BlogBulb

Mae’r Athrofa wedi bod yn cynorthwyo ysgolion ar draws De Cymru i wneud ymchwil agos-at-arfer yn eu hystafelloedd dosbarth eu hunain.Yma, yn y cyntaf o gyfres o flogiau, mae Jonathan Davies o Ysgol Gyfun Treorci yn egluro ei ran yn y prosiect ‘Ysgolion Ymchwil’…


Mae Ysgol Gyfun Treorci (YGT) wedi’i lleoli yng Nghwm Rhondda ac mae’n gwasanaethu cymuned wledig amrywiol a’r cymoedd cyfagos. Ar hyn o bryd mae 1606 o ddisgyblion ar y gofrestr gydag ychydig o dan 400 o ddisgyblion yn y 6ed dosbarth a hyd at 180 o staff, gyda 98 ohonynt yn staff addysgu. Mae tua 25% o’r disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim ac mae tua 41% o’r disgyblion yn byw yn yr 20% o ardaloedd mwyaf amddifad yng Nghymru. Ers blynyddoedd lawer, mae’r ysgol, dan arweiniad pennaeth hynod ymroddedig ac ysbrydoledig, wedi bod ar flaen y gad yn y byd addysg yng Nghymru gan sicrhau graddau rhagorol yn y tri arolygiad Estyn diwethaf. Ym mhob un o’r rhain, disgrifiwyd amrywiol strategaethau fel rhai sy’n arwain y sector (e.e. Dwyieithrwydd, y system Fugeiliol a Phartneriaeth i enwi ond rhai).

Rhesymwaith

Mae ymchwil agos-at-arfer yn datblygu’n un o’r prif ddulliau o gefnogi datblygiad a gwelliant ysgol gyfan. Mae’r rhesymau am hyn yn ddeublyg; gall staff ddatblygu eu datblygiad proffesiynol eu hunain a gall disgyblion elwa o gael eu haddysgu a’u cefnogi gan aelodau staff cymwys iawn, oll yn unol â Chenhadaeth ein Cenedl. Mae’r blog hwn yn canolbwyntio ar brosiect ymchwil lle bu addysgwyr athrawon ac ymarferwyr dosbarth yn cydweithio mewn astudiaethau ymchwil agos-at-arfer i ystyried Lles staff a disgyblion yn yr ysgol.

Fel ysgol Arweiniol o fewn Partneriaeth Dysgu Proffesiynol yr Athrofa (PDPA), cawsom ni (YGT) gyfle i fod yn rhan o ddatblygu ymchwil (o fewn ysgolion) yn gysylltiedig â datblygu’r rhaglen newydd ar gyfer Addysg Athrawon. Roedd hwn yn argymhelliad yn adroddiad John Furlong, ‘Addysgu Athrawon Yfory’. Roedd yr adroddiad hefyd yn nodi:

  • Dylai athrawon ac addysgwyr athrawon ymgysylltu ag ymchwil, nid yn unig fel defnyddwyr craff, ond hefyd fel y gallant gynnal eu hymholiadau eu hunain;
  • Mae’n hanfodol fod ysgolion a phrifysgolion yn cydweithio o ran hyfforddi a datblygu athrawon.

Gan weithio mewn partneriaeth â PDPA, gweithredwyd y canlynol i gynorthwyo staff i ddatblygu techneg ymchwil:

  • Paru darlithydd o’r brifysgol gyda phob ysgol;
  • Sgyrsiau dysgu yn seiliedig ar;
  • Ddibenion ymchwil;
  • Dylunio ymchwil;
  • Moeseg;
  • Adolygiadau llenyddiaeth;
  • Dadansoddi data/codio.

