Busnesau Lleol
Mae’r dudalen hon yn lwyfan ar gyfer busnesau Llambed a’r ardal agos. Byddwn yn diweddaru’r dudalen yn reolaidd.
Caffi Conti’s
Mae teulu Conti wedi ffynnu yng Nghymru ers i Artillio gyrraedd yn y 1930au.
Bu’n gweithio i Eidalwyr eraill, a wnaeth y daith o’i flaen, nes iddo arbed digon o arian i agor ei gaffi cyntaf – yn Ystradgynlais gyda’i ddau frawd.
Rhyngddynt llwyddwyd i agor 17 caffi Conti’s ar draws De a Gorllewin Cymru. Conti’s yn Llanbedr Pont Steffan, Gorllewin Cymru yw’r caffi olaf ar ôl bellach.


Gwesty Falcondale
Mae’r Falcondale yn Westy Tŷ Gwledig trawiadol gyda bwyty ac yn lleoliad priodas yn Llambed, Ceredigion, Canolbarth Cymru.
Mulberry Bush Wholefoods
Mae ‘Mulberry Bush Wholefoods’ yn siop bwyd iechyd a chaffi llysieuol teuluol, wedi’i lleoli yn nhref Prifysgol ffyniannus Llambed, Gorllewin Cymru. Agorwyd yn 1974 felly wedi cael ychydig o ymarfer yn cyrchu’r ‘stwff da’, gyda bwydydd cyflawn organig, fitaminau a mwynau o safon, meddyginiaethau llysieuol a homeopathi.
Agorwyd Caffi Llysieuol yn 2007 wrth ailadeiladu’r adeilad yn llwyr. Mae’r Caffi wedi bod yn cynnig ryseitiau anhygoel ers hynny.


Fferm Denmark
Mae Canolfan Cadwraeth Fferm Denmark ryw bedair milltir o Lambed yn warchodfa natur a reolir gan elusen sy’r agored I’r cyhoedd ar gyfer ystod o weithgareddau.
Bydd y llwybrau hynan-dywys yn eich arwain trwy amrywiaeth o gynefinoedd ac yn caniatau ichi brofi amrywiaeth anhygoel o fywyd gwyllt o amgylch y safle 40 erw.
Gallwch gymryd rhan mewn cwrs neu weithdy I ddysgu crefft Newydd neu fwy am ecoleg a chadwraeth. Mae ystod o gynigion llety yn cynnwys yr Eco Lodge hunan-arlwyo, Bunkhouse bach ac Eco Gwersylla. Mae cyfleusterau cynadledda ac ystafelloedd cyfarfod ar gael ar gyfer llu o ddigwyddiadau o encilion I gyfarfodydd busnes I ddathliadau teuluol.
Ymgynghorwyr Yswiriant Eryl Jones Cyf
Mae Ymgynghorwyr Yswiriant Eryl Jones Cyf yn Frocer Yswiriant cyfeillgar a ddwyieithog sydd wedi ei leoli yn nhref hanesyddol Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion. Wedi’i sefydlu yn 1990, mae gan ein tîm brofiad helaeth o gefnogi ystod eang o gwsmeriaid ledled y rhanbarth a thu hwnt, gan gynnig cyfoeth o wybodaeth a chyngor, ynghyd â gwasanaeth ceisiadau llawn.
Rydym yn cynnig amrywiaeth o bolisiau yswiriant cystadleuol a phersonol, o geir a thai i ffermydd a busnesau, ac rydym bob amser yn barod i helpu.


Gwilym Price Mab a Merched
Siop deuluol tair genhedlaeth wedi’i lleoli yng nghanol Llambed. Fe’i sefydlwyd dros 50 mlynedd yn ôl gan Gwilym a’i wraig Phyllis. Ymwelwch â ni i ddod o hyd i ddetholiad o ddodrefn cain, nwyddau cartref, anrhegion a llawer mwy.
Hedyn Mwstard
Caffi a siop lyfrau Cristnogol yw’r Hedyn Mwstard, ochr draw i’r brifysgol yn Llanbed, wedi ei sefydlu ers bron i 19 mlynedd. Bu’n gweini bwyd a diod ac yn darparu lle o gymorth, cynhaliaeth a chyngor ysbrydol i’r gymuned ehangach dros lawer o flynyddoedd.
Yr ydym yn cael ein cysylltu’n agos gydag Eglwys Efengylaidd Llanbed sy’n cwrdd yn yr adeilad drws nesaf. Mae croeso i bawb i ddod i’r caffi ac i’r eglwys; byddem yn hynod falch i’ch cwrdd.


