Hwb Bwyd Cymunedol

Wrth i darn o dir Pontfaen gael ei werthu i Aldi, bwriad y Brifysgol yw prynu neu rentu adeilad yng nghanol Llambed a fydd yn gweithredu fel cyfleuster cymunedol ar gyfer gweithgareddau sy’n ymwneud â datblygu a hyrwyddo system fwyd leol gydnerth. Y bwriad fyddai cydweithio â busnesau a mudiadau yn y dre, colegau addysg bellach lleol, Ysgol Bro Pedr ac asiantaethau hyfforddi i ddatblygu adnodd hyblyg sy’n gallu cynnal amrywiaeth o weithgareddau sy’n ymwneud â bywd lleol, mewn meysydd fel cynaliadwyedd, maeth, lletygarwch a datblygu economaidd. Rhagwelir y byddai’r lleoliad yn gyfle i ddenu bwytai ‘pop-up’ a fyddai’n caniatâu i gogyddion a busnesau bwyd lleol, ac o bryd i’w gilydd, cogyddion a busnesau bwyd y tu hwn i’r ardal, arddangos cynnyrch lleol. Byddai amcanion y lleoiad hwn yn cynnwys:

1.   dod â’r dref a’r brifysgol yn agosach at ei gilydd a sicrhau bod gan brosiect Canolfan Tir Glas bresenoldeb yn y dref wrth iddi ddatblygu a thyfu;

2.   cynnig adnodd hyblyg a hygyrch i’r gymuned ddod at ei gilydd mewn gweithgareddau sy’n ymwneud â datblygu economi bwyd lleol ffyniannus, cynaliadwy a chydnerth;

3.   darparu lleoliad ar gyfer cyrsiau byrion sy’n ymwneud â bwyd;

4.  cyflwyno’r gallu i groesawu busnesau bwyd ‘pop-up’ – fel ymweliadau unigol neu dros gyfnod byr – drwy ddarparu cyfleuster profi ar gyfer y rheini sy’n newydd i’r maes lletygarwch yn ogystal â dod â chogyddion adnabydddus o ardal ehangach i weithio gyda chynnyrch lleol;

5.   gweithredu fel sbardun ar gyfer gweithgarwch economaidd yn y dref a dod â bywiogrwydd ychwanegol i apêl canol y dref fel lle i ymweld ag ef, siopa a mwynhau amser hamdden;

6.   datblygu a chynnal rhwydweithiau lleol ym maes bwyd a lletygarwch a darparu gofod cynhyrchiol i drafod a datblygu syniadau mewn perthynas â materion cyfoes a’r heriau sy’n gysylltiedig â bwyd a’r broses o gynhyrchu bwyd.