Mae Marchnad Llambed – Lampeter Market wedi ennill Gwobr Slow Food y DU am y Farchnad Orau yng Nghymru 2021
Ar ddechrau’r cyfnod clo mis Mawrth 2020, symudodd y farchnad o’i lleoliad gwreiddiol yn Neuadd Buddug a gyda chefnogaeth PYDDS Llambed wedi’i ail-leoli i gampws y Brifysgol yn Llambed. Ail-frandiwyd y Farchnad hefyd o’r enw blaenorol, Marchnad y Bobl i Marchnad Llambed – Lampeter Market, i adlewyrchu’r safle newydd yn y dref.
Ers symud y tu allan, mae’r Farchnad nawr yn cynnal 20+ o stondinau bwyd a chrefft rheolaidd ac wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer y masnachwyr a’r cwsmeriaid lleol ac ymwelwyr.
Mae’r wobr hon gan UK Slow Food ar gyfer y Farchnad Orau yng Nghymru yn adlewyrchu ymrwymiad y Farchnad i hyrwyddo gwerth bwyd sydd wedi ei gynhyrchu yn safonol yn lle bwyd brys, ac i lwyfannu’r ystod sylweddol o dalent, arloesedd a blas pur gwych mewn cynhyrchu bwyd lleol yng Ngheredigion ac yn ardal Llambed.
Mae hefyd yn adlewyrchu ethos ac ymrwymiad y Farchnad i gefnogi’r economi leol trwy gynhyrchu bwyd a chrefft lleol.

–