Siop y Smotyn Du
Ar gyfer eich llyfrau Cymraeg
32 Stryd Fawr
Llanbedr Pont Steffan
Ceredigion SA48 7BB
Ffôn: 01570 422 587
Clinig Podiatric Pont Steffan
Sefydlwyd y clinig gan Rosellen Moore yn 2019, yn darparu gofal traed cyfeillgar, proffesiynol, sy’n canolbwyntio ar y cleientiaid o bob oedran. Cymhwysodd Rosellen fel podiatrydd yn 2005 ac mae ganddi gyfoeth o wybodaeth a phrofiad wedi gweithio i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, yn arbenigo mewn gofal traed clefyd y siwgr.
Mae’r cleientiaid yn cynyddu, ac yn ddiweddar mae’r Clinig wedi ehangu’r Gwasanaethau, wrth gyflogi Ymarferydd Iechyd Traed Joanna Rosiak (yn Gymwys ers 2021). Mae hynny wedi galluogi’r clinig i fod ar agor mwy o ddiwrnodau’r wythnos a darparu gwasanaeth ymweliadau cartref parhaus. Mae Clinig Podiatric Pont Steffan wedi’i leoli’n ganolog yn nhref Prifysgol Llambed, edrychwch am y “DROED FAWR WEN” yn y ffenestr!


LAS Recycling Ltd
Cwmni casglu a gwaredu gwastraff teuluol a sefydlwyd yn Llanbedr Pont Steffan yn 1965. Mae’r cwmni bellach yn eiddo i’r brawd a chwaer Mark a Tina sef y drydedd genhedlaeth o’r teulu i barhau â’r busnes.
Maent yn gweithredu ledled Ceredigion, Sir Gaerfyrddin, Powys, Abertawe a Sir Benfro Ar gyfer eich holl anghenion gwaredu gwastraff cysylltwch â LAS Recycling Ltd.
Evangelisa G&B
Wedi’i leoli ar y Stryd Fawr yn Llambed, mae ein hadeilad Gradd II rhestredig, yn enghraifft hyfryd o’r cartref carreg Sioraidd. Rydym yn Wely a Brecwast ar gyfer oedolion yn unig ac rydym wedi rhoi llawer o feddwl i’n hystafelloedd, eu steil a/u cyfleusterau, gan obeithio sicrhau bod gennych bopeth sydd ei angen arnoch, ac mae pob un yn adlewyrchu agwedd wahanol ar y genedl falch hon.
Mae diwrnod yn Evangelisa yn dechrau gyda brecwast swmpus, gyda bwydlen draddodiadol Gymreig yn cynnwys bara lawr a chocos Penclawdd neu seigiau o’ch dewis gydag opsiynau llysieuol a fegan hefyd. Rydym yn angerddol am gefnogi ein busnesau a’n cyflenwyr lleol er mwyn gweini’r cynnyrch lleol gorau y gallwn.


Y Becws
Gwerthu bara, ysgytlaeth trwchus, bara arbenigol, cacennau, Mr Whippy, toesenni hufen iâ, teisennau, amrywiaeth o doesenni yn ogystal â gwerthu cynnyrch lleol.
Popty a Chaffi Mark Lane
Popty a Chaffi teuluol gyda thair cenhedlaeth yn gweithio yn y busnes.
Croeso cynnes Cymreig, opsiynau bwydlen wych, bara a chacennau wedi’u cynhyrchu ar y safle.


Shapla Tandoori
Rydym yn cynnal y safon aur wrth goginio rhai o’r prydau Indiaid gorau i’n cwsmeriaid fwynhau.
Mae ein sgiliau yn dibynnu ar y cymysgedd cywir a chydbwysedd y sbeisys a pherlysiau a ddefnyddiwn i baratoi a choginio ein bwyd.
Mae ein holl gynhwysion wedi’u paratoi’n ffres a’u coginio gan ddefnyddio’r sbeisys a pherlysiau Indiaid gorau a dilys.


