BlogDigwyddiadau

Afraid dweud bod blynyddoedd ffurfiannol plant yn hanfodol i’w datblygiad yn ddiweddarach mewn bywyd. Ond pa mor dda ydyn ni’n paratoi ein dysgwyr ieuengaf ar gyfer y byd o’u cwmpas? Allison Jones sy’n ymchwilio…

Dros y misoedd diwethaf, rydym wedi bod yn dystion i newidiadau i addysg yng Nghymru, er bod rhai ohonynt dros dro, ac efallai bod y rhai mwyaf arwyddocaol eto i ddod. Mae Cwricwlwm 2022 ar y gorwel, ymyriad i’w groesawu sy’n tynnu ein sylw rhag sgyrsiau am Covid, felly mae’n teimlo’n amserol i oedi am funud ac adfyfyrio cyn manteisio ar y cyfle i chwilio am y ffyrdd gorau i roi i’n dysgwyr ifanc sgiliau hanfodol sydd wedi’u dynodi, meintoli a’u hamlygu ar y cyd.

Mae’n ddiogel dweud nad oes neb yn gwybod sut y bydd addysg yng Nghymru yn edrych y flwyddyn nesaf, heb sôn am ymhen pum mlynedd. Felly, gan roi Covid i’r neilltu am y tro, ydym ni’n paratoi dysgwyr yn ddigonol ar gyfer dyfodol anhysbys, amhenodol?

Yn ôl adroddiad 2018 a gyhoeddwyd gan Dell Technologies, nid yw tua 85% o yrfaoedd a fydd ar gael yn 2030 hyd yn oed yn bodoli eto. Felly sut allwn ni baratoi gweithlu ar gyfer rolau nad ydym yn gwybod dim amdanynt? Mae technoleg yn newid yn gyflym iawn ac mae’n fwyfwy awtomataidd, ac mewn ffordd rydym yn addysgu sgiliau a fydd i bob cyfryw yn ddiangen erbyn y bydd ein plant ieuengaf yn ymuno â’r ras-lygod.

Rwy’n hyderus y byddai’r rhan fwyaf o ymarferwyr yn cytuno y dylai cwricwlwm blynyddoedd cynnar gynnig profiadau eang, meithrin chwilfrydedd a datblygu cariad at ddysgu ac wrth wneud hyn, rydym yn gosod sylfeini y gallwn adeiladu unigolion brwdfrydig, annibynnol arnynt sy’n barod i wynebu’r heriau sydd o’u blaenau.

Mae Syr Ken Robinson, addysgwr ac un sy’n cefnogi pwysigrwydd y celfyddydau mewn ysgolion, yn archwilio rôl creadigrwydd yn y cwricwlwm. Mae’n cwestiynu pam bod plant pedair oed yn fodlon mynd amdani hyd yn oed os ydynt yn ansicr am rywbeth – maen nhw’n ei mentro hi oherwydd, beth yw’r gwaethaf all ddigwydd? Mae Robinson yn gofyn pam bod eu gallu i gymryd risgiau mewn ffordd mor naturiol, yn chwalu erbyn oedolaeth.

Roedd fy nyddiau’n athro meithrin yn llawn dop o blant tair a phedair oed yn mynd a dod yn brysur yn yr ystafell ddosbarth, rhai yn cydio mewn glud, yn rhyfeddu ar eu creadigaethau diweddaraf, rhai yn penderfynu sut i wella ymhellach ar eu metropolis diweddaraf, ac eraill yn ffynnu yn yr awyr agored. Roedd amrywiaeth o ddiddordebau, profiad a sgiliau ond anaml y byddai plentyn yn dweud “Alla’i ddim”. Roedden nhw’n rhoi cynnig arni, yn barod i drio ac ni waeth beth oedd y canlyniad, roedden nhw fel arfer yn eithriadol o falch o’u hymdrechion.

Mewn gwrthgyferbyniad amlwg â hyn oedd fy mhrofiad o addysgu’r un plant pan oeddynt yn wyth neu naw oed. Wrth neidio ymlaen rhyw bedair blynedd, gwelwn yn barod, mae’r plant yma wedi datblygu barn gadarn iawn ynglŷn ag a oedden nhw’n ‘dda’ am wneud rhywbeth, yn arbennig mewn perthynas â chelf, cerddoriaeth neu chwaraeon. Ynghlwm wrth hyn roedd gwrthwynebiad cadarn rhai i wneud eu gorau glas wrth fynd i’r afael â’r cyfryw orchwylion. O’u holi, roedd y cacoffoni o resymau’n rhannu themâu tebyg – ofn methu, gwneud camgymeriad, neu edrych yn wirion.

