Yn dilyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i ailagor ysgolion Cymru ar Fehefin 29ain, mae Nerys Defis yn ystyried rhai o’r heriau sydd ynghlwm â dysgu o bell, a’i effaith ar ysgolion, athrawon, disgyblion a rhieni…
Yn dilyn holl effeithiau pandemig COVID-19 ar ein bywydau, ystyria rhai bod ailagor ysgolion Cymru ar ddiwedd mis Mehefin, yn arwydd bod pethau’n dychwelyd i rywfaint o normalrwydd. Wedi’r cyfan, mae’n galluogi addysg i ail-ymgartrefu yn ei gynefin – yr ystafell ddosbarth.
Mewn gwirionedd, bydd ein plant yn dychwelyd i ystafelloedd dosbarth gwahanol iawn i’r cyfarwydd. Ar gyfer gweddill tymor yr haf, ymweliadau ysbeidiol gyda’r ysgol fydd y ‘normal-newydd’, nid wythnos ysgol Llun i ddydd Gwener. Bydd y niferoedd o blant ym mhob dosbarth dipyn yn llai, ac ni fydd rhai disgyblion yn dychwelyd o gwbl cyn mis Medi.
Yn ôl canllawiau Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd ar Fehefin 10fed, mae’n debygol mai dim ond traean o’r disgyblion fydd yn gallu mynychu’r ysgol ar unrhyw un adeg. O ganlyniad, p’un ai fydd eu plant yn dychwelyd i’r ysgol ai peidio, am y rhan fwyaf o’r wythnos bydd rhieni’n parhau i addysgu eu plant o adref.
Mae’r profiad o addysgu o adref wedi bod yn agoriad llygad i lawer o rieni. Gall ysgogi eich plant i gwblhau tasgau fod yn her; gall rhai dulliau addysgu fod wedi newid ers eich cyfnod chi yn yr ysgol; a gall gweithio gyda’ch plentyn fod yn brofiad arbennig ac yn un i’w drysori hefyd.
I athrawon, aethpwyd ati i ddechrau addysgu ar-lein bron dros nos. Roedd angen bwrw iddi ar unwaith gan osod tasgau ar lwyfannau fel Google Classrooms, ac addasu adnoddau a gwersi. Does dim dwywaith fod ein gweithlu addysg wedi datblygu ystod eang o sgiliau technolegol dros yr wythnosau diwethaf, er mwyn medru parhau i gyfleu eu gwersi a’u syniadau dysgu i’r disgyblion – ond o bell.
Yn yr enghreifftiau gorau, mae athrawon (a staff cynorthwyol) wedi llwyddo i addasu eu haddysgu arferol, wyneb-yn-wyneb mewn ffyrdd creadigol wrth ddarparu profiadau addysgu ar-lein. Fel enghreifftiau o hyn maent wedi darparu fideos recoridio sgrîn; creu clipiau fideo i egluro ac arddangos; ac wedi bod yn barod i fodelu, cysylltu a hyd yn oed canu i’w disgyblion, tra’n defnyddio amrywiaeth o apiau a meddalwedd.
Serch hynny, nid yw pob athro wedi teimlo’n gyfforddus wrth orfod newid i addysgu o bell. Rhesymau posib dros hyn yw diffyg amser i addasu, salwch, absenoldeb a hyd yn oed diffyg hyder. Er bod rhai ysgolion a dosbarthiadau’n paratoi deunyddiau wedi’u haddasu’n dda ar gyfer eu disgyblion, mae eraill yn parhau i weithio mewn modd mwy traddodiadol.
Ceir tasgau wedi’u rhestru, ac mae darnau o lyfrau gwaith a thaflenni gwaith PDF yn cael eu copïo ar-lein. Yn yr enghreifftiau hyn tueddir i osod gweithgareddau caeedig, yn hytrach na rhai penagored, gyda phosibiliadau gwahaniaethu a chyfleoedd i gynnwys llais y disgybl yn brin.
Nid mater o osod tasgau ar fformat digidol yw addysgu ar-lein effeithiol. Dyma farn a rennir gan arbenigwyr mewn addysgu ar-lein megis y Brifysgol Agored, sefydliad wnaeth ddechrau gosod cyrsiau yn gyfan gwbl ar-lein bron i 20 mlynedd yn ôl. Fodd bynnag, er nad yw addysgu ar-lein yn newydd wrth ddarparu addysg uwch, nac i raddau llai wrth ddarparu addysgu uwchradd; o fewn y sector cynradd mae’n torri tir newydd. Yn sicr, nid yw addysgu ar-lein effeithiol yn rhywbeth sydd wedi ei archwilio’n fanwl o fewn y sector cynradd.
Un agwedd sydd wedi cael ei archwilio fwy fwy dros y cyfnod clo, yw safbwynt y dysgwyr o’r profiad o addysgu ar-lein. Mae’r dystiolaeth hyd yn hyn yn awgrymu bod y profiad yn un amrywiol ac anghyson. Mae ffactorau megis natur y ddarpariaeth; mynediad disgyblion at y ddarpariaeth; a’r gefnogaeth sydd ar gael, i gyd yn medru cael effaith.
