Blog

Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn heriol i bawb, yn enwedig i addysgwyr sydd wedi gorfod addasu i ffyrdd newydd o weithio ac ymateb i nifer o wahanol rwystrau. Ond daeth cyfleoedd yn sgil y pandemig hefyd, ac wrth i ni ddechrau weld eto haul ar fryn, mae’r Athrofa a’i hysgolion partner yn bwrw ati i barhau gyda’r gwaith o drawsnewid addysg a thrawsnewid bywydau. Anna Brychan sy’n dweud mwy…

Yr Athrofa yw Canolfan Addysg Y Drindod Dewi Sant, cartref addysg gychwynnol athrawon, dysgu proffesiynol, polisi addysg ac ymchwil. Ym mhob maes o’n gweithgarwch, rydym yn gweithio’n agos gyda 150+ o ysgolion partner ac amrywiaeth o bartneriaid a phobl eraill ledled Cymru a’r tu hwnt.

Rydym wedi cael nifer o drafodaethau’n ddiweddar am bwysigrwydd bod yn gysurus wrth ymdrin ag ansicrwydd yn ein maes. Debyg iawn mai ‘ansicrwydd’ yw un o’r geiriau a ddefnyddiwyd amlaf yn ystod y cyfnod diweddar; wedi’r cyfan, mae popeth yr oeddem wedi’i ystyried yn sicr wedi cael cryn ysgytwad.

O safbwynt Y Drindod Dewi Sant, mae mwy o sicrwydd ynghylch llawer o bethau erbyn hyn. Mae mwy o fyfyrwyr wrthi’n dychwelyd i’r campws, mae dysgu unwaith eto’n digwydd mewn modd cymunedol, yn y cnawd, ac yn cynnig cyfle am gyfarfyddiadau a chanfyddiadau serendipaidd.  Rydym hefyd bellach yn gallu gweld yn glir bod dysgu cyfunol yn cynnig cyfleoedd gwych i arloesi: mae cyfarfodydd yn gweithio’n dda iawn ar-lein pan nad oes rhaid i chi ystyried traffig neu barcio; bellach mae cyfarfyddiadau rhyngwladol ag ymarferwyr, arbenigwyr addysgeg ac athrawon yn fater o ‘ar ba ddiwrnod wnawn ni hyn?’ yn hytrach na, ‘fe rown ni wahoddiad iddyn nhw pan fyddan nhw yn y wlad hon nesaf’.  

Rydym hefyd wedi atgoffa ein hunain bod sicrwydd ym maes dysgu i’w werthfawrogi. Mae Neil Greshenfeld, cyfarwyddwr Canolfan Dechnoleg Sefydliad Technoleg Massachusetts yn ei fynegi’n well nag y gallwn i: ‘Mae ansicrwydd yn rhan annatod o’r broses o ddarganfod beth nad ydych chi’n ei wybod, nid gwendid i’w osgoi.’

Mae’r canfyddiad hwn yn allweddol i’n model o weithio yn yr Athrofa. Anogir ein darpar athrawon i gofleidio amheuon, i brofi, rhannu a mireinio eu harfer. Mae ein hymchwil yn canolbwyntio ar gefnogi ysgolion i weithio ar brosiectau lle nad yw’r atebion byth yn ddu a gwyn. Pan fyddwn yn datblygu rhaglenni dysgu proffesiynol, rydym yn gwneud hynny ar y cyd ag ysgolion, gan ofyn cwestiynau megis ‘beth yw dilyniant i fyfyriwr unigol?’, ‘Sut gallai hynny edrych?’ Rydym yn gwybod na fydd yn edrych yr un peth ar gyfer pob disgybl. Gyda’n gilydd, rydym yn llywio ffordd trwy ofod sy’n llawn gwybodaeth a syniadau sy’n cael eu herio.

Cynhelir y sgyrsiau hyn dros amser hefyd. Mae ein model yn seiliedig ar adeiladu perthynas gydol gyrfa â’n myfyrwyr a’n partneriaid. Rydym yn cynnig cyrsiau i fyfyrwyr ysgol er mwyn rhoi blas iddynt ar astudio yn y brifysgol, rhaglenni i’r rhai sydd am gymhwyso’n athrawon, cyrsiau arbenigol yn y cwricwlwm, addysgeg, arweinyddiaeth ac anghenion dysgu ychwanegol, i raddau meistr a doethuriaethau. Mae hyn yn rhoi cyfleoedd cyfoethog i ni ddysgu oddi wrth ein gilydd hefyd.

Ar ôl blwyddyn lle mae pob un ohonom wedi dyheu am fwy o sicrwydd a mwy o batrymau arferol mewn sawl rhan o’n bywydau, mae ein cydweithwyr mewn ysgolion a’u partneriaid mewn prifysgolion yn parhau’n argyhoeddedig, pan ddaw’n fater o ddysgu gyda’n gilydd, fod lle gwerthfawr i ansicrwydd yn ei holl flerwch creadigol, egnïol.

A dyfynnu’r ymchwilydd Americanaidd, Brene Brown: ‘Cawsom ein geni’n chwilfrydig. Ond dros amser, rydym yn dysgu y gall chwilfrydedd, yn yr un modd â breuder, arwain at gael ein brifo. O ganlyniad, rydym yn troi’n hunan amddiffynnol — gan ddewis sicrwydd yn hytrach na chwilfrydedd, arfwisg yn hytrach na breuder, a gwybod yn hytrach na dysgu.’

Mae’r cyffro a’r canfyddiadau yn dod o’r broses o ddysgu gyda’ngilydd. Bydd cadw pobl yn ddiogel yn dal i ddylanwadu ar y ffordd yr ydym yn gwneud pethau ond bydd yr egwyddorion sy’n llywio pam a’r hyn rydym yn ei ddysgu a’i addysgu yn ein gyrru o hyd. Rydym yn edrych ymlaen at hynny.