Mae dysgu drwy brofiadau, datrys problemau ac archwilio yn gysyniadau sy’n frith yn y Cyfnod Sylfaen, y cwricwlwm i blant tair i saith oed yng Nghymru. Er bod natur flaengar y Cyfnod Sylfaen yn cefnu’n radical ar ei ragflaenydd, y Cwricwlwm Cenedlaethol, fe atgyfnerthodd gyflwyniad y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol yn 2013 y disgwyliad y dylai sgiliau plant alinio â nodau cronolegol, drwy amlinellu’r sgiliau roedd disgwyl iddynt eu datblygu drwy bennu datganiadau deilliant ar gyfer disgyblion tair i 16 oed.

Fodd bynnag, er ei ffocws datblygiadol amlwg, mae addysgeg y Cyfnod Sylfaen, yn ei hanfod yn mynd yn groes i fesur cynnydd drwy roi ‘sgôr’ rhifiadol i blant.

Gyda chyfleoedd dysgu wedi’u categoreiddio’n bynciau â diffiniadau twt, efallai ein bod yn atgyfnerthu’r syniad bod gwneud yn ‘dda’ yn yr ysgol yn rhywbeth sy’n digwydd pan gewch chi sgôr uchel. Gan nad yw pynciau creadigol yn fesuradwy yn yr un ffordd rydym, yn anfwriadol, yn rhoi statws is iddynt. Go brin y bydd rhywun yn cyfeirio at eu hunain fel rhywun sy’n gwneud yn ‘dda’ yn yr ysgol os ydynt yn rhagori ar gerddoriaeth, celf neu chwaraeon.

Ni all fod yn gyd-ddigwyddiad nad oedd sgoriau’n cael eu haseinio i’r pynciau hyn, yn fy mhrofiad i, ac nid oeddynt fel arfer yn cael eu holi gan Estyn nac Ofstead, na’u dathlu, na’u graddio na’u rhannu’n genedlaethol nac yn y prosbectws ysgol. Rydym wedi creu hierarchaeth o bynciau, gyda llythrennedd a mathemateg ar y top a’r pynciau creadigol ar waelod y rhestr, fel yr awgryma Robinson.

Mae blynyddoedd ffurfiannol plentyn ym myd addysg yn frith o gyfleoedd i gasglu data drwy roi sgoriau rhifiadol, ond eto mae’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) yn awgrymu nad oes lawer o dystiolaeth bod hyn yn cyfoethogi eu profiadau dysgu.

O fewn wythnosau i ddechrau eu blwyddyn Derbyn, mae’n ofyniad yng Nghymru i blant gael eu mesur yn erbyn cyfres o ddeilliannau ac yna cyflwyno’r sgôr Proffil Cyfnod Sylfaen hwn i’r awdurdod lleol. Caiff hwn ei gasglu’n genedlaethol a’i ddefnyddio i dracio cynnydd plant a rhagfynegi deilliannau’r dyfodol. Yn ddim ond pedair oed, rydym yn aseinio sgoriau rhifiadol nad oes ganddynt, gellir dadlau, fawr o bwrpas ar wahân i roi ymarferwyr, rhieni a phlant ifanc dan straen gan atgyfnerthu blaenoriaethau cwricwlaidd ar yr un pryd.

Os rhoddir llai o bwys i bynciau fel celf, cerddoriaeth a chwaraeon trwy gydol y cyfnod cynradd, does dim rhyfedd bod plant yn colli eu hyder a’u parodrwydd i gymryd risgiau, arbrofi ac archwilio. Gan ein bod yn paratoi plant ar gyfer dyfodol anhysbys lle gall dawn ymgyfaddasu, datrys problemau ac arbrofi fod yn fantais, yna mae angen ailedrych ar werth pynciau creadigol yn y cwricwlwm newydd.

Yn hytrach na dim ond paratoi ein plant ar gyfer amgylcheddau ysgol ‘fawr’, addysg uwchradd, prifysgol neu fyd gwaith sy’n cael eu gyrru gan ddeilliannau, pam na wnawn ni ganiatáu iddyn nhw ymhyfrydu yn eu taith a meithrin datblygiad sgiliau a fydd yn orau eu paratoi ar gyfer bywyd, ac nid dim ond y cam nesaf…