Blog

Mae effaith pandemig COVID-19 ar ein system addysg wedi bod yn sylweddol ac mae pawb yn addasu i ffyrdd newydd o weithio. Yma, mae Linda Kelly yn ymchwilio i ba raddau y mae myfyrwyr coleg wedi cymryd rhan mewn dysgu ar-lein…

Cafodd fy ngharfan bresennol o fyfyrwyr eu geni gan mwyaf ar ôl y flwyddyn 2000. Nhw yw’r genhedlaeth ddigidol.

Maen nhw wedi tyfu i fyny gyda thechnoleg a’i heffaith ar bron pob agwedd ar eu bywydau bob dydd. Gallan nhw fanteisio swm o dechnoleg gwybodaeth na welwyd ei debyg o’r blaen, yn wir nid yw’r rhan fwyaf ohonyn nhw erioed wedi bod heb y rhyngrwyd. 

‘Cenhedlaeth Z’, neu ‘GenZ‘  neu  ‘zoomers‘ yw’r enw arnyn nhw.  Enw arall yw ‘iGenhedlaeth’,  neu, yn fyr, ‘iGens‘. 

Amcangyfrifir bod gan 80% o’r bobl ifanc hyn ffôn symudol ac yn ei ddefnyddio bob dydd. Bydd nifer yn mynd ar eu ffonau dros 70 gwaith y dydd. 

Yn wir, yn aml mae’n ymddangos eu bod nhw’n gaeth i’w ffonau a cholli’r rhain neu’u torri fyddai’r peth gwaethaf a allai ddigwydd iddyn nhw byth!

Maen nhw wedi tyfu i fyny gyda’r ‘Rhyngrwyd Pethau,’ maen nhw’n gyfarwydd â chynhyrchion cartref sydd â microsglodion ac sydd yn ‘glyfar’. Maen nhw’n siarad ag Alexa, neu Echo neu Siri i ofyn cwestiynau neu reoli offer cartref, i droi goleuadau a’r gwres ymlaen neu i ffwrdd, neu i wrando ar gerddoriaeth.

Mae’r iGens hefyd  wedi tyfu i fyny gydag offer dysgu digidol yn rhan annatod o’u haddysg. Maen nhw yn aml yn defnyddio’r un offer at ddibenion addysg ag at ddibenion personol. 

Mewn ysgolion a cholegau, mae ganddyn nhw fyrddau gwyn rhyngweithiol, cyflwyniadau PowerPoint, clipiau fideo a chyfryngau rhyngweithiol. Os nad ydyn nhw’n siŵr o rywbeth, maen nhw’n ‘gwglo’ ac yn gallu dod o hyd i symiau di-ben-draw o wybodaeth. 

Felly, os ydyn nhw’n feistri technolegol, os nad ydyn nhw byth wedi gwahanu oddi wrth eu dyfais symudol na mynediad i’r rhyngrwyd, pam nad ydyn nhw’n ymwneud yn llawn â dysgu ar-lein ar hyn o bryd? 

Anfonais i e-bost at fyfyrwyr o  dair carfan wahanol i gael gwybod. Dyma un yn ateb!  Mae’n amlwg nad  yw negeseuon e-bost at eu dant nhw! 

Fodd bynnag, roedd yr ateb yn gadarnhaol iawn:”Rwy’n hoffi dysgu ar-lein gan ei fod yn caniatáu i bawb gymryd rhan a siarad â’r athro, ac rwy’n hoffi’r ffaith ein bod ni’n gallu gwneud hynny o gysur ein cartref ein hunain. Yr unig broblem sydd gen i yw diffyg cymhelliant gydag gyda rhai gwersi a’i bod yn hawdd i bethau eraill fynd â’m sylw.”

Gofynnais hefyd i’r myfyrwyr beth oedd eu barn mewn cyfarfod Teams. Dywedodd y rhan fwyaf y byddai’n well ganddyn nhw fod yn y coleg a dyna fyddai eu hoff ddewis. Dywedodd rhai  nad oedden nhw yn hoffi aros i bobl ymuno â’r cyfarfod ar-lein cyn y gallai’r wers ddechrau. Dywedodd eraill fod y dechnoleg yn gyflymach o lawer gartref a bod pethau’n llwytho’n gynt. 

Dywedon nhw nad yw dysgu ar-lein yn brofiad wyneb yn wyneb. Gwnes i herio hyn, gan eu hatgoffa bod ein cyfarfodydd Teams yn rhai wyneb yn wyneb, ond nid yw’r rhan  fwyaf ohonyn nhw yn troi eu camerâu ymlaen. Pan ofynnwyd am y rheswm, doedden nhw ddim yn siŵr iawn. Dywedodd rhai mai’r rheswm am hynny oedd nad oedd cysondeb, roedd rhai athrawon yn eu gorfodi ac eraill ddim, ond fe waethon nhw gyfaddef, pan ofynnwyd iddyn nhw droi eu camerâu ymlaen, fod llawer yn dweud celwydd ac yn esgus nad yw’r camera’n gweithio.