Y Prosiect Ymchwil
Cred yr ysgol yn gryf fod angen sgiliau annibyniaeth a chyd-ddibyniaeth ar bob disgybl i sicrhau llwyddiant yn yr ysgol ac yn y dyfodol. Rhaid rhoi cymorth a hyfforddiant i ddisgyblion i ddatblygu’r sgiliau hyn ynghyd â chyfleoedd i’w datblygu yn ystod y diwrnod ysgol. Bu’r sgiliau  hyn yn flaenllaw yng Nghynllun Gwella’r Ysgol (CGY) dros y blynyddoedd diwethaf ac yn fwyaf diweddar, gwnaed newidiadau arwyddocaol i wythnos yr ysgol a’r cwricwlwm i gefnogi’r weledigaeth hon. Yn ystod y flwyddyn academaidd 2017-18, gweithredwyd y ddwy strategaeth ganlynol i gefnogi lles staff a disgyblion ynghyd â datblygu ymddygiadau annibynnol disgyblion:

1. Yr wythnos anghymesur

Mae’r wythnos anghymesur ar ffurf amserlen pythefnos gyda mwy o oriau o ddydd Llun i ddydd Iau a diwrnod byrrach ar ddydd Gwener.  Dros y cyfnod o bythefnos, mae un dydd Gwener yn caniatáu i staff fynychu cyfarfodydd adran ac arweinyddiaeth sydd hefyd yn cynnwys cyfleoedd am ddatblygiad proffesiynol parhaus. Mae’r ail ddydd Gwener yn cynnig cyfle i staff adael yr ysgol yn gynnar (90 munud) a allai gynnwys; mynd i’r gampfa, cael penwythnos hir, casglu plant o’r ysgol, cwblhau gwaith cyn y penwythnos, ac ati. Ymhellach, mae datblygu’r wythnos anghymesur, gyda gwersi wedi’u cwtogi o 5 munud, wedi galluogi gweithredu  amser ‘Paratoi’ deirgwaith yr wythnos i ddisgyblion ym Mlynyddoedd 7 i 11.

2. Datblygu amser Paratoi yng Nghyfnodau Allweddol 3 a 4 (i ddatblygu sgiliau annibynnol a cyd-ddibynnol)

Lluniwyd amser paratoi i ddisgyblion ddatblygu eu sgiliau annibynnol a chyd-ddibynnol o fewn y cwricwlwm. Diben y sesiynau Paratoi yw datblygu sgiliau megis cydnerthedd, annibyniaeth a chyd-ddibyniaeth trwy amrywiol weithgareddau, gan hefyd gynnig amser i ddisgyblion ddechrau gwaith cartref, testunau ymchwil a diweddaru’u hunain ar faterion cyfoes trwy ddarllen papurau newydd a defnyddio technolegau. Mae cynllun y sesiynau Paratoi hefyd yn darparu cymorth ‘cofleidiol’ ar gyfer anghenion bugeiliol o fewn pob grŵp blwyddyn wrth i’r Anogwyr Dysgu (Tiwtoriaid Dosbarth) gwrdd â’u grŵp bob bore a’r wers olaf bob yn ail ddiwrnod i ddarparu’r wers bwrpasol hon. Mae’r gwersi i gyd yn cael eu harwain a’u cefnogi gan Anogwyr Dysgu hyfforddedig, sy’n derbyn adnoddau a chynlluniau ar gyfer y gwersi wythnosol.  

O fewn y prosiect ymchwil, bu tîm o staff, a benodwyd o amrywiol adrannau ac sy’n gwahaniaethu o ran profiad, yn ystyried:

  1. beth fu effaith ganfyddedig yr wythnos anghymesur newydd ar ddisgyblion a staff;
  2. sut mae disgyblion wedi datblygu eu sgiliau annibynnol dros y ddwy flynedd ddiwethaf ac;
  3. i ba raddau mae’r newidiadau hynny’n gysylltiedig â’r newidiadau strategol arwyddocaol a weithredwyd.

Beth ydyn ni wedi’i ddysgu?