Mae’r amrywiaeth hwn yn cael ei amlygu yn adroddiad ‘Schoolwork in lockdown’ gan Sefydliad Addysg UCL. Darganfyddodd yr Athro Francis Green bod y math o waith a ddarperir yn amrywio’n helaeth, a bod gwahaniaeth yn yr amser mae disgyblion yn treulio ar waith ysgol. Darganfyddwyd, yn ddigon trawiadol, bod 21.6% o’r disgyblion a holwyd yng Nghymru yn gwneud llai nag awr y dydd neu ddim gwaith ysgol o gwbl. O fewn y Deyrnas Unedig, dim ond yr Alban oedd â chyfradd uwch, ar 26%.
Yn ogystal, roedd y ddarpariaeth gaiff disgyblion o Gymru ychydig yn wahanol i’r hyn a welwyd mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig. Awgryma’r ymchwil bod disgyblion yng Nghymru yn derbyn llai o wersi ar-lein na rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig: 14.6% o ddisgyblion yng Nghymru yn derbyn pedair neu fwy o wersi ar-lein y dydd, o’i gymharu â’r gyfradd uchaf o 28% o ddisgyblion yn ne-ddwyrain Lloegr.
Roedd natur y ddarpariaeth yng Nghymru yn wahanol hefyd, gyda dim ond 2% o ddigyblion Cymru yn derbyn addysgu ar-lein ‘byw’, o’i gymharu â 12.5% o ddisgyblion a holwyd yn Llundain.
Yr hyn nad yw fel pe bai’n cael ei ystyried yn adroddiad yr Athro Green, yw bod penderfyniadau polisi rhai awdurdodau lleol yng Nghymru yn effeithio ar ddewisiadau athrawon o ran darparu gwersi ar-lein, megis cynghori athrawon i beidio addysgu sesiynau ar-lein heb fod dau aelod o staff yn bresennol.
Yn ogystal, nid oes trafodaeth yn yr adroddiad o dasgau sy’n gofyn am waith dyddiol wrth y disgyblion, ond nid o reidrwydd wrth weithio fesul gwers. Gellid ystyried tasgau estynedig, prosiectau, a gweithgareddau sy’n rhoi cyfle i’r disgybl weithio’n annibynnol, neu’n greadigol, dros gyfnod o nifer o wersi fel enghreifftiau o hyn.
Fodd bynnag, mae’r brif neges yn adroddiad Schoolwork in lockdown yn ymddangos yr un mor berthnasol i Gymru ag i ardaloedd eraill y Deyrnas Unedig, sef hyn: “The closure of schools, and their only-partial re-opening, constitute a potential threat to the educational development of a generation of children.” Ymhellach, mae’r bygythiad hwn i’w weld yn effeithio’n drwm ar ddatblygiad addysgiadol disgyblion o ardaloedd neu gefndiroedd difreintiedig.
Un agwedd o addysgu ar-lein sy’n effeithio disgyblion difreintiedig yn benodol yw cael mynediad at y gwaith. I rai dysgwyr, gall y ddarpariaeth ar-lein fod yn wych ond ychydig iawn o gyfle sydd ganddynt i ymwneud ag ef.
Yng nghynllun gweithredu Llywodraeth Cymru ‘Cenhadaeth ein Cenedl’, mae’r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams yn datgan ei bwriad i sicrhau “nad yw’r un plentyn yn cael ei adael ar ôl”. Un esiampl o hyn oedd cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ar Ebrill 29ain fod pecyn cymorth gwerth £3m ar gael i gefnogi disgyblion sydd “wedi’u hallgáu o’r byd digidol” yn ystod y pandemig coronafeirws.
Ymddengys felly, bod Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o’r heriau sy’n wynebu plant difreintiedig a’u bod yn cymryd camau cadarnhaol er mwyn eu cefnogi. Ar y llaw arall, gorfod defnyddio hen offer technolegol neu orfod rhannu offer gydag aelodau eraill sydd yn creu rhwystr i ddysgwyr eraill. O ychwanegu problemau gyda chysylltiad rhyngrwyd mewn rhai ardaloedd o Gymru at hyn, mae pob math o broblemau yn ymwneud gyda mynediad gydag ysgolion ac awdurdodau lleol i’w hystyried.
Wrth i ni edrych at y trefniadau hirdymor ar gyfer darparu addysg ar-lein i’n disgyblion, mae’n werth gwrando ar farn plant Cymru. Barn sydd i’w chael yn arolwg Comisiynydd Plant Cymru, ‘Coronafeirws a fi’. Gwnaeth dros 23,700 o blant rhwng tair a deunaw oed gymryd rhan yn yr arolwg, gan ymateb i gwestiynau ar faterion megis chwarae a hamdden, teimladau ac addysg.
Mae atebion ‘testun rhydd’ yr arolwg yn cyfleu’r effaith mae cau ysgolion wedi ei gael ar fywydau plant mewn modd na all rhifau a ffeithiau ei wneud. Mae sylwadau gan ddisgyblion blwyddyn chwech yn amlygu’r colli cyfle i ddod i oed, wrth symud o addysg gynradd i addysg uwchradd.
