Blog

Cyn i’r eiliad fynd yn angof, mae staff a darpar athrawon o’r Athrofa: Canolfan Addysg Athrawon yn disgrifio datblygiad cadarnhaol o ran arfer…

Dychmygwch fod yn ddarpar athro mewn pandemig byd-eang.   Mae beth bynnag oedd i’w ddisgwyl o ran bywyd ar raglen Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) yn wir wedi’i ail-ddychmygu a’i ail-ddyfeisio – weithiau heb fawr o rybudd ac amser cyfyngedig i baratoi.  

I ddarpar athrawon, yn eu sefyllfa unigryw o fod yn ddysgwr ac yn athro ar yr un pryd, mae hwn wedi bod yn gyfnod heriol.  Un funud maen nhw’n dysgu sut i ddysgu drostyn nhw eu hunain yn y byd hwn o brofiadau cydamserol ac anghydamserol, y funud nesaf maen nhw’n ceisio defnyddio beth maen nhw wedi’i ddysgu fel athrawon plant a phobl ifanc.  Nid yw’n dasg hawdd.

Ar yr un pryd, ar ein campws sydd ar-lein yn bennaf, mae’r tîm AGA wedi bod yn gweithio allan sut i gyflwyno’r rhaglenni gan gynnal rhyw lun ar drefn sy’n rhoi hyder i’r myfyrwyr a’r darlithwyr fel ei gilydd.  Tasg anodd  arall.

Ac eto, ynghanol newid ac ansicrwydd cyson, mae nifer o arferion gwerthfawr yn dechrau dod i’r amlwg ac mae’n bwysig dal y rhain cyn i’r eiliad fynd yn angof. Un enghraifft sy’n haeddu ei harchwilio’n fanylach yw rôl y cynrychiolydd darpar athrawon neu’r ‘cynrychiolydd grŵp’.

Mae rôl y cynrychiolydd grŵp yn un bwysig ac nid ar chwarae bach y mae ymgymryd â hi.  Mae’n ddeniadol iawn i lawer: y cyfle i feithrin perthnasoedd â chyd-fyfyrwyr a chael eistedd wrth y bwrdd o ran dylanwadu ar brosesau gwneud penderfyniadau; y cyfle i ddatblygu sgiliau bywyd hollbwysig, gan gynnwys arweinyddiaeth a gwaith tîm; ac mae’n ychwanegiad gwych at CV.  

Er hynny, nid yw’n rôl i’r gwangalon: mae’n gofyn am rywfaint o danbeidrwydd i sefyll o blaid eich cyd-fyfyrwyr a chynrychioli safbwyntiau amrywiol, hyd yn oed pryd maen nhw’n gwrthdaro â’ch rhai eich hun.  Mae’n gofyn am amser, tact a dycnwch, ond pwy allai fod wedi rhagweld pa mor hanfodol y byddai rhinweddau o’r fath pan gychwynnon ni ar ein taith AGA gyda’n gilydd yng nghanol pandemig byd-eang?

Yn gonfensiynol, bydd cyfarfodydd staff/myfyrwyr ffurfiol yn cael eu cynnal deirgwaith y flwyddyn, a thra oedd y cyfarfodydd hyn bob amser yn ymdrech ar y cyd ac yn gyffredinol yn gadarnhaol, maen nhw wedi’u seilio ar fodel o drosglwyddo deialog; rydych chi’n dweud wrthym ni beth sydd a beth nad yw’n gweithio, ac rydym ni’n dweud wrthych chi beth gallwn a beth na allwn ei wneud yn well.

Er gwaethaf pob ymdrech ar ein rhan i symud tuag at ddeialog fwy cydweithredol lle oedd mwy o bosibilrwydd i lunio rhaglenni ar y cyd, yn hanesyddol ni lwyddon ni’n gyfan gwbl i gyflawni hyn yn ein cyfarfodydd staff/myfyrwyr – nid oeddem yn y lle deallusol, proffesiynol na chwaith cymdeithasol i hyn ddigwydd.