Fel ysgol roeddem ni’n newydd iawn i ymchwil ac yn fuan ar ôl dechrau’r prosiect, daethom i sylweddoli maint y dasg dan sylw. Y bwriad gwreiddiol oedd canolbwyntio ar hyn am flwyddyn ond buan y sylweddolom yr angen i ymestyn y prosiect dros ddwy flynedd. Pwrpas hyn oedd caniatáu i’r ymchwil gael set o ddata sylfaenol, data canol prosiect a set derfynol. Roedd hyn wedyn yn caniatáu i ni ystyried unrhyw effaith. Roedd y tîm o staff wedi gwirfoddoli ar gyfer y prosiect ac roeddent yn awyddus i ddysgu a bod yn rhan o’r prosiect cydweithredol hwn gyda’r Brifysgol. Erbyn y diwedd, roedd cynrychiolaeth o bump allan o’r chwe Maes Dysgu a Phrofiad.

Roedd ymgymryd â phrosiect o’r fath yn cynnig rhai heriau. Roedd y rhain yn cynnwys:

  • Dyraniad amser (cyllid i staff gwblhau’r casgliadau data a dadansoddi’r canlyniadau);
  • Gweithio mewn ysgol o faint sylweddol (Disgyblion a Staff) – ystyried; maint grwpiau ffocws ac amlder cyfarfodydd;
  • Deall a gweithio gyda data ar lefel ymchwil – codio;
  • Paratoi a chwblhau ffurflenni Moesegol;
  • Diystyru unrhyw syniadau rhagdybiedig a bod yn gwbl ddiduedd.

Un her sylweddol oedd y newid mewn staff o fewn y tîm ac o fewn yr ysgol. Yn gyffredinol roedd hyn yn gysylltiedig â dyrchafiad i ysgolion eraill. Cafodd hyn effaith ar y data a gasglwyd a’r rhai oedd yn ymwneud â’r prosiect ei hun. Fodd bynnag, buan y llenwyd y bylchau a adawyd gan rai o staff y prosiect gan staff brwdfrydig a pharod a fu’n rhan o’r prosiect mewn ffyrdd eraill. Mewn nifer o ffyrdd roedd hyn yn gyfle o’r newydd i bawb i ailaddasu a chael ffocws newydd ar gyfer yr ail flwyddyn.

Gan ystyried yr uchod, aeth y Prosiect yn hwylus iawn a thrwy’r tîm o staff ymroddgar ac ymroddedig, ynghyd â chefnogaeth ardderchog gan PDPA, llwyddom i ddod i gasgliadau a ffurfio argymhelliad ar sail y cwestiynau allweddol a ofynnwyd. Fel gydag unrhyw brosiect da, roedd llinellau amser priodol, cyfathrebu ardderchog a rhesymwaith glir yn sail i’r gwaith.

Un o brif gasgliadau’r prosiect oedd nad oes raid i ymchwil fod yn ddarn o waith ar raddfa eang. Rhaid iddo, fodd bynnag, gael gweithdrefnau a disgwyliadau clir a chyn dechrau prosiect dylid ystyried y cwestiynau canlynol;

  • Pam rydyn ni’n gwneud hyn?
  • Beth fyddwn ni’n ennill ohono?
  • Pwy fydd yn elwa ohono?

Os bydd yr uchod yn darparu datblygiad parhaus a chyfleoedd i bob rhanddeiliad yn yr ysgol, yna dyna yw’r peth iawn i wneud.

Y Camau Nesaf

O ganlyniad i ymwneud â’r prosiect ymchwil hwn, ac yn unol â chynllun y Cwricwlwm i Gymru, mae’r ysgol yn manteisio ar gyfleoedd i gefnogi ymchwil agos-at-arfer trwy ddatblygu prosiectau eraill i edrych ar feysydd megis:

  • Datblygu Maes Dysgu a Phrofiad y Celfyddydau Mynegiannol;
  • Asesu ar gyfer Dysgu ar draws yr ysgol;
  • Effaith gwaith cartref ar y dysgwr.

Leave a Reply

Your email address will not be published.

Post comment