Diwrnod Agored Canolfan Tir Glas Manylion y Digwyddiad
Mae’r cysylltiad agos rhwng gweledigaeth y Brifysgol a’i hamgylchedd gwledig, a sefydlwyd gan ei sylfaenwyr cynnar, wedi parhau hyd heddiw. Roedd sylfaenydd Coleg Dewi Sant Llambed, yr Esgob Thomas Burgess, Esgob Tŷ Ddewi a hefyd Esgob Salisbury, yn aelod sefydlol o Gymdeithas Amaethyddol Odiham, yn ei esgobaeth yn Lloegr. Roedd ganddo empathi mawr tuag at yr amgylchedd gwledig, diddordeb dwys a dealltwriaeth agos o amaethyddiaeth a phwysigrwydd diwygio amaethyddol, ynghyd â phwysigrwydd hynny i’r gymuned. Yn Llambed, roedd gan yr Esgob Burgess barch aruthrol tuag at iaith a diwylliant Cymru, a dyfnhau dysgu a gwybodaeth alwedigaethol i bawb. Bydd y cefndir hwn yn ganolog i’r modd yr ymatebwn i heriau’r presennol. Mae’r un gwerthoedd wrth wraidd cenhadaeth y ganolfan, wrth fynd i’r afael a’r argyfwng hinsawdd a heriau cymdeithasol eraill. Mae’r gwerthoedd hyn yn cael eu rhannu gan aelodau’r ganolfan.
Mae’r ganolfan yn cyflwyno’r diwrnod agored yma ar ddydd Sadwrn 19eg gyda rhaglen o sesiynau sydd yn canolbwyntio ar y thema ‘Dysgu o Natur’, a cheir cyfraniadau gan ysgolheigion, arbenigwyr lleol mewn bwyd a ffermio, myfyrwyr, mentrau lleol a mentrau cymdeithasol ar ffurf amrywiaeth o gyflwyniadau, sgyrsiau byrion, arddangosfeydd, gweithgareddau ymarferol dan do ac yn yr awyr agored, gan gynnwys teithiau cerdded o amgylch y campws a’r dref. Mae’r gweithgareddau’n canolbwyntio ar thema gwytnwch, gan gynnwys addysg, lles, bioamrywiaeth ac adfer natur.
Mae’r Diwrnod Agored yn gyfle arbennig i’r cyhoedd ymgysylltu â’r Brifysgol ac i gyfrannu at drafodaethau a gweithgareddau sy’n ymwneud â phrif themâu Canolfan Tir Glas ar ddechrau cyfnod cyffrous newydd i’r Brifysgol yn Llambed, ac i’r gymuned y mae’n ei gwasanaethu.
Trefn y diwrnod i’w gweld isod:
• 9:00-9:30: Cofrestru
• 9:45- 10:00: Croeso
• 10:00-11:00: Panel Arbenigwyr
• 11:20-11:50: Sesiwn 1
• 12:00-12:30/13:10: Sesiwn 2
• 12:40-13:10: Sesiwn 3
• 13:10-14:10 Cinio
• 14:10-15:20/15:30: Sesiwn 4
• 15:30-16:00/16:30: Sesiwn 5
• 16:30: Cau.
Byddwch yn gallu dewis pob sesiwn ar y ffurflen archebu. Bydd nodyn o’ch dewisiadau yn cael ei gynnwys yn eich e-bost sydd yn cadarnhau eich archeb.
Gyda chymorth