Pan newidiwyd ym Mawrth 2020 i ddysgu ar-lein gyda sydynrwydd syfrdanol, gwyddem na fyddai’r cyfarfodydd teirgwaith y flwyddyn yn ddigon a bod angen rhywbeth gwahanol er mwyn cynnal cyfathrebu ystyrlon â’n carfannau.  Ac felly trefnwyd cyfarfodydd anffurfiol ychwanegol gyda chynrychiolwyr grŵp gyda’r hwyr i’w cynnal bob pythefnos.  Y cyfarfodydd hyn oedd dechrau ein taith i le newydd mwy cydweithredol…

Y daith: symud o adborth i gydweithredwr

Yn ddiau mae’r cynrychiolwyr wedi chwarae rhan hanfodol drwy ddarparu ffenest i brofiadau go iawn ein darpar athrawon, gan weithredu’n llefarwyr dros yr unigolion maen nhw’n eu cynrychioli.  Ond mae eu swyddogaeth wedi datblygu i fod gymaint yn fwy na hynny; wrth i ni barhau i gwrdd yn ystod yr wythnosau cynnar hynny, newidiodd rhywbeth yn sylfaenol. Mae’n amhosibl nodi’n union pryd digwyddodd y trawsnewid; nid oes eiliad penodol o sylweddoli syfrdan pryd gallen ni hawlio bod y newid wedi digwydd, ond yn ddiau fe newidiodd pethau.

Yn gyntaf, mae’n bosibl tybio, yn rhy aml o lawer, fod cyfarfodydd cynrychiolwyr grŵp yn gallu arwain at blatfform i fyfyrwyr gwyno.  Nid yw hynny’n gwadu pwysigrwydd cwyno – mae’n caniatáu mynegi eiliadau o argyfwng ac angen i godi llais, a gall hyn fod yn aruthrol o gathartig.  Wedi’r cyfan, mae mynd i’r afael â’r doreth o heriau sydd wedi eu hanelu tuag atom ni wrth i ni addasu i’r byd gyda Covid a ffyrdd newydd o weithio wedi rhoi achos i bob un ohonom gwyno.   

Fodd bynnag, agwedd allweddol ar gyfarfodydd anffurfiol newydd y cynrychiolwyr yw’r rhagosodiad sylfaenol bod yr holl ‘broblemau’ a osodir gerbron yn gofyn am ‘ateb’ posibl hefyd; mae hyn yn caniatáu i ni fynd i’r afael â materion sy’n aml yn gymhleth, mewn ffordd fwy cynhyrchiol.  Er enghraifft, mater arwyddocaol a godwyd ar y dechrau oedd profiadau myfyrwyr o ddysgu ar-lein.  Sonion nhw am anawsterau ymgymryd â sesiynau cydamserol hir, a’r problemau a ddaeth i’w rhan ynghylch prosesu cynnwys a oedd efallai wedi’i gyflwyno’n rhy gyflym i ddysgu’n effeithiol, gydag amser annigonol i ffwrdd o’r sgrin.   

Rhoddodd ein darpar athrawon gipolwg i ni ar heriau ymgymryd â chynnwys darlithoedd, yn aml gan gystadlu â gofynion aelodau’r teulu a Wi-Fi annibynadwy.  Ond yn hollbwysig, rhoddon nhw atebion hefyd: mwy o sesiynau anghydamserol i ganiatáu hyblygrwydd, cyflwyno ar gyflymder mwy araf ac egwyliau amlach i ffwrdd o’r sgrin – dangosyddion addysgeg ar-lein effeithiol y gallwn ni i gyd bellach eu gwerthfawrogi.

Roedd ymateb tîm addysgu’r Athrofa yn gyflym ond gwnaethom droi’r fantol yn rhy bell y ffordd arall; yn y cyfarfod nesaf roeddem yn wynebu cwyn o ormod o gynnwys anghydamserol. Eiliad doniol oedd hwnnw – roedd llawer o chwerthin gan staff a myfyrwyr fel ei gilydd pan sylweddolodd y myfyriwr a gododd y mater ei bod yn cwyno am yr union beth y gofynnwyd amdano ond bythefnos ynghynt.  ‘Gofalwch rhag yr hyn a ddymunwch’ oedd ein hateb parod.  

Ac anghofio unrhyw jôc, mae’r newid barn yma wedi chwarae rhan hanfodol yn y broses o ymateb i’n myfyrwyr.  Y tro hwn rhoddodd ganllaw hollbwysig i staff academaidd o ran sefydlu cydbwysedd priodol rhwng dysgu cydamserol ac anghydamserol, ond mae wedi caniatáu i ni hefyd fod yn barod iawn i ymateb i faterion eraill ynghylch profiadau myfyrwyr, yn y brifysgol ac ar leoliad.  

Yn bwysicaf oll, roedd yn dystiolaeth weladwy bod lleisiau ein myfyrwyr yn cael eu clywed ac yn ennyn ymateb gan aelodau’r tîm cyfan ac nid gan y staff yng nghyfarfodydd y cynrychiolwyr yn unig.  Roedd hyn yn dangos neges glir bod eu profiadau’n bwysig, a byddai hyn yn dod yn hanfodol yn y misoedd wedi hynny pan wynebodd ein darpar athrawon heriau dysgu ac addysgu ar-lein yn eu hysgolion lleoliad.

