BlogBird on the Horizon

Wrth i’r gwaith o ddatblygu cwricwlwm cenedlaethol newydd Cymru brysuro, galwa’r Athro Mererid Hopwood ar yr holl randdeiliaid i fod yn uchelgeisiol a chadw meddwl agored o ran y cyfleoedd mae’n eu cynnig…

 

Wrth i’r tymor newydd ruthro yn ei flaen, rhaid edmygu’r Arloeswyr sy’n dal ati mor ddygn. Gyda dyddiad cyflwyno eu datganiadau ar orwel agos iawn, maen nhw’n clwydo ychydig yn hwyrach a chodi ychydig ynghynt i baratoi gwersi, marcio ac asesu er mwyn gallu rhoi diwrnod arall at achos Creu’r Cwricwlwm Newydd. Cânt eu gyrru ymlaen gan wybod, o blith yr holl ddatganiadau ‘Yr Hyn Sy’n Bwysig’, fod hyn yn Bwysig Go Iawn.

Dyma gyfle unigryw i sicrhau y bydd cenedlaethau nesaf Cymru’n tyfu i fod yn ddinasyddion iach, creadigol, mentrus, uchelgeisiol, gwybodus am Gymru a’r byd – ac yn ddysgwyr hyderus gydol-oes.

Mae’r gair hyder yn bwysig. Dyma’r allwedd sy’n agor drws yr amcanion eraill. Heb roi hyder i’n pobl ifanc ni, go brin y gellid disgwyl iddynt fagu uchelgais na mentergarwch na chreadigrwydd, heb sôn am fod yn iach o gorff a meddwl.

Ac o ble daw hyder? Dywedir mai’r athrylith o’r Almaen, Goethe, a fathodd yr ymadrodd mai dau beth y dylid eu trosglwyddo i’r genhedlaeth nesaf: ‘gwreiddiau ac adenydd’. Ac er bod tyndra amlwg rhwng y ddau syniad yma – y gwreiddiau ar y naill law yn ein cadw mewn un lle, yr adenydd ar y llall yn caniatáu i ni hedfan – mae rhywun yn deall yn iawn beth yw ergyd y dweud.

Er gwaetha’r paradocs ymddangosiadol, deallwn sut bod cael gwreiddiau cadarn yn gallu rhoi i blant yr hyder i fentro ar adenydd uchelgais a chywreinrwydd, a phrofi’r byd mawr o’u cwmpas.

(Dylid nodi wrth gwrs bod gwahaniaeth sylfaenol rhwng ‘ffoi’ a ‘hedfan’ – ‘flee and fly’ yn Saesneg. Nid dianc yw ymgyrraedd yn uchel. Gwareded ni rhag creu cwricwlwm sy’n plannu uchelgais ffoi yng nghalonnau’n dysgwyr ni!)

Sut felly mae meithrin y gwreiddiau? Mae hyn yn dibynnu ar feithrin synnwyr o berthyn, oherwydd mae’n rhan o’r syniad gwaelodol hwnnw o adnabod ein hunain yn eraill; ac fel holodd Waldo, beth yw adnabod ond cael ‘un gwraidd dan y canghennau’; yr un gwraidd hwnnw sy’n ein hatgoffa ni ein bod i gyd yn rhannu’r un stori yn y bôn.

Yn ddiweddar roeddwn yn annerch criw o bobl yn eu hugeiniau a oedd wedi derbyn eu haddysg yng Nghymru. Gofynnais iddynt daro ar bapur un peth diddorol am y lle y’u maged. Bu tawelwch. Neb yn sgrifennu dim. Yna, rhoddais restr o ddyddiadau ar y bwrdd gwyn, 383, 1066, 1536, 1588, 1847, 6/5/1999. Yr unig ddyddiad a ganai gloch iddynt oedd 1066. Rhifau oedd y lleill heb unrhyw arwyddocâd.