Yn fy mhrofiad i, mae addysgu’n symud i ffwrdd oddi wrth fyfyrwyr sy’n eistedd mewn neuaddau darlithio ac sy’n cymryd nodiadau , mae dyddiau’r ‘sialc a siarad’ wedi hen fynd. Mae adborth gan fy nysgwyr yn awgrymu eu bod nhw’n awyddus i ymwneud â’r broses ddysgu a bod yn rhan lawn ohoni. Mae’r rhan fwyaf o’m myfyrwyr yn dysgu orau drwy wneud a mwynhau trafodaethau dosbarth ac amgylcheddau dysgu rhyngweithiol. Hefyd, mae’n well ganddynt ddysgu cydweithredol a rhannu syniadau a barn.

Felly efallai mai cynnwys yr hyn a ddysgir ar-lein yn hytrach na’r dull darparu yw’r broblem. Er ei bod hi’n amlwg nad yw eistedd o flaen cyfrifiadur am gyfnodau hir, fel sydd wedi digwydd yn ystod pandemig COVID-19, yn helpu.

Ar lawr dosbarth gall dysgu fod yn fwy egnïol, gall myfyrwyr symud o gwmpas ar gyfer gweithgareddau gwaith grŵp neu i roi adborth. Maen nhw’n mynd am seibiannau a chinio gyda’i gilydd ac yn gyffredinol mae’n fwy cymdeithasol.

Mae’n ymddangos i mi ei bod yn bryd dechrau arbrofi, er mwyn eu denu i ymgysylltu’n fwy. Mae syniad gan Brifysgol Ontario yn cynnwys cyflwyno munudau digidol i wers. Mae munud ddigidol yn un ciplun ar wythnos myfyriwr, gallai fod yn llun, yn ddyfyniad neu gerdd, lliw, neu ddolen, mewn gwirionedd unrhyw beth i ddisgrifio wythnos y person neu sut maen nhw’n teimlo. 

Cynhaliwyd yr ymchwil mewn pedwar cam ac edrychodd ar effeithiolrwydd defnyddio eiliadau digidol i greu cymunedau ar-lein dilys. Roedd pob cam yn cynnwys meintiau sampl rhwng 21 a 26 o fyfyrwyr ac yn defnyddio dulliau ansoddol i amseru teithiau’r myfyrwyr.

Nododd yr ymchwil fod munudau digidol yn cynyddu presenoldeb ac ymgysylltiad myfyrwyr. Canfu fod myfyrwyr  yn mwynhau rhyngweithio â’i gilydd ac roeddent yn dechrau cyrraedd yn gynnar ar gyfer gwersi. Nododd fod munudau digidol yn creu ymdeimlad o gymuned ac yn annog rhyngweithio cymdeithasol. 

Rwy’n mynd i gyflwyno hyn unwaith yr wythnos i bob carfan o’m myfyrwyr. Gofynnir i’r myfyrwyr ddod â munud ddigidol i’w rhannu. Mae’n amlwg bod rhaid i gamerâu fod ymlaen, a bydd yn rhaid i fyfyrwyr siarad â’i gilydd. Gellid arddangos eu munud ddigidol yn gefndir iddynt.

Bydd y drafodaeth yn rhoi pwrpas iddyn nhw wrth aros i eraill ymuno â’r cyfarfod. Bydd yn eu cadw’n brysur ac yn annog cyfathrebu. Gellir ei ddatblygu i gynnwys elfen o gystadleuaeth – y llun anifeiliaid anwes gorau, y mwgwd gorau, hoff anifail ac ati. 

Yn fy mhrofiad i, bu diffyg o ran ymwneud myfyrwyr â dysgu ar-lein yn ystod pandemig COVID-19. Yng Nghymru, nid yn unig y mae angen inni ddatrys materion mynediad, rwy’n credu bod angen inni edrych yn ofalus hefyd ar gynnwys y cwrs a sut y caiff ei ddarparu.

Rwy’n credu bod angen dybryd i wneud dysgu digidol yn fwy rhyngweithiol ac yn fwy  pleserus. Dylai dysgu fod yn hwyl –  gadewch i ni fynd ati i sicrhau hynny!

  • Mae Linda Kelly yn ddarlithydd mewn TG a Busnes yng Ngrŵp Colegau Castell-nedd Port Talbot, ac yn fyfyriwr ar raglen Doethuriaeth Addysg Athrofa