Y Weledigaeth

Mae’r Drindod Dewi Sant yn cynnig gweledigaeth uchelgeisiol a beiddgar ar gyfer Llambed a’r cyffiniau. Mae’n gynllun hir-dymor a fydd yn sbarduno gweithgaredd economaidd, cymdeithasol a diwylliannol yr ardal ac yn cynnig bywyd ac egni newydd i’r dref. Mae’n fenter gydweithredol lle bydd y Brifysgol yn cydweithio’n agos â Chyngor Sir Ceredigion, Coleg Ceredigion a Choleg Sir Gâr, Cyngor Tref Llambed, Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Canolbarth Cymru, Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru a Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.

Pe bai’n cael ei chyflawni’n llwyddiannus, gellid ailadrodd y weledigaeth ar draws y rhanbarth a rhoi enghraifft o arfer gorau i Lywodraeth Cymru yng nghyd-destun adfywio economaidd a chymdeithasol yn y Gymru wledig.  

Bwriad y Brifysgol yw gweld Canolfan Tir Glas yn cynnal eco-system yn yr ardal a fydd yn cefnogi isadeiledd gwledig ac yn gweithredu fel catalydd ar gyfer hyrwyddo diwylliant cydnerthedd gyda ffocws clir ar fwyd a lletygarwth. Bydd cynaliadwyedd yn greiddiol i’r cynllun, gyda’r thema hon yn treiddio trwy ei amrywiol gydrannau.  

Mae gan y weledigaeth chwe chydran allweddol:

  1. Pentref bwyd Pontfaen
  2. Hwb Bwyd Cymunedol
  3. Academi Bwyd Cyfoes Cymru
  4. Hwb Mentergawrch Gwledig
  5. Canolfan Cydnerthedd a Harmoni Cymru
  6. Canolfan Datblygu Perfformiad Adeiladau a Phren Cymru CWIC

Bydd yr holl elfennau hyn yn cysyllu a’i gilydd i roi cyfle unigryw i’r dref a’r Brifysgol gydweithio’n strategol er lles a ffyniant yr economi leol am flynyddoedd i ddod.

Bydd cysyniad Pentref Bwyd Ponftaen yn caniatâu i’r Brifysgol, ar y cyd gydag Aldi, i arddangos a dathlu cynnyrch bwyd lleol, tra bod yr Hwb Bwyd Cymunedol arfaethedig yn caniatâu i’r Brifysgol fuddsoddi mewn cyfleuster cymunedol ar gyfer hyrwyddo dealltwriaeth a datblygiad sgiliau mewn perthynas a bwyd lleol yn Llambed.

Serch hynny, y datblygiad mwyaf arwyddocaol fydd creu Academi Bwyd Cyfoes Cymru ar gampws y Brifysgol. Y nod yw gwneud cais am gyllid wrth Fargen Twf Canolbarth Cymru i sefydlu hwb canolog ar gyfer addysg bwyd yn y rhanbarth, gan ddarparu fforwm strategol gyda sefydliadau partner i gynorthwyo’r broses o gyfeirio a chydlynu pob agwedd ar hyfforddiant  bwyd ar draws Canolbarth a De Orllewin Cymru.    

Bydd gan yr Hwb Mentergarwch Gwledig rôl bwysig wrth hyrwyddo a chefnogi busnesau bychain mewn cyd-destun gwledig, gyda phwyslais penodol ar y diwydiannau bwyd a lletygarwch. Bydd yr hwb yn canolbwyntio ar ddarparu cefnogaeth a hyfforddiant i’r sawl sy’n dymuno datblygu sgiliau busnes uwch a chael mynediad i hyfforddiant proffesiynol.

Bydd yr hwb hefyd yn gartref i glwstwr o unedau hybu i raddedigion a phobl leol sydd eisiau sefydlu eu busnesau eu hunain ar y campws.

Lansiwyd Canolfan Cydnerthedd a Harmoni Cymru yn swyddogol ar y campws ym mis Tachwedd 2021. Cafodd y Ganolfan ei hysgogi gan aelodau Hwb Ymaddasu Llambed a bydd ganddi’n fuan amrywiaeth o gyrsiau achrededig a heb eu hachredu mewn meysyss sy’n ymwneud ag addasu a gwrthweithio effeithiau newid hinsawdd. Bydd yn ymateb yn uniongyrchol i’r galw am hyfforddiant cydnerthed o fewn meysydd fel amaethyddiaeth, garddwriaeth, ynni ac adeiladu gyda’r bwriad o rymuso a chefnogi’r gymuned a’r economi yn Llambed a’r cyffiniau.

Drwy sefydlu Canolfan Datblygu Perfformiad Adeiladau a Phren Cymru CWIC, nod y Brifysgol yw cydweithio a Wood Knowledge Wales i ddod ag adnoddau ac ymchwil pwrpasol at ei gilydd i hyrwyddo dulliau modern a chynaliadwy o adeiladu gyda’r bwriad o ddatgarboneiddio’r diwydiant adeiladu yng Nghymru maes o law. 

 Er mwyn i’r weledigaeth ddwyn ffrwyth, mae’r Brifysgol yn ymwybodol iawn o bwysigrwydd cynnwys y gymuned yn y datblygiadau o’r cychwyn cyntaf. Bydd perchenogaeth y gymuned  o’r datblygiadau yn allweddol. Yn hyn o beth, y nod yw adeiladu ar gryfderau presennol gan sefydlu rhwydweithiau a phartneriaethau cadarn yn lleol, ar draws Ceredigion a thu hwnt. Bydd cyfathrebu rheolaidd ar blatfformau amrywiol yn allweddol i gynnal diddordeb, annog pobl i gymryd rhan ac ysgogi syniadau newydd.  

Ein gweledigaeth yw datblygu cynnig unigryw yn Llambed drwy weithio’n agos â’r gymuned leol, datblygu lefelau sgiliau yn yr ardal, creu cyfleoedd gwaith newydd a denu buddsoddiad pellach i’r dref.

Gyda’r pandemig presennol wedi newid agweddau pobl at yr amgylchedd, iechyd a lles, a chyda phwyslais cynyddol o du Llywodraeth Cymru ar brif egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, bydd sefydlu Canolfan Tir Glas yn ddatblygiad amserol y dylai fod croeso iddi yn lleol ac yn genedlaethol.