Lle newydd – y cyfarfod ar-lein

Does dim amheuaeth bod y cyfarfodydd anffurfiol mwy cyson wedi chwarae rhan bwysig o ran meithrin perthnasoedd cryfach, gan ddatblygu ymddiriedaeth ac atal problemau rhag datblygu.  Ond mae cwestiwn diddorol ynghylch a ydy’r amgylchedd ar-lein wedi bod yn rym galluogi ynddo’i hun.

Fel y gallwn oll gydnabod, nid yw cyfarfod staff/myfyrwyr traddodiadol fel arfer yn creu trafodaeth hir – mae’r Cadeirydd yn llywio’r cyfraniadau ac fel arfer mae’r drafodaeth yn dilyn patrwm deialog ‘cychwyn – ymateb – adborth’.  Mae’r Cadeirydd yn gwahodd cyfraniad gan gynrychiolydd grŵp, mae’r cynrychiolydd yn ymateb ac mae’r Cadeirydd yn cynnig rhyw fath o ddilyniant.

Yn ddiddorol, gwelon ni nad yw’r patrwm deialog hwn yn cael ei atgynhyrchu yn yr un ffordd yn yr amgylchedd ar-lein ac roedd ffordd wahanol o gyfathrebu’n dechrau dod i’r amlwg.  Ar y cyfan, ymddangosai fod hyn yn gysylltiedig â’r defnydd o’r cyfleuster ‘sgwrsio’ sy’n cyd-redeg â’r sgwrsio llafar ar y sgrin.   Ychwanegodd y cyfnewid ysgrifenedig hwn ddimensiwn arall at y gair llafar gan roi cyfle unigryw i ddeialog ysgrifenedig ddigwydd nad yw’n bodoli mewn cyfarfodydd traddodiadol; am y tro cyntaf, mae’r cyfathrebu rhwng y cyfranogwyr yn cynnwys deuoliaeth deialog lafar ac ysgrifenedig.

Wrth edrych yn ôl drwy ‘sgwrsio’ cyfarfodydd anffurfiol y cynrychiolwyr, ymddengys fod y drafodaeth yn cyflawni’r swyddogaethau hyn:

  • cadarnhau cyfraniad unigolyn  
  • direidi – defnyddio hiwmor yn aml mewn cyfnewid cyflym
  • gwneud awgrymiadau heb aros i gael eich dewis drwy’r cyfleuster ‘codi llaw’ ar y sgrin
  • llesiant – gofyn sut mae pobl
  • creu consensws  
  • postio dolenni i ddogfennau/gwefannau defnyddiol

At hynny, mae pob un o’r swyddogaethau hyn yn cael ei chefnogi’n nodweddiadol gan haen arall eto o gyfathrebu – y defnydd symbolaidd o wenogluniau.  Yn aml gwelwn ddefnyddio eiconau ‘codi bawd’ a wynebau ‘hapus’ i gadarnhau, a ‘chalonnau’ a wynebau ‘trist’ i fynegi cydymdeimlad ac empathi.  I’r rheini sy’n cymryd rhan yn y cyfarfod, mae symud rhwng y drafodaeth lafar ac ysgrifenedig yn digwydd mewn ffordd ddi-dor sy’n ymddangos yn ddiymdrech.  

Mae’r sgwrsio ysgrifenedig â’i fywyd ei hun a gall unrhyw aelod o’r cyfarfod gyfrannu.  Mae rôl draddodiadol y Cadeirydd â’i fonopoli ar gychwyn-ymateb-adborth wedi diflannu.  Mae’r sgwrsio’n fwy cynhwysol gyda’r rhan fwyaf o’r cynrychiolwyr yn cymryd rhan, a byddai rhai’n dweud ei fod yn fwy democrataidd gyda’i opsiwn i bleidleisio drwy ‘godi bawd’ i fynegi consensws.

Yn ein profiad ni, mae hyn wedi arwain at greu lle newydd, lle sy’n cyfuno elfennau cyfnewidiadau llafar ar y sgrin ag agwedd ysgrifenedig gyflym a symbolaidd y sgwrsio.  Hoffem awgrymu bod y lle ‘newydd’ hwn yn darparu’r amgylchedd cymdeithasol cywir i gydweithredu go iawn ffynnu rhwng staff a darpar athrawon.

