Rôl Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Fel sefydliad craidd, mae’r Brifysgol yn cydnabod bod ganddi rôl ganolog i’w chwarae yn y broses o adfywio tref Llambed yn y cyfnod ôl-Covid. Er hynny, fydd dim modd iddi gyflawni’r nodau ar ei phen ei hun. Bydd cydweithio ag ystod o randdeiliaid lleol, rhanbarthol a chenedlaethol yn allweddol os ydyw am wireddu’r weledigaeth o dan sylw.
Gwêl y Brifysgol ei hun yn gatalydd ar gyfer newid. Bydd y newid hwnnw’n bositif, yn gynaliadwy, wedi ei anelu at yr hir-dymor a chan fod o fudd i genedlaethau’r dyfodol.
Mae cynnig y Brifysgol yn seiliedig ar hwyluso a chyflymu twf economaidd yn Llambed a’r cyffiniau. Mae cryfhau cydnerthedd economaidd yn ganolog i’r weledigaeth a hynny, yn fwy na heb, trwy fanteisio ar yr ystod o asedau naturiol sy’n bodoli’n lleol.
Rydym am weld cymuned hyderus sy’n llawn syniadau, cymuned sy’n barod i fentro, cymuned sy’n barod i newid ac addasu lle bo angen.
Trwy integreiddio’r amgylchedd lleol, iechyd a lles, cyfiawnder cymdeithasol a’r economi, mae’r Brifysgol yn grediniol y gellir datblygu cynllun arloesol a allai newid gobeithion Llambed a’r cyffiniau er gwell yn yr hir-dymor.
Ar y naill law, bydd y cynllun yn ymateb i’r argyfwng ecoloegol byd-eang; ar y llaw arall, bydd yn cynnig ateb lleol i ardal Llambed ac yn ddathliad teilwng o fywyd gwledig cyfoethog Ceredigion.