Pam y datblygiad hwn?
Yn ei Gynllun Corfforaethol cyfredol, mae Cyngor Sir Ceredigion wedi adnabod ‘hybu’r economi’ fel ei brif flaenoriaeth. Mae Strategaeth Economaidd newydd y Cyngor Sir yn amlinellu sut y bwriada fynd â’r maen i’r wal gan danlinellu’r berthynas agos rhwng ffyniant economaidd ac asedau naturiol y sir.
Pwysleisir bod gan Geredigion ‘lawer o nodweddion unigryw ac mae’n bwysig ein bod yn clodfori’r rhain ac yn eu defnyddio i greu cyfleoedd newydd.’ Pwysleisir ymhellach y gwelir Ceredigion yn magu hyder ‘wrth iddi ddefnyddio ei hasedau – naturiol, ffisegol a phobl – yn gynyddol i ddatblygu a thyfu’r economi.’
Mae’r Cyngor Sir yn cydnabod y bydd ei allu i ddatblygu twf economaidd yn dibynnu i raddau helaeth ‘ar fod â gweithlu brwdfrydig ac amryddawn i weithio yn y mentrau a fydd yn ysgogi’r twf hwnnw’. Tanlinellir bod yr angen am gydweithio agos rhwng y gwasanaeth addysg lleol, y coleg addysg bellach, y prifysgolion a mentrau hyfforddi lleol yn bwysicach nag erioed.
Noda’r Cyngor fod dros 7000 o drigolion Ceredigion bellach yn cael eu cyflogi yn y diwydiannau twristiaeth, bwyd a lletygarwch. Yn yr un modd mae Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru yn cydnabod bod 6.6% o gyflogaeth Ceredigion a Phowys yn gysylltiedig â gwerthu bwyd neu ddiod (o’i gymharu â 5.8% ar draws gwledydd Prydain) tra y gwelwyd cynnydd o 11.5% mewn cyflogaeth yn gysylltiedig â’r diwydiant bwyd yng Nghanolbarth Cymru rhwng 2010 a 2017 (o’i gymharu â’r cynnydd o 9.9% a welwyd ar draws Cymru yn ystod yr un cyfnod.)
Wrth edrych i’r dyfodol, felly, mae’n amlwg y bydd gan dwristiaeth wledig a’r diwydiant bwyd rôlau allweddol i’w chwarae yn y broses o adfywio a hybu economi Ceredigion.
Gyda dylanwad Covid-19 yn dal yn drwm arnom am flynyddoedd eto, bydd pobl yn fwy tebygol nag erioed i fuddsoddi mewn gwyliau mewn ardaloedd gwledig, lle byddant yn teimlo’n ddiogel, yn iach ac yn fodlon eu byd ymhell o lygredd y dinasoedd a’r trefi mawrion.
Ar sail hyn, dylai economi Ceredigion elwa’n fawr ar ei lleoliad daearyddol, ar ei hadnoddau naturiol a’i natur groesawgar.
Mae Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru yn cydnabod hyn drwy nodi bod cyfle gwirioneddol yn bodoli ‘i ddefnyddio ein hasedau a’n hadnoddau naturiol i ddatblygu pwynt gwerthu unigryw sy’n cryfhau twristiaeth yn y rhanbarth.’ Tanlinella ymhellach fod ‘lefelau uwch o arferion cynaliadwy yng Nghanolbarth Cymru wedi’u hadeiladu ar gryfderau ein hasedau naturiol a sefydliadol, gan gynnig cyfle i’r rhanbarth ragori mewn twristiaeth sy’n canolbwyntio ar gynaliadwyedd, yr economi gylchol, yn ogystal â chefnogi gweithredoedd iechyd a llesiant.’
Drwy fod yn rhan o drafodaethau lleol, drwy ystyried sylwadau gan grwpiau cymunedol a thrwy ystyried nifer o strategaethau economaidd rhanbarthol a gyhoeddwyd yn ddiweddar, mae’r Drindod Dewi Sant wedi adnabod cyfleon penodol iddi gyfrannu at flaenoriaethau strategol y Cyngor Sir yn ystod y degawd nesaf.
Bydd sefydlu Canolfan Tir Glas yn fodd iddi gyfrannu’n sylweddol at adfywiad tref Llambed gan ddatblygu’n gatalydd ar gyfer ystod o ddatblygiadau cysylltiedig ar draws yr ardal.
Wrth edrych i’r dyfodol, mae potensial i gysylltu’r pentref bwyd arfaethedig – gyda’i bwyslais ar fwyta’n iach ac ar gyfoeth y cynnyrch bwyd lleol – gyda datblygiad o’r newydd ym maes chwaraeon, ffitrwydd ac addysg gorfforol, lle byddai Llambed yn gweithredu fel hwb canolog i Geredigion gyfan ac yn gartref ar gyfer ei thimau sirol a rhanbarthol. Gydag ychydig o fenter, gellir yn rhwydd weld y tir rhwng Ysgol Bro Pedr a chaeau Pontfaen yn datblygu’n gartref ar gyfer pentref chwaraeon a fyddai’n cynnwys caeau chwarae o ansawdd, maes ymarfer 4G, canolfan fowlio dan do a thrac rhedeg pwrpasol.