Mae Covid wedi creu mwy o heriau nag y gallwn ni feiddio eu dychmygu ac eto, mae rhywbeth nodedig iawn wedi dod i’r amlwg yn y broses.  Mae’r lle cyfarfod ar-lein wedi creu ffordd newydd o gydweithio sydd o bosibl yn fwy democrataidd, yn llai ffurfiol ac efallai’n fwy cynhwysol.  Mae hyn wedi rhoi’r cyfle i’n cynrychiolwyr grŵp chwarae rhan hollbwysig yn bartneriaid yn y broses o wneud penderfyniadau strategol ac maen nhw wedi tystio’n uniongyrchol i’w heffaith hwythau ar ffurf a strwythur taith y myfyrwyr.

 I staff, mae wedi bod yn fraint mynychu’r cyfarfodydd; mae’r cynrychiolwyr wedi rhoi dealltwriaeth amrywiol i ni o brofiadau myfyrwyr ac wedi ein galluogi i ymateb yn gyflym ac yn briodol.  Mae perthnasoedd wedi’u cryfhau wrth i staff a darpar athrawon symud i mewn i le cydweithredol proffesiynol.

Mae un o’n cynrychiolwyr TAR, Gabriella Blenkinsop, yn adfyfyrio bod realaeth ei rhaglen AGA yn hollol wahanol i’r hyn yr oedd wedi’i ddychmygu.  

Meddai: ‘Roedd y diwrnod agored a fynychais ar adeg pan oedd modd i ni gyd eistedd mewn ystafell, anadlu’r un awyr a chwrdd wyneb yn wyneb. Cerddais o gwmpas yr adeilad i synhwyro a fyddwn i’n gallu dysgu yno – adeilad rydw i brin wedi rhoi troed ynddo ers dechrau’r cwrs.  

‘Ar y dechrau doeddwn i ddim wedi rhagweld bod yn gynrychiolydd cwrs, ond pan ddaeth y cyfle, roeddwn i’n gyffrous iawn i gael y cyfle i weithio gyda staff y brifysgol.  Roedd cymryd rhan yn y cyfarfodydd a rhoi adborth nid yn unig wedi rhoi dealltwriaeth i mi o sut roedd y cwrs yn cael ei redeg, ond hefyd dysgais gynrychioli tîm a thrafod anawsterau ac atebion mewn lleoliadau anffurfiol a ffurfiol.’

‘Rydw i wedi gallu gweld yn uniongyrchol sut mae staff y brifysgol wedi addasu i Covid gan barhau i ddarparu’r cwrs gorau posibl ar gyfer y myfyrwyr.  Mae bod yn gynrychiolydd cwrs yn ystod pandemig wedi rhoi profiad amhrisiadwy i mi y byddaf yn ei gario gyda mi tu hwnt i’r brifysgol.’ 

Felly i gloi, mae ein cynrychiolwyr myfyrwyr wedi ein harwain at benderfyniadau na fyddai wedi digwydd efallai hebddynt; maen nhw wedi rhagweld problemau posibl oedd o’u blaenau ac wedi caniatáu i ni eu hosgoi neu eu lliniaru.   Mae eu gwerthfawrogiad cynyddol o bryderon ar lefel strategol wedi caniatáu iddyn nhw reoli llif y drafodaeth yn ôl ac ymlaen, rhwng staff a myfyrwyr, ac yn fwy pwysig â’i gilydd.  

Mae’r arddangosiad hwn o broffesiynoldeb a diplomyddiaeth oll wedi digwydd yn yr ystafell gyfarfod ar-lein ac mae wedi bod yn ddim llai nag agwedd sy’n ysbrydoli.  Yn y dyfodol, byddwn yn parhau i ddefnyddio’r lle newydd cydweithredol hwn gan wybod ei fod wedi gwella cynifer o agweddau ar ein gwaith gyda’r cynrychiolwyr grŵp, a byddwn, heb amheuaeth, yn parhau i groesawu cyfuno’r ddeialog lafar ac ysgrifenedig ynghyd â’i hwynebau hapus a thrist, pleidleisio drwy godi bawd a chalonnau bach coch.  

  • Lluniwyd y blog hwn ar y cyd gan dri o bobl a gymerodd ran yng nghyfarfodydd y cynrychiolwyr grŵp:  mae Gabriella Blenkinsop yn gynrychiolydd grŵp ar y rhaglen TAR Cynradd, mae Julia Holloway ac Elaine Sharpling yn staff o’r Ganolfan Addysg Athrawon