Canolfan Datblygu Perfformiad Adeiladau a Phren Cymru CWIC
Deilliodd y syniad o ddatblygu Canolfan Datblygu Perfformiad Adeiladau a Phren Cymru CWIC yn sgil hyrwyddo Campws Llambed fel canolfan gynaliadwyedd genedlaethol. Y nod yw sefydlu’r Ganolfan lle bydd y ffocws ar ddeall hynodrwydd ffisegol a mecanyddol coed Cymru a sut y mae hyn oll yn effeithio ar y modd y gellid eu defnyddio at bwrpasau adeiladu gwahanol.
Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, wrth weithio gyda Woodknowledge Wales wedi datblygu partneriaeth unigryw i greu Canolfan Datbylgu Perfformiad Adeiladau a Phren Cymru CWIC yn Llambed.
Pwrpas y fenter yw canolnwyntio ar ddatblygu arloesedd mewn pren cynhenid ar adeg lle bo coed a phren o Gymru yn allweddol wrth ddal, storio a lleihau allyriadau carbon.
Ein gweledigaeth yw creu canolfan dechnoleg a Ffab Lab i ddarparu cyfleuster blaenllaw i ddiwydiant a’r byd academaidd i greu, dysgu, dyfeisio ac arloesi.
Bydd ein Ffab Lab yn cynnig mynediad at amgylchedd arloesol, sgiliau o lefel uchel a deunyddiau i allugoi’r sector pren yng Nhygmru i ddatblygu. Wedi’i leoli yn Llambed, bydd y Ffab Lab yn gweithio gyda’r gadwyn gyflenwi pren yng Nghymru, gweithgynhyrchwyr lleol a chenedlaethol a Darparawyr Tai Cymdeithasol i ychwanegu gwerth i goed o Gymru a thechnolegau digidol cysylltiedig.
Bydd gwaith y ganolfan yn cynnwys:
- Gwyddoniaeth Pren Cynhenid
- Creu Prototeip, Profi a Gwerthuso cynnyrch pren o Gymru
- Gwreiddio a Gwerthuso Technoleg Synhwyro mewn Adeiladau a Chydrnnau Pren
- Integreiddio Technoleg Synhwyro yn Ddigidol a thechnolegau cysylltiedig i alluogi byw’n annibynnol a byw’n annibynnol a byw gyda chymorth.
Bydd Canolfan Datblygu Perfformiad Adeiladau a Phren Cymru CWIC, yn ei thro, yn creu hwb Cymreig i allugoi’r diwydiant i arbrofi ac arloesi.
Pan bydd angen cymorth yn y diwydiant, bydd ein Ffab Lab yn cynnig cyngor arbenigol yn ogystal â mynediad at offer a thechnoleg sydd gyda’r gorau yn y sector. A’r cyfan tra’n datblygu a gwreiddio ecosystem datblygu sgiliau ar gyfer Addysg Bellch ac Uwch.
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, a’i phartneriaid allweddol, yn edrych ymlaen at rannu gwybodaeth a chynnydd ymhellach maes o law. Gyda’n Canolfan yn rhan annatod o ddatblygiadau Canolfan Tir Glas y Brifysgol, rydym yn ychwanegu gwerth nid yn unig at y sector coed ar draw Ceredigion, ond ledled Cymru, y DU ac yn rhyngwladol.