Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi lansio Canolfan Cydnerthedd a Harmoni Cymru ar ei champws yn Llambed.
Mae’r Ganolfan yn rhan o fenter Canolfan Tir Glas y Brifysgol, gweledigaeth newydd uchelgeisiol a beiddgar ar gyfer Llambed sy’n seiliedig ar adfywio economaidd. Y nod yw creu swyddi newydd, sefydlu’r dref yn gyrchfan bwysig i dwristiaid a denu mwy o fyfyrwyr i astudio ystod eang o raglenni yn Llambed.
Bydd Canolfan Cydnerthedd a Harmoni Cymru’n canolbwyntio ar feysydd sy’n ymwneud â lliniaru effeithiau newid hinsawdd ac addasu iddynt, darparu hyfforddiant sy’n ymwneud â byw’n gynaliadwy a gweithio mewn cymunedau gwledig yng Ngorllewin Cymru.
Ymhlith y siaradwyr ar y noson, a gynhaliwyd nos Wener 19 Tachwedd, roedd Athrawon Ymarfer y Drindod Dewi Sant a fydd yn cefnogi’r mentrau, yr Athro David Cadman, Yr Athro Simon Wright a’r Athro Richard Dunne, ynghyd â Julia Lim o Hwb Cydnerthedd Llambed, yr Athro Cysylltiol Nick Campion, Cyfarwyddwr Athrofa Harmoni, ac Anna Jones, Rheolwr Cenhadaeth Ddinesig a Chynaliadwyedd y Drindod Dewi Sant.
Yn dilyn y digwyddiad lansio cynhelir rhaglen o weithgareddau ar y thema ‘Dysgu o Natur’, gyda chyfraniadau gan academyddion, arbenigwyr yn y maes bwyd a ffermio, myfyrwyr, mentrau lleol a chymdeithasol. Bydd y rhaglen yn cynnwys sgyrsiau, arddangosfeydd, gweithgareddau ymarferol dan do ac awyr agored gan gynnwys teithiau tywys o amgylch y campws a’r dref. Bydd y gweithgareddau’n canolbwyntio ar y thema cydnerthedd, addysg, llesiant, bioamrywiaeth ac adfer natur.
Ystyrir y ddau ddigwyddiad yn gyfle i’r cyhoedd ymgysylltu â’r Brifysgol a chyfrannu at drafodaethau a gweithgareddau sy’n ymwneud â chydnerthedd ar ddechrau cyfnod newydd cyffrous i’r Brifysgol yn Llambed ac i’r gymuned y mae’n ei gwasanaethu.
Mae’r Brifysgol yn gweithio’n agos â Chyngor Sir Ceredigion, Coleg Ceredigion a Choleg Sir Gâr, Cyngor Tref Llambed, Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol ac amryw o bartneriaid eraill yn Llambed, Ceredigion a Chanolbarth Cymru i ddatblygu’r fenter i’w photensial llawn.
Dywedodd Gwilym Dyfri Jones, Profost campws Llambed: “Fel sefydliad craidd, mae’r Brifysgol yn cydnabod bod ganddi rôl ganolog i’w chwarae yn y gwaith o adfywio’r dref.
“Ryw dair blynedd yn ôl, cafodd y Brifysgol lythyr gan Grŵp Permaddiwylliant Llambed yn cynnig nifer o awgrymiadau ar gyfer datblygu yma yn Llambed. Canolbwyntiai’r awgrymiadau hynny ar y modd mae pryderon am ddyfodol cynaliadwy, yn enwedig ym maes cynhyrchu bwyd lleol, ynghyd â harddwch y dirwedd, yn denu pobl i’r ardal hon. Roedd yn cynnig cyfle i gydweithio i ddarparu man lle gallai pobl ddysgu sgiliau ymarferol a gwybodaeth ddamcaniaethol i ddatblygu’r cydnerthedd sydd ei angen arnom. Byddai’r cynllun hwn hefyd yn golygu y gallai pobl ifanc leol o ystod eang o alluoedd ddod o hyd i gyrsiau yma a fyddai’n eu galluogi i aros yn yr ardal i fyw ac i weithio.
“Bellach, dair blynedd yn ddiweddarach, yn sgil ymdrechion staff y brifysgol, Coleg Ceredigion a Choleg Sir Gâr ac, yn enwedig, aelodau Hwb Cydnerthedd Llambed, rydym wedi cyrraedd y fan lle gallwn lansio Canolfan Cydnerthedd a Harmoni Cymru yn ffurfiol.
“Mae’r Ganolfan yn ddatblygiad allweddol i’r Brifysgol yma yn Llambed. Mae’n rhan o weledigaeth newydd uchelgeisiol a beiddgar ar gyfer Llambed, o’r enw Canolfan Tir Glas, sy’n ceisio hwyluso a chyflymu twf economaidd yn Llambed a’r cyffiniau. Mae cryfhau cydnerthedd economaidd yn ganolog i’r weledigaeth a hynny, yn fwy na heb, trwy fanteisio ar yr ystod o asedau naturiol sy’n bodoli’n lleol.”
Meddai Selwyn Walters, Maer Tref Llambed: “Mae dyfodol y Brifysgol yn Llambed bob amser wedi bod yn agos at galonnau ein trigolion. Felly rydym yn croesawu menter Canolfan Tir Glas fel cynllun uchelgeisiol a fydd yn diffinio rôl Campws Llambed yn y dyfodol ac yn gwella’r enw da presennol sydd gan ein hardal fel canolfan amrywiaeth, cydnerthedd a chynaliadwyedd, nid yn unig yn genedlaethol ond yn rhyngwladol. Mae lansiad diweddar Canolfan Cydnerthedd a Harmoni Cymru yn Llambed yn gam cadarnhaol yn y broses hon, ac edrychwn ymlaen at ddatblygiad pellach y prosiect. ”
Meddai Julia Lim, o Hwb Ymaddasu Llambed: “Mae Hwb Ymaddasu Llambed yn edrych ymlaen at ein partneriaeth esblygol gyda’r Brifysgol a cholegau addysg bellach wrth i ni adeiladu strwythur cwrs newydd gyda’n gilydd sydd wedi’i wreiddio’n gadarn yn egwyddorion naturiol harmoni ac adfywio. Rydym yn awyddus i lansio’r cyntaf o’n cyrsiau newydd yn Llambed a dechrau arddangos y cyfoeth o adnoddau lleol a phobl sydd â sgiliau i’w rhannu”.
Ychwanegodd yr Athro Medwin Hughes, DL, Is-Ganghellor: “Mae datblygu Canolfan Cydnerthedd a Harmoni Cymru, yn rhan o fenter Canolfan Tir Glas, yn cynnig dyfodol cyffrous i gampws Llambed sy’n seiliedig ar ei leoliad yng Ngheredigion ac anghenion y cymunedau y mae’n eu gwasanaethu.
“Mae’r fenter yn adeiladu ar draddodiad academaidd cadarn y brifysgol ac yn ymateb i flaenoriaethau rhanbarthol. Rydym yn gweithio ar lawr gwlad i uwchsgilio, ailsgilio a chreu cyfleoedd i bobl leol ymgysylltu ag addysg a dod o hyd i waith yn agosach at adref a dal gafael ar y gwaith hwnnw. Mae’r cyfle i wneud hynny’n hanfodol i gynaliadwyedd ein cymunedau gwledig dwyieithog yma yng Nghymru”.
Gyda chymorth