Canslo arholiadau yw un o brif ofidiau disgyblion hŷn o fewn y sector uwchradd, gyda rhai yn teimlo dicter wrth ystyried bod eu gwaith paratoi i’r arholiadau fel petai wedi bod yn wastraff llwyr.
Mae’r arolwg hefyd yn cyfleu’r teimlad o fod yn ynysig. Wrth holi’r disgyblion sut allent gael ei helpu ymhellach atebodd nifer o blant a phobl ifanc y byddent yn hoffi cael “mwy o gefnogaeth a chyswllt gan yr ysgol”.
Mae ymchwil i addysgu ar-lein yn dangos bod dysgwyr yn medru teimlo’n unig ac ynysig os nad oes trefniadau bugeiliol gofalus mewn lle. Gall diffyg cefnogaeth gyda gwaith ysgol gyfrannu ar yr unigedd hwn. Er enghraifft, diffyg cefnogaeth yn y cartref, neu ddiffyg cyswllt rhwng disgyblion a’r ysgol.
Mae rhai ysgolion yn cysylltu gyda disgyblion a rhieni yn ddyddiol, ond nid yw hyn yn ymarferol i bawb. Yn ogystal, hyd yn oed pan fo ysgolion yn cysylltu’n rheolaidd gyda’u disgyblion , gall negeseuon a galwadau ffôn gael eu hanwybyddu, heb unrhyw bosibilrwydd i staff fod yn sicr a yw pob dysgwr yn ymdopi’n dda.
Mewn gwirionedd, ychydig iawn o gyfleoedd i adfyfyrio sydd wedi bod ers symud i addysgu ar-lein yn sgìl y ‘clo mawr’. Heb os nac oni bai, nid problem unigryw i Gymru mo hyn. Mewn adroddiad annibynnol i UNESCO yn edrych ar ddulliau addysgu ar-lein yn ystod cau ysgolion oherwydd COVID-19, gwelwyd ar adeg ysgrifennu’r adroddiad ym Mawrth 2020, bod 165 o wledydd wedi cau eu hysgolion fel rhan o strategaeth i arafu lledaeniad y feirws. Roedd hyn yn effeithio 1.5 biliwn o fyfyrwyr ledled y byd.
Awgryma adroddiad UNESCO, dylid cynllunio addysg mewn tri cham yn ystod y pandemig. Yng Nghymru, mae’r cam cyntaf wedi digwydd, gydag ysgolion yn cael eu cau o ran diogelwch. Yn naturiol, yr ystyriaeth hon o ddiogelwch yw’r elfen bwysicaf.
Ar hyn o bryd, rydym yng nghanol yr ail gam o gynllunio addysg yn ystod y pandemig. Mae arferion yn cael eu datblygu; atebion hirdymor yn cael eu hystyried i’r heriau o addysgu ar-lein ac o bell.
Unwaith eto, gwelwn fod y drefn o gau ysgolion ym mhedwar ban y byd yn amlygu a gwaethygu’r annhegwch sydd eisoes yn bodoli o fewn systemau addysg. Fodd bynnag, mae’r adroddiad hefyd yn ystyried y gallai mentro ac arloesi gydag addysgeg a dulliau dysgu cyfunol yn ystod y cyfnod hwn sicrhau gwell cyfleoedd i bawb: “inclusive and equitable education for all”.
Y cwestiwn i’r sector addysg yng Nghymru yw – sut gallwn ni gyflawni a chyflwyno addysg sy’n gynhwysol ac yn deg i bawb? Mewn cymhariaeth â llawer o wledydd, mae Cymru mewn sefyllfa gymharol gref. Mae atebion technolegol i broblemau a dysgu cyfunol yn bosibilrwydd gwirioneddol. Mae’r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno platfform dysgu Hwb, ac ychwanegu cyfres ehangach o feddalwedd ato yn 2019, bellach yn edrych fel gweledigaeth athrylithgar. Mae’r seiliau technolegol eisoes gennym.
Bydd datblygiad proffesiynol pellach athrawon yn allweddol wrth symud ymlaen a sicrhau bod platfform Hwb yn cael ei ddefnyddio i’w botensial llawn. Fodd bynnag, mae adroddiad UNESCO hefyd yn pwysleisio y dylai addysgu fod yn canolbwyntio ar ddatblygiad y plentyn cyfan. Bydd technoleg yn bwysig wrth gynorthwyo’r broses ddysgu, ond mae’n bwysig cofio ei fod hefyd yn ffordd o gyfathrebu a chefnogi – ar gyfer disgyblion, rhieni, ac i athrawon a’r gymuned addysgu.
“The point is to ensure teachers have the resources, skills, support and conditions to teach, and that students have the resources, infrastructure and support to learn.”
(Thinking about Pedagogy in an Unfolding Pandemic, t.1)
- Mae Nerys Defis yn Ddarlithydd yn adran Addysg Athrawon Yr Athrofa