Ganolfan, wrth fynd i’r afael a’r argyfwng hinsawdd a heriau cymdeithasol eraill. Mae’r gwerthoedd hyn yn cael eu rhannu gan aelodau’r Ganolfan.

Yn dilyn lansiad Canolfan Cydnerthedd a Harmoni Cymru, fe lansiwyd prosiect Canolfan Tir Glas yn swyddogol, ar ddydd Iau 17eg Mawrth 2022. Dilynwyd hyn gan Ddiwrnod Agored, ar ddydd Sadwrn 19eg Mawrth 2022, gyda rhaglen o weithgareddau yn canolbwyntio ar y thema ‘Dysgu o Natur’. Roedd y digwyddiad hwn yn cynnwys cyfraniadau gan academyddion, arbenigwyr lleol mewn bwyd a ffermio, myfyrwyr, mentrau lleol a mentrau cymdeithasol, ar ffurf ystod o sgyrsiau, arddangosfeydd, gweithgareddau ymarferol dan do ac awyr agored gan gynnwys teithiau tywys o amgylch y campws a’r tref. Roedd y gweithgareddau’n canolbwyntio ar thema cydnerthedd, gan gynnwys addysg, lles, bioamrywiaeth ac adfer natur. Roedd y Diwrnod Agored yn gyfle i’r cyhoedd ymgysylltu â’r Brifysgol ac i gyfrannu at drafodaethau a gweithgareddau ynghylch cydnerthedd ar ddechrau cyfnod newydd cyffrous i’r Brifysgol yn Llanbedr Pont Steffan ac i’r gymuned y mae’n ei gwasanaethu.