BlogNewyddion

Mae cynaladwyedd wedi bod yn rhan o fy mywyd fel oedolyn. Treuliais fwy na 10 mlynedd yn byw oddi ar y grid, yn mwynhau bywyd araf ac yn gwerthfawrogi’r natur o’m cwmpas. Roeddwn yn falch iawn o gael y cyfle i fod yn intern INSPIRE ar gyfer Tir Glas ym mis Chwefror eleni.

Rwyf yn angerddol dros defaid a gwlân, ac rwyf wedi dangos yr un  brwdfrydedd tuag at y gwaith fel intern Tir Glas. Wrth weithio gydag un o’r Interniaid arall Sherika, rwyf wedi bod yn rhan o’r prosiect Mynd yn Wyrdd ar y campws yn Llambed, Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant  wedi gosod cyfres o welyau pridd pwrpasol yn ddiweddar  er mwyn i”r myfyrwyr dyfu eu ffrwythau a’u llysiau eu hunain, prosiect a arweiniwyd gan Shericka. Er gwaethaf fy nyheadau o ran tyddyn a chynaliadwyedd, rwy’n smonach ar dyfu pethau, ond rwy’n gwybod ychydig am baratoi’r tir – yn enwedig pan fo gwlân dan sylw. Mae gwlân yn dod yn fwy poblogaidd i’w ddefnyddio yn yr ardd am lawer o resymau; mae’n ychwanegu maetholion i’r pridd, yn helpu i amddiffyn tyfiant newydd rhag rhew hwyr, yn helpu i gadw dŵr ac yn atal gwlithod. Yn gynnar yn y flwyddyn, fe wnaethom orchuddio’r holl welyau pwrpasol gyda gwlân defaid o ffynonellau lleol er mwyn rhoi’r dechrau gorau posibl i fyfyrwyr Llambed i dyfu eu bwyd eu hunain.

Un o fy mhrosiectau mawr yn ystod fy interniaeth oedd arddangosfa Gwerth Gwlân, a oedd yn rhan o brosiect fy nhraethawd hir. Cynhaliwyd yr arddangosfa yn y llyfrgell ar gampws Llambed. Bwriad yr arddangosfa oedd i  edrych ar sut roedd gwlân yn rhan annatod o ddatblygiad gwareiddiad a gall hefyd ein helpu i adeiladu dyfodol mwy cynaliadwy. Mae gan wlân gymaint o briodweddau cynaliadwy gwych. Mae’n ddeunydd naturiol, bioddiraddadwy sydd gennym yn helaeth yng Nghymru oherwydd bod gennym lawer o ddefaid, ac mae angen eu cneifio er eu lles. Mae gwlân amrwd yn cynnwys lanolin, sydd nid yn unig yn dda i’r croen, ond hefyd yn golygu bod gwlân yn gwrthsefyll dŵr. Gall hyd yn oed gwlân glân lle mae’r lanolin wedi’i dynnu dal hyd at 20% o’i bwysau ei hun mewn dŵr cyn iddo ddechrau teimlo’n “wlyb”. Dyma’r priodweddau a wnaeth gwlân yn ddeunydd mor wych ar gyfer siwmperi’r pysgotwr enwog!

Prosiect mawr arall oedd y Fforwm Gwlân cymunedol. Mae gwlân wedi dioddef yn ystod y 200 mlynedd diwethaf, yn gyntaf gan gynnydd yr ymerodraeth gotwm, a yrrwyd gan y fasnach gaethweision ar draws yr Iwerydd, ac yna gan ddatblygiad ffibrau synthetig, fel neilon a polyester synthetig, yn y 1920au a’r 30au. Mewn blynyddoedd dig, mae pris gwlân wedi gostwng mor aruthrol nes bod llawer o ffermwyr yn llosgi, claddu neu’n rhoi eu clip i ffwrdd gan ei fod yn fwy cost effeithiol na’i werthu i’r bwrdd gwlân. Nod y Fforwm Gwlân oedd hwyluso confocasiynau am wlân gyda’r rhai sy’n ei gynhyrchu mewn lleoliad y teimlent yn gyfforddus ag ef. Roedd Vanessa yn Nhafarn Jem yn frwd iawn dros gynnal y digwyddiad a hyd yn oed wedi paratoi brechdanau cig moch i bawb! Yn ystod y fforwm, siaradais â chynhyrchwyr gwlân am y defnyddiau arloesol nad ydynt yn decstilau ar gyfer gwlân a allai helpu i adfer diwydiant gwlân Cymru os byddwn yn cydweithio! Rydym yn gobeithio cynnal mwy o gyfarfodydd fforwm gwlân yn ddiweddarach eleni, yn Nhafarn Jem ac mewn tafarn yn eich ardal chi!

Mae fy interniaeth gyda Tir Glas wedi rhoi sgiliau gwerthfawr i mi ar gyfer y dyfodol ac wedi dangos i mi sut y gallaf ddefnyddio fy angerdd yn fy ngyrfa. Rwyf wedi gwneud ffrindiau a chefnogwyr gwych yn Laura Cait a Hazel ac wedi cynnal prosiectau yn y brifysgol ac yn y gymuned sydd wedi cael effaith wirioneddol. Mae’r interniaeth wedi fy ysbrydoli i greu gyrfa mewn cynaliadwyedd ac rwyf wedi gwneud cais i’r Ganolfan Dechnoleg Amgen i astudio MSc Cynaliadwyedd a Newid Ymddygiad. Gwyliwch allan am fwy o brosiectau gwlanog yn Llambed yn y dyfodol agos!