Pentref Bwyd Tir Glas
Mae datblygiad Pentre Bwyd Tir Glas ar dir Pontfaen yn gyfle cyffrous i greu menter fasnachol newydd yn Llambed. Bydd yn fan cychwyn ar gyfer gwireddu gweledigaeth rymus ar gyfer y dref, gan alluogi’r Brifysgol a phartneriaid eraill gynnig am gyllid sylweddol o ffynonellau rhanbarthol a chenedlaethol i ddatblygu agweddau eraill ar y cynllun mewn mannau eraill yn gyfagos.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r ymgynghoriad presennol ewch at https://aldiconsultation.co.uk/pontfaen
Bydd datblygiad Pontfaen yn galluogi’r Brifysgol i:
- weithio’n agos ag Aldi i sefydlu pentref bwyd ar y safle lle bydd cyfle i arddangos a dathlu cynnyrch bwyd lleol;
- weithio’n agos gydag Aldi i ategu’r bwyd lleol sydd ar gynnig a datblygu cyfleoedd ar gyfer cydweithio a chynyddu cyfleodd cyflogaeth;
- fuddsoddi yn y pafiliwn – adeilad rhestredig gradd 2 – gan sicrhau y caiff ei weld fel man dinesig ac adnodd i’w ddefnyddio gan y gymuned yn y dyfodol;
- fuddsoddi mewn hwb bwyd cymunedol ar gyfer hyrwyddo, dysgu a datblygu sgiliau mewn perthynas â bwyd lleol yng nghanol tref Llambed;
- fuddsoddi ymhellach yn yr Ŵyl Fwyd flynyddol a gynhelir ar dir y Brifysgol;
- sefydlu pencadlys ar gyfer Canolfan Tir Glas ar gampws y Brifysgol;
- uwchraddio’r cae chwarae a fydd ar ôl ym Mhontfaen a fydd at ddefnydd myfyrwyr y Brifysgol a chlybiau chwaraeon lleol;
- weithio gyda’r Cyngor Sir a grwpiau chwaraeon lleol i ddatblygu ymhellach adnoddau chwaraeon yn y rhan hon o Lambed.


Deilliannau
- Sefydlu cabanau bwyd ym Mhontfaen gan sicrhau tenantiaid pwrpasol ar eu cyfer.
- Gweithio gydag Aldi fel bod cynaliadwyedd wrth wraidd datblygiad y pentref bwyd.
- Bod o leiaf bymtheg cwmni lleol yn elwa’n rheolaidd o’r datblygiad.
- Sefydlu partneriaeth ffurfiol â Chanolfan Fwyd Cymru yn Horeb.
- Creu 40 o swyddi newydd yn Llambed.
- Bod o leiaf hanner dwsin o gymdeithasau lleol yn defnyddio’r pafiliwn ar ei newydd wedd.
- Bod o leiaf pum tîm chwaraeon o’r gymuned yn cael defnydd o’r cae chwarae ym Mhontfaen.