D.L. Williams Canolfan Gartref a Storfa Dodrefn
Yn cynnig popeth sydd ei angen arnoch ar gyfer eich cartref traddodiadol neu fodern, o ddodrefn meddal, dodrefn ystafell wely, byrddau a llawer mwy. Rydym hefyd yn gwerthu dillad dynion, dillad merched, dillad plant Cymreig, esgidiau, anrhegion a llawer mwy yn ein siop ar Stryd y Coleg.
Mae gwasanaeth dosbarthu prydlon ar gael ar ddarnau o ddodrefn i’r ardal leol a thu hwnt.
Canolfan Cwiltiau Cymreig
Daeth y syniad i agor Canolfan i ddathlu a hybu dealltwriaeth ehangach o’r Cwilt Cymreig gan Jen Jones. Mae ei hobsesiwn a chasglu Cwiltiau, Blancedi a Thecstilau Cymreig wedi ymestyn dros ddeugain mlynedd.
Mae dyfalbarhad Jen wedi arwain at achub a chadw’r rhan hollbwysig hon o dreftadaeth Cymru. Gwerthfawrogwyd hyn gan Fenter Mynyddoedd Cambria, gan arwain at benodi Jen Jones fel Llysgennad Twristiaeth. Ysbrydolwyd Menter Mynyddoedd Cambria gan Ei Uchelder Brenhinol, Tywysog Cymru i ‘gynnal ffermydd ucheldir Cymreig traddodiadol a chymunedau gwledig’.


Marchnad Llambed
Cynhelir Marchnad Llambed ar yr ail a’r bedwerydd Sadwrn ar gampws Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant rhwng 10am ac 1pm.
Mae’r Farchnad yn cynnig cynnyrch lleol gan gynnwys caws, bara, ffrwythau, llysiau, cig, madarch ac amryw o eitemau crefft fel sebon a chynnyrch gofal croen.
Pwrpas y farchnad yw rhoi cyfle i brynu bwydydd, cynnyrch a chrefftau lleol. Ar yr un pryd rhoi cyfle i gynhyrchwyr lleol ddangos yr hyn sydd ar gael gerllaw.
Rydym yn hoffi meddwl ein bod wedi creu awyrgylch cyfeillgar, croesawgar a chyfforddus yn y farchnad ac mae gennym gaffi gwych, cerddoriaeth fyw, ac atyniadau achlysurol eraill fel cyfnewid llyfrau, cyfnewid hadau a chyfnewid planhigion.
Bydd croeso cynnes yn eich disgwyl.
Coedwig Cymunedol Longwood
Mae Coedwig Gymunedol Longwood yn goedwig gymysg maint 325 erw sydd wedi’i lleoli’n agos at dref farchnad Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion yng Ngorllewin Cymru. Nod Coedwig Gymunedol Longwood yw adfer ardaloedd planhigfeydd anfrodorol y goedwig i rywogaethau llydanddail brodorol wrth reoli’r goedwig fel adnodd cymunedol.
Mae Longwood yn eiddo’n gyfan gwbl i’r gymuned ac yn cael ei reoli fel cwmni cyfyngedig ar sail nid er elw. Defnyddir yr holl elw o weithgareddau masnachol i wella’r adnodd hamdden cymunedol hwn ymhellach.


Y Stiwdio Brint
Siop Argraffu Ffotograffeg annibynnol yw Y Stiwdio Brint, a leolir yn Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion, ac rydym yn ymfalchïo wrth ddarparu argraffu o safon uchel, gyda gwasanaeth gwych bob tro.
Yn ogystal â chreu printiau o ansawdd da o’ch ffôn symudol, camera digidol, neu prints gwreiddiol, mae gennym siop ar-lein bwrpasol ac ap symudol i’ch galluogi i archebu’ch prints ag anrheg luniau yn hawdd o adref.
Rydym yn teilwra ein gwasanaethau i gwrdd ag anghenion ffotograffwyr amatur a phroffesiynol ynghyd, felly mae yna groeso i bawb yn Y Stiwdio Brint!