Mae’n hen bryd i ni yng Nghymru agor ein llygaid a’n meddyliau a mynd ati i ddysgu am y stori sydd o’n cwmpas yn ein caeau a’n bryniau a’n mynyddoedd, yn ein nentydd a’n hafonydd a’n moroedd, yn ein cymunedau a’n teuluoedd. Mae hon yn stori sy’n cynnwys pawb sydd ac a ddaw i fyw i Gymru.

Ein braint ni yw ei rhannu – yr hanesion a’r hanes, ac ychwanegu ati, pob un ohonom yn dod â’n lliwiau amrywiol ein hunain i’w chyfoethogi. Dyma’r ffordd i gryfhau’r gwreiddiau sy’n rhoi i ni ein synnwyr o berthyn. A dyma’r ffordd a fydd wedyn yn cyfannu ein cymdeithas ac yn ein galluogi i gyrraedd dyfodol llwyddiannus.

Gofynnais i’r un criw faint oedd yn medru’r Gymraeg. Llond dwrn yn unig gododd law, er eu bod i gyd wedi derbyn gwersi Cymraeg am ddeng mlynedd a mwy, a’u bod, o raid felly, yn medru rhywfaint ar yr iaith.

Wrth i’r cwricwlwm newydd weithio tuag at gyflawni hawl pob disgybl yng Nghymru i ddod yn siaradwyr hyderus dwy iaith swyddogol y wlad y maen nhw’n byw ynddi, rhaid i ni roi heibio’r syniad cyfeiliornus mai ystyr ‘bod yn ddwyieithog’ yw medru siarad dwy iaith gydag union yr un rhuglder.

Mae graddfeydd amrywiol iawn o ddwyieithrwydd, a gan mai un cam allweddol ar y daith i ddod yn siaradwyr ystwyth o unrhyw iaith yw cael digon o hyder i fentro arni, rhaid cofleidio pob graddfa. Fel rwy’n hoffi atgoffa pobl, os ydych chi’n gwybod nad ystyr arwydd fel ‘Allan/Exit’ yw bod rhaid i bawb o’r enw Alan adael ar frys, yna rydych eisoes wedi dechrau ar daith y Gymraeg… ac os allwch chi ddweud ‘Llanelli’ rydych wedi teithio milltir go lew!

Fel gyda’r gwaith o rannu ein hanes a’n hanesion, rhaid i ni hefyd fod yn llawer mwy agored ein meddyliau wrth ymdrin ag iaith os ydym am weld y cwricwlwm newydd hwn yn ein cyfannu’n ieithyddol.

Nid creu unffurfiaeth ddi-liw mo hyn. I’r gwrthwyneb. Creu amrywiaeth gynhwysol ydyw, lle mae gan bawb yr un breintiau a’r un set o allweddi i gael mynediad at yr un stori fawr ac at yr hyder i ychwanegu ati – a hynny drwy gyfrwng o leiaf ddwy iaith.

Allwn ni ddim gobeithio gweld dyfodol llwyddiannus i ni fel casgliad o unigolion oni bai ein bod ni’n magu synnwyr o berthyn; ystyr ‘Cymru’, wedi’r cyfan, yw’r ‘wlad ar y cyd’ – ac rwy’n meddwl yn aml y byddai ‘The Together Land’ yn gyfieithiad mwy cymwys na ‘Wales’.

Bid a fo am hynny. Gyda’n gilydd rhaid cofleidio’r cyfle hwn i’n cyfannu fel trigolion gwlad fach a thrigolion byd mawr, er mwyn codi’n hyder a thrwy hynny ymgyrraedd at bedwar diben clodwiw’r cwricwlwm newydd.

Arloeswyr: daliwch ati!

  • Mae’r Athro Mererid Hopwood yn arbenigwraig mewn Ieithoedd a’r Cwricwlwm Cymreig yn yr Athrofa, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Leave a Reply

Your email address will not